
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.
Ciliau Aeron, ger Aberaeron, Ceredigion, SA48 8DG
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ | 11:00 - 15:30 |
Gerddi, buarth a’r llyn | 10:00 - 16:30 |
Caffi | 10:00 - 16:00 |
Casgliad Geler Jones | 10:00 - 15:30 |
Derbynfa ymwelwyr a siop llyfrau ail law | 10:00 - 16:00 |
Maes Parcio | 09:30 - 17:00 |
Teithiau cerdded coetir | Ar agor trwy'r dyd |
Mae’r tŷ, gerddi, buarth y fferm, Casgliad Geler Jones, y llyn, siop lyfrau ail-law a Chaffi Conti’s ar agor o Ddydd Mercher i Ddydd Sul pob wythnos yn ystod y prif dymor (nodwch fod mynediad olaf am 4yh). Yn ystod y Pasg, Hanner Tymor mis Mai a Gwyliau’r Haf bydd Llanerchaeron ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £11.00 | £10.00 |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £5.50 | £5.00 |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £27.50 | £25.00 |
1 oedolyn, 2 blentyn | £16.50 | £15.00 |
Grŵp (Oedolyn 18+) | £8.00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
£3.00 |
Mae croeso i gŵn ar dennyn yn y gerddi muriog, o amgylch y llyn a'r tiroedd pleser, fferm, maes parcio, canolfan ymwelwyr a'r caffi. Does dim mynediad i'r Fila i gŵn (Tŷ)
Cynnyrch o ardd furiog Llanerchaeron ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Siop lyfrau ail law wedi'i leoli yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Toiledau ar gael ger y Ganolfan Ymwelwyr drws nesaf i Gaffi Conti's.
Parcio Bathodyn Glas yn y maes parcio. Rampiau i’r prif safle gyda llwybrau graean drwyddi draw. Ramp i’r tŷ gyda fideo o’r lloriau uchaf ar gael yn yr Ystafell Filiards. Tai bach hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr ac ar y safle. Cadair olwyn ar gael.
Cadair olwyn i'w gweithio â llaw ar gael yn y dderbynfa
Lleolir Llanerchaeron 2.8 milltir i’r dwyrain o ganol Aberaeron, ar hyd yr A482.
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Mae bws T1 i Aberaeron yn gadael pob awr. Mae'r T5 a X50 o Aberteifi i Aberaeron yn gadael pob awr a hanner. Mae Llanerchaeron 2½ milltir o Aberaeron.
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Cewch wybodaeth ynghylch lle y cewch ac na chewch fynd â nhw a pha gyfleusterau sydd ar gael.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad priodas llawn hanes a chyfaredd Cymreig, mae Llanerchaeron ar gael ar gyfer seremonïau sifil a gwleddoedd priodas.
Fila Sioraidd moethus a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash.
Ystâd sy’n cynnwys llwybrau ag arwyddion a choetir sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt sy’n amgylchynu Dyffryn Aeron ac wedi’i diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Wedi’i hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif, mae’r ardd furiog wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd.
Buarth Cymreig traddodiadol sy'n gartref i amrywiaeth o fridiau Cymreig.
26 Mai - 1 Mehefin (10am - 4pm). Treuliwch y diwrnod yn Llanerchaeron, bydd gweithgareddau i’w mwynhau gennych chi a’r plant. Fyddwch chi’n gallu gweld pa rai o ffrindiau Ceri’r Cadno sydd wedi ymweld â Llanerchaeron yr wythnos hon? Dilynwch y map, darganfod y cliwiau a gweld pwy wnaeth alw heibio.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Mwynhewch ddiwrnod allan yn crwydro ystâd draddodiadol Gymreig. Ymwelwch â'r anifeiliaid ar fuarth y fferm, ewch am dro o amgylch yr ardd furiog a chymerwch eiliad i oedi ger y llyn addurniadol. Gadewch i'r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Bydd y daith heriol hon yn eich arwain o harddwch glan y môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd Bae Ceredigion at hen faenor fynachaidd Mynachdy’r Graig.
Mwynhewch gylchdaith ar hyd y clogwyni o fae bychan Cwmtydu i Gwm Soden ger Llanerchaeron, gan wylio glöynnod byw ac amrywiaeth o fywyd gwyllt arall ar hyd y daith.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
The ultimate woodland retreat, this fairy-tale cottage nestles in the Aeron Valley.
A delightful vernacular cottage with a little bit of history in all its nooks and crannies.
Mae Llanerchaeron yn gwesteio 'Parkrun' am 9yb pob Dydd Sadwrn, dewch at eich gilydd i redeg, cerdded neu loncian. | Llanerchaeron hosts parkrun at 9am sharp, every Saturday morning, get together, walk, run or jog.
Treuliwch hanner tymor gyda’r teulu yn Llanerchaeron gyda digonedd i gadw’r plant a chithau wedi’u diddanu yn ystod eich ymweliad | Spend half term at Llanerchaeron, there’ll be events and activities to keep both you and the kids entertained.
Bydd Llanerchaeron yn croesawu grŵp cydweithredol o grefftwyr a dylunwyr i arddangos eu creadigaethau arbennig | Llanerchaeron welcomes a talented co-operative of local artists, designers, and craftspeople, to showcase their handmade creations
Dros y blynyddoedd mae sawl cymeriad diddorol wedi bod yn gysylltiedig a Llanerchaeron – dyma'r cyfle i chi gwrdd a rhai ohoynt *** Over the years many a character has played their part at Llanerchaeron – this is your opportunity to meet them.
Dewch draw i Lanerchaeron ar Ddiwrnod Cneifio i weld y ffermwyr wrth eu gwaith | Llanerchaeron's Llanwennog sheep are getting their annual haircut - visit to see what happens on Shearing Day.
Ymunwch gyda ni'r haf hwn am raglen llawn hwyl i'r teulu cyfan | Join us this summer for an action packed programme for the whole family.
Darganfyddiadau archaeolegol i'w gweld am y tro cyntaf, teithiau cerdded treftadaeth a gweithgareddau i blant *** Discover archaeological finds on display for the first time, join guided heritage walks, and enjoy hands-on fun for young explorers.
Dathlu'r afal yn Llanerchaeron gyda arddangosfa afalau, stondinau a mwy *** Celebrating the humble apple, with a display of Llanerchaeron apples, pressing demonstrations, stalls, expert talks and much more.
Dewch i ddarganfod fila Sioraidd hyfryd Llanerchaeron. Fe’i dyluniwyd yn wreiddiol gan John Nash y pensaer enwog yn y 1790au, ac nid yw’r tŷ wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd. Archwiliwch iard y gweision (sy’n cynnwys llaethdy, tŷ golchi, bragdy a thŷ halltu), a chymerwch gipolwg ar yr ystafelloedd a adnewyddwyd, yn cynnwys ystafelloedd casgliad Pamela Ward. Mae’r ystad wledig, Gymreig, draddodiadol hon yn cynnwys llwybrau cerdded hamddenol o amgylch yr ardd a amgylchynir gan furiau brics coch, a hefyd ceir llyn addurnol a pharcdir gwyllt. Dewch i gyfarfod â’r anifeiliaid yn y buarth traddodiadol, yn cynnwys cobiau Cymreig, moch Cymreig, dofednod a gwyddau. Dysgwch ragor am ein diadell draddodiadol o ddefaid lleol brid prin, defaid Llanwenog. Croesewir cŵn ar y safle i grwydro’r ardd furiog, y tiroedd hamdden, y llyn a'r fferm. Cadwch eich cŵn ar dennyn bob amser, casglwch unrhyw faw a dilynwch ein ‘Cod Cŵn’.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.
Mae prosiect adfer a chreu cynefin bellach ar waith mewn ymgais i achub cartref naturiol pili-pala prin yng Ngheredigion ar lechweddau arfordirol Cwm Soden.
Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.