Ymweld â Ystad Hafod

Mae Hafod yn un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd sy’n arddangos steil y pictiwresg o’r ddeunawfed ganrif. Wedi’i guddio yng nghrombil canolbarth Cymru bu’r ystad unwaith yn gartref llewyrchus i deulu’r Johnes – ac wedi’i ddisgrifio yn aml fel paradwys i’r rhai oedd yn byw yma. Er nad yw’r plasdy yn bodoli heddiw, mae rhywfaint o’r adeildadwaith o gyfnod yr ystad wreiddiol yn goroesi, gan amlygu straeon cudd o gyfnod hanesyddol cyffrous.
Cwympo coed yn Hafod
Yn Hafod, ry’ ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rheoli’r goedwig weithredol. Mae CNC wedi dechrau ar y gwaith brys o gwympo ardal o goed sydd wedi’u heintio gydag afiechyd.
Mae’r gwaith wedi dechrau Ddydd Llun 9 Hydref 2023 ac yn debygol o barhau am o leiaf chwe wythnos.
Bydd ardal 6.5 hectar o goed yn cael eu cwympo, sy’n cynnwys y coed pinwydd urddasol ger y llwybr sy’n arwain o faes parcio Hafod ger yr Eglwys tuag at Raeadr Peiran.
Ceir mwy o wybodaeth am pam fod rhaid cwympo’r coed ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Bydd gwyriad mewn lle ar y llwybrau; gyda’r prif lwybr i fewn i Hafod o’r maes parcio ar gau, bydd y gwyriad ar hyd llwybr Cofgolofn Bedford. Dilynwch yr arwyddion lleol a’r gwyriad i’r llwybrau wrth ymweld a’r safle.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych, gellir cysylltu gyda CNC ar 0300 065 3000 neu ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Os hoffech siarad gyda’r tîm lleol yn Hafod, gellir cysylltu ar 01974 282568 neu hafod@nationaltrust.org.uk
Cerdded yn Hafod
O fewn yr ystad 200 hectar cewch hyd i bum llwybr wedi’i cyfeirio yn amrywio mewn hyd a thirwedd. Mae’r llwybrau wedi’u creu i wneud y gorau o’r golygfeydd amrwyiol, gan gynnwys y rhaeadrau, llennyrch mwsogl, gerddi wedi’u hadfer a phontydd dros geunentydd creigiog.
Mae’r teithiau ar gael i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn. Gyda’r teithiau hynny yn dilyn yr un llwybrau cylchol hanesyddol â greuwyd gan Thomas Johnes yn ei flynyddoedd cyntaf yn Hafod – llwybr Rhodfa’r Foneddiges a Rhodfa’r Bonheddwr sy’n lwybr mwy egniol sy’n mynd a chi heibio pont wladaidd a rhaeadr ‘mossy seat’. Mae hefyd modd i chi ymweld a’r eglwys, Eglwys Newydd, wedi’i adeiladu gan Johnes yn 1803 a’r unig adeilad mawr sy’n dal i sefyll o’r cyfnod hynny. Heddiw mae’n gartref i arddangosfa am yr ystad.
Beth sydd i’w weld yn Hafod heddiw?
Mwynhewch safle heddychlon Gardd Flodau Mrs Johnes’, gan gynnwys y mynedfeydd cerrig sydd wedi’u hadfer a phlanhigion sy’n cydfynd a’r rhai gwreiddiol oedd yn tyfu yma.
Yn ogystal â’r ardd wreiddiol, darganfyddwch nodweddion wedi’u hadfer o amgylch yr ystad fel y bont gadwyn, pont shân, y twnel a ffynnon Silenus.
Mae’r ystad yn parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio Cymru yn chwilio am ardaloedd o natur gwyllt, gan ddenu unigolion creadigol, ysgrifennwyr ac artistiaid sy’n adlewyrchu hud y tirwedd o fewn eu gwaith.
Natur a bywyd gwyllt Hafod
Wrth grwydro ger yr afon – efallai cewch gipolwg ar ddyfrgi, neu os byddwch yn dawel iawn, gweld glas y dorlan yn gwibio heibio a’r siglen neu’r trochwr yn gorffwys gerllaw. Edrychwch yn yr awyr am adar ysglyfaethus fel gwalch Marthin gyda’u hadenydd eang o liw golau, y bwncath (gyda’u cynffon crwn) neu’r barcud coch (gyda’u cynffon fforchog). Mae’r bele swil i’w gweld weithiau yn crwydro’r coedwigoedd yn chwilota am fwyd a pharatoi at y torllwyth nesaf yn y gwanwyn.
Mae Hafod yn safle sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gan gael ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae’r dolydd yn gartref i gapiau cwyr bendigedig ac ochrau’r dyffrynnoedd serth yn creu awyrgylch arbennig ar gyfer cennau, rhedyn, mwsoglau a ffwng.
