Skip to content
Prosiect

Prosiect Adfer Gwlyptir Cors Marloes

Y gors gyda chyrs ar y chwith yn y blaendir a bancyn glaswelltog tu hwnt
Cors Marloes, Sir Benfro | © National Trust Images/John Miller

Mae Cors Marloes wedi'i lleoli ar Benrhyn Marloes, lleoliad godidog sy’n gyfuniad o ddaeareg ysblennydd, golygfeydd arfordirol dramatig a chyfoeth o fywyd gwyllt sy'n ffynnu yn y gwlyptir hynafol hwn.

Cefndir

Er bod y ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr â'r traeth a chaffi Runwayskiln yn dda, gellid gwella mynediad fel y gall pobl weld y bywyd gwyllt a chael profiad o natur ar y gors.

Ond nid gwlyptir perffaith mo hwn. Mae morlynnoedd y cronfeydd dŵr a gloddiwyd yn y 1970au wedi gadael ponciau mawr o ddeunydd cloddio ar wyneb y gors, gan fygu cynefinoedd gwerthfawr a lleihau ehangder agored y dirwedd

Ychydig iawn sydd wedi cael ei fuddsoddi’n ddiweddar yn y gwlyptiroedd yng Nghors Marloes, ac maent yn drysor o fywyd gwyllt cudd sy’n disgwyl i gael ei ddarganfod. Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dynodedig a bydd cael gwared ar y cloddiau mawr o amgylch morlyn deheuol y gronfa ddŵr yn adfer tua 1.5ha o gynefinoedd gwlyptir, yn ailgysylltu'r cronfeydd dŵr dwfn â'r cynefinoedd gwlyptir cyfagos ac yn ail-naturioli ac yn agor golygfeydd ar draws y gors ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnig cyfle i wella tua 500m o Lwybrau Cyhoeddus trwy eu hadleoli i dir uwch a sychach o fewn coridor bywyd gwyllt sydd newydd gael ei greu.

Bydd y prosiect hwn yn adfer rhai cynefinoedd gwlyptir gwerthfawr yng Nghors Marloes sydd eisoes yn lle poblogaidd iawn i wylio adar, tra hefyd yn sicrhau bod y gors a’r arfordir o’i hamgylch yn fwy hygyrch i ymwelwyr sy'n llai hyderus wrth edrych o gwmpas y cefn gwlad.

Dyfyniad gan Mark UnderhillNational Trust Countryside Manager

Ein Hamcanion

Mae tri amcan i’r prosiect:

  1. Adfer tua 1.5 hectar o wlyptir trwy gael gwared ar y ponciau neu'r byndiau o amgylch y gronfa ddŵr ddeheuol. Bydd hyn yn cyfrannu at gyflwr cyffredinol y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
  2. Gwella mynediad i guddfan Britton, a Llwybr Arfordir Cymru drwy adleoli rhan o Lwybr Cyhoeddus (PRoW) (PP62/22) (a all fod yn amhosib i’w gerdded yn y gaeaf), ymlaen i dir ychydig yn uwch a sychach ychydig i'r de.
  3. I wella golygfeydd ar draws y gors o guddfan Britton, ond hefyd o'r Llwybr Cyhoeddus (PP62/22).

Bydd y prosiect yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol yn ystod hydref a gaeaf 2023/24, gyda chloddwyr a thryciau dympio'n symud y deunydd o’r byndiau o amgylch morlynnoedd y gronfa a'i osod yn y cae cyfagos (i'r de) lle bydd yn cael ei ddefnyddio i ffurfio clawdd newydd, a choridor bywyd gwyllt gyda phyllau. O fewn y coridor hwn, byddwn yn adeiladu trac fferm a llwybr troed newydd, yn lle’r Llwybr Cyhoeddus (PRoW) (PP62/22) presennol sy'n mynd heibio’r gors ac ymlaen i Lwybr Arfordir Cymru. Bydd y PRoW presennol yn parhau ar agor nes ein bod wedi cwblhau'r llwybr troed newydd ac wedi gwneud cais am Orchymyn Dargyfeirio i symud yr hen lwybr i'r un newydd.

Ar y gors ei hun, lle rydym wedi tynnu'r deunydd o’r byndiau, byddwn yn datgelu 1.5ha ychwanegol o wlyptir sydd wedi'i gladdu ers y 1970au Bydd hyn yn edrych yn amrwd iawn i ddechrau, ond mae natur a bywyd gwyllt wrth eu bodd ag ychydig o fwd, ac rydym yn hyderus y bydd yr ardal hon yn fwrlwm o fywyd gwyllt cyn pen dim. Yn y cyfamser, bydd Cuddfan Britton yn aros ble mae gyda golygfa newydd a godidog dros y gors fywiog! Bydd y guddfan yn cael ei chysylltu'n ôl â'r coridor bywyd gwyllt newydd a'r llwybr troed trwy lwybr wedi'i godi. Bydd y llwybr i'r guddfan yn cael ei blannu â helyg i helpu ein hymwelwyr i ymdoddi i’r cefn gwlad a lleihau unrhyw aflonyddwch ar y gwlyptir sydd newydd ei ehangu.

Gweld y cynlluniau’n fanylach PDF

I weld y cais cynllunio a'r dogfennau cysylltiedig, cliciwch yma i lywio i borth cynllunio'r Parc Cenedlaethol PCNPA Planning (pembrokeshirecoast.wales)

Y Llinell Amser ar gyfer Prosiect Adfer Gwlyptir Cors Marloes

Chwefror 2024

Restoration of the habitat complete for World Wetlands Day

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cam cyntaf o adfer Cors Marloes wedi’i gwblhau. Mae hyn wedi arwain at adfer 1.5 hectar, neu ardal tua theirgwaith maint cae pêl-droed, o gynefin gwerthfawr, gyda chronfeydd dŵr dwfn yn cael eu hailgysylltu â gwlypdiroedd mwy bas cyfagos a rhwydweithiau llwybrau’n cael eu gwella. Mae’r cysylltiadau at y Gors a Llwybr Arfordir Cymru ynghyd â’r llwybrau mynediad o faes parcio Traeth Marloes bellach yn addas ar gyfer sgwteri symudedd pob tir gan gysylltu â Runwayskiln a mannau i weld golygfeydd gwlypdir trawiadol a gwylio’r bywyd gwyllt. Byddwn yn eich diweddaru yma wrth i fam natur ail-wyrddu’r lleoliad. Diolch o galon i’n rhoddwyr. Derbyniwyd rhoddion tuag at y gwaith o adfer Gwlypdiroedd Cors Marloes gan Sefydliad Waterloo, Cyfoeth Naturiol Cymru, The Langdale Trust a rhoddion preifat.

Awyrlun o Brosiect Gwlypdiroedd Cors Marloes wedi’i gwblhau
Prosiect Gwlypdiroedd Cors Marloes wedi’i gwblhau | © National Trust Images/Dave welton