Cwestiynau Cyffredin am Lanerchaeron

Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn annog adborth gonest ar gynigion i gyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron.
Diolch i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu barn gyda ni ar-lein neu yn ystod ein dyddiau ymgynghori cyhoeddus agored ar y safle. Rydym wedi gwrando ar eich ymatebion a’ch adborth, sydd wedi llywio ein penderfyniad i gyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron yn ystod y tymor prysuraf er mwyn cefnogi ein gwaith cadwraethol yn yr ardal:
• Bydd parcio rhwng 1 Tachwedd – 28 Chwefror yn parhau am ddim i’r holl ymwelwyr.
• Pan ddaw y ffioedd i rym, bydd ffioedd parcio’n berthnasol rhwng 1 Mawrth i 31 Hydref, rhwng 10:00 - 17:00.
• Bydd awr gyntaf ymweliad pawb yn rhad ac am ddim.
• Pan ddaw y ffioedd i rym, codir ffi barcio o £3 y diwrnod.
• Nid ydym wedi penderfynu ar ddyddiad i gyflwyno’r ffioedd parcio eto, ond byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw.
• Bydd aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael parcio am ddim fel ym meysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gynhyrchu incwm a chefnogaeth aelodau er mwyn diogelu safleoedd arbennig, fel Llanerchaeron, ac rydym yn diolch i bawb am eu cymorth.
Bydd aelodau Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwirfoddolwyr a deiliaid Bathodyn Glas gyda phrawf adnabod dilys yn gallu parcio am ddim drwy'r flwyddyn o hyd.
Os hoffech chi gysylltu â ni am y ffioedd parcio, anfonwch e-bost at: llanerchaeron@nationaltrust.org.uk
Cwestiynau Cyffredin
Dyma atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.
Pam mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron?
Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm gan ein hymwelwyr i ariannu ein gwaith o ofalu am Llanerchaeron. Bydd codi ffi barcio hefyd yn ein galluogi i barhau i gyflwyno cyllid i ofalu am erddi’r fila, yr iard fferm a chynnal a chadw cyfleusterau yn ogystal ag ymgymryd â gwaith cadwraeth pwysig yn Llanerchaeron.
Beth yw’r ffioedd, a phryd fydden nhw’n dod i rym?
Nid ydym wedi penderfynu ar ddyddiad i gyflwyno’r ffioedd parcio eto, ond byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw.
Pan ddaw y ffioedd i rym, codir ffi barcio o £3 y diwrnod ar gyfer unigolion nad ydynt yn aelodau, a bydd hyn yn berthnasol yn ystod y tymor prysuraf yn unig, rhwng 10am-5pm, 1 Mawrth-31 Hydref. Yn ogystal â hynny, ar ôl derbyn adborth y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad.
Bydd parcio y tu hwnt i’r dyddiadau hyn am ddim o hyd. Bydd aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael parcio am ddim fel ym meysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
A fydd rhaid i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dalu’r ffi barcio?
Bydd aelodau’n cael parcio am ddim, fel ym meysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Rydym yn annog aelodau i sganio eu cerdyn yn ein peiriannau talu ac arddangos pan maent yn cyrraedd. Bob tro mae aelod yn sganio ei gerdyn aelodaeth, mae’n rhoi £3.50 yn ôl i Lanerchaeron er mwyn helpu i ofalu am y lle arbennig hwn.
Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pennu ffioedd parcio?
Caiff ffioedd parcio eu pennu a’u gosod yn lleol gan ein safleoedd, yn seiliedig ar gyd-destun lleol. Rydym yn ystyried ystod o ffactorau wrth benderfynu ar brisiau, gan gynnwys ffioedd parcio eraill yn yr ardal, barn y cymunedau lleol, a chostau cyfleusterau a gwaith cynnal a chadw.
A allaf ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth pan wyf yn ymweld â Llanerchaeron?
Gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar a fydd yn fodlon eich helpu i ymaelodi.
Mae aelodaeth unigol yn costio £6.40 y mis (£1.60 yr wythnos). Mae bod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn golygu eich bod yn cael mynediad rhad ac am ddim i dros 500 o leoedd, a pharcio am ddim ar draws y rhan fwyaf o’n safleoedd, tanysgrifiad i’n cylchgrawn, llawlyfr a mynediad at ein hardal aelodau ar-lein.
Beth am ddeiliaid bathodyn glas? A fydd rhaid iddyn nhw dalu?
Ni chodir ffi ar ddeiliaid bathodyn glas i barcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, os ydynt yn arddangos prawf adnabod dilys.
Beth am unigolion sy’n cyrraedd ar droed, ar gefn beic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Mae’r ffi barcio’n berthnasol fesul cerbyd. Ni chodir ffi ar unigolion sy’n cyrraedd mewn unrhyw ffordd arall.
Pam ydych chi’n dechrau codi ffi nawr?
Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm rydym yn ei dderbyn gan ein hymwelwyr er mwyn ein helpu i ofalu am y lleoedd arbennig dan ein gofal. Bydd codi ffi barcio yn ein galluogi i barhau i gyflwyno cyllid i ofalu am y cyfleusterau a chynnal gwaith cadwraeth pwysig yn Llanerchaeron, fel calchu’r fila Sioraidd ac adfer y tŷ gwydr.
A fydd rhaid i ymwelwyr rheolaidd dalu?
Pan ddaw y ffioedd i rym, bydd ffi barcio £3 y diwrnod ar gyfer unigolion nad ydynt yn aelodau, a bydd hyn yn berthnasol yn ystod y tymor prysuraf yn unig, rhwng 10am-5pm, 1 Mawrth-31 Hydref. Yn ogystal â hynny, ar ôl derbyn adborth y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad.
Os ydych yn ymweld â Llanerchaeron yn rheolaidd, gall ymaelodi fod yn opsiwn cost effeithiol. Mae ein haelodau’n cael parcio am ddim a mynediad at dros 300 o dai a 200 o erddi, sy’n golygu eich bod yn cefnogi ein gwaith yn lleol a ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
A fydd rhaid i bobl dalu os ydynt eisiau defnyddio’r caffi’n unig?
Ar ôl derbyn adborth gan y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad. Ar ôl hynny, bydd angen i unigolion nad ydynt yn aelodau sy’n ymweld â Chaffi Conti ac sy’n parcio yn Llanerchaeron dalu’r ffi barcio.
Rwy’n gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth, a fydd rhaid i mi dalu?
Mae parcio’n rhad ac am ddim i wirfoddolwyr gweithredol gyda cherdyn gwirfoddoli.
Pa ddulliau talu fyddwch chi’n eu derbyn?
Pan ddaw y ffioedd i rym, gallwch dalu gydag arian parod a cherdyn yn y peiriannau talu ac arddangos pwrpasol.
A fydd angen i mi dalu os wyf yn stopio’n gyflym i ddefnyddio'r toiled neu’r caffi?
Ar ôl derbyn adborth y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad ar gyfer unigolion sydd eisiau defnyddio’r toiledau, y ganolfan groeso, siop neu'r caffi.
A fydd codi ffi barcio yn annog pobl i barcio ar yr ymylon?
Rydym yn gofyn i’r cyhoedd barcio’n gyfrifol, er mwyn cadw’r ffordd yn glir ac yn rhydd rhag rhwystrau. Byddwn yn cysylltu â’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod yr ymylon a’r ffyrdd yn parhau mor glir â phosibl, er mwyn atal problemau i gymdogion a gwasanaethau.
Rhagor o wybodaeth:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: llanerchaeron@nationaltrust.org.uk
Gallwch hefyd gadw llygad ar ein newyddion diweddaraf yn: nationaltrust.org.uk/llanerchaeron