
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Dihangwch i Benrhyn Marloes, trysor cudd ar ymyl gorllewinol Sir Benfro. Bydd morweddau ysblennydd a chyfoeth o fywyd gwyllt yn aros i’ch cyfarch.
Traeth a Chors Marloes, Sir Benfro, SA62
Asset | Opening time |
---|---|
Morlin | Dawn - Dusk |
Cegin arfordirol Runwayskiln 164 llathen i lawr y llwybr o’r maes parcio.
Bwyty - mwy o wybodaethCroeso i gŵn dan reolaeth dynn. Byddwch yn ofalus gydag ymylon y clogwynni a’ch ci.
Maes parcio ym Marloes am fynediad i’r traeth a Runwayskiln. Ar gyfer ymweld â pharc Ynys Skomer ym maes parcio Martin's Haven. Am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sganiwch eich cardiau wrth y peiriannau Talu ac Arddangos. Ni chaniateir parcio a gwersylla dros nos ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dim pwynt gwefru ceir trydan ar gael.
Toiled agosaf 164 llathen ar hyd y llwybr, heibio caffi Runwayskiln.
Er mwyn cyfieithu’r dudalen we AccessAble i’r Gymraeg, cliciwch y botwm ar y dde uchaf gyda’r label “Accessibility”. Dewiswch “newid iaith” ac o’r rhestr o ddewisiadau dewiswch “Welsh/Cymraeg”. Ar ôl i chi osod eich dewisiadau Recite Me bydd y safle AccessAble yn cofio eich gosodiadau pan fyddwch arno yn y dyfodol.
Teithiau cerdded i wylio morloi bach ym Martins Haven
Mae ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro wedi'u graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i Sir Benfro. Dewch i ddianc i ymyl gorllewinol Cymru ac archwiliwch dirwedd arfordirol ddramatig gyda'ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.
Traeth euraidd prydferth ac anghysbell sy’n estyn dros filltir pan mae’r llanw ar drai.
Rhostir arfordirol gyda chaer o oes yr haearn ger Martins Haven yn edrych tuag at Ynys Sgomer. Er yr enw, nid oes ceirw yma. SoDdGA, ACA ac AGA ddynodedig.
Gwlyptir ar benrhyn Marloes sy’n gartref i fywyd gwyllt, planhigion ac adar prin. Fe’i dynodwyd yn SoDdGA ym 1985.
Casgliad o adeiladau fferm traddodiadol yn Sir Benfro sy’n gartref i gaffi Runwayskiln sy’n gweini bwyd lleol ffres.
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.
Llwybr cylchol gyda golygfeydd hyfryd o arfordir Sir Benfro sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ar y tir a’r môr. A pheidiwch â cholli gweddillion caerau o Oes yr Haearn ar eich taith.
Llwybr byr ond trawiadol o gwmpas Penrhyn Marloes gyda llawer o forloi (rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr.
Mae croeso cynnes a bwyd i’ch bodloni yn disgwyl amdanoch yng nghaffi Runwayskiln. Mae’r gegin arfordirol hon, sy’n edrych dros Draeth Marloes, yn gweini prydau ffres, lleol a thymhorol. Cysylltwch â 01646 636545.
A short walk from golden beaches, this basic and comfortable lodge is great for exploring the Pembrokeshire coast and enjoying the county's many activities.
A more than comfortable farmhouse complete with a snug room and views of the Cleddau River.
An apartment in the Cleddau woodlands on the Little Milford estate, close to Haverfordwest.
Taith dywys dan ofal Ceidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wylio morloi llwyd yr Iwerydd / National Trust Ranger led Atlantic grey seal guided walk.
Mae Penrhyn Marloes yn cyfuno golygfeydd arfordirol dramatig ac ymdrochi diogel ar dywod euraidd. Gallwch gadw llygad allan am adar môr a morloi ac olion pobl hynafol. Mae yna deithiau cerdded ar gyfer pob gallu yn dechrau o feysydd parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhraeth Marloes a Martins Haven. Mae’r cwch sy’n teithio i Ynys Sgomer gerllaw yn gadael o harbwr bychan Martin’s Haven. Mae’r ddaeareg yn drawiadol ac yn cynnwys tywodfeini, creigiau folcanig gyda phlygiannau a thoriadau a chreigiau geirwon. Mae caer o’r oes haearn ar Ynys Gateholm a fu’n destun cloddiad gan Time Team yn edrych dros Draeth Marloes, un o draethau gorau Sir Benfro. Roedd y Parc Ceirw yn yr Oes Haearn yn gaer arfordirol wedi’i hamddiffyn yn dda. Mae’r enw’n tarddu o’r ymgais aflwyddiannus i sefydlu parc ceirw yno ar ddechrau’r 20fed ganrif. Mae Cors Marloes yn le da iawn i wylio adar ac yn denu llawer iawn o adar dŵr yn y gaeaf.
Bob ugain mlynedd cynhelir cyfrifiad i asesu maint y nythfa o adar drycin Manaw ar ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ganlyniadau calonogol iawn.
Dysgwch sut mae Prosiect Gwlyptir Cors Marloes yn helpu i adfer y Gors a gwella mynediad i bawb.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.