Skip to content

Anturiaethau'r Pasg yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

A family enjoying the daffodils
Dewch i weld y gwanwyn yn deffro yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Paul Harris

Ymunwch yn hwyl y gwanwyn wrth i ni gynnal llwybr blynyddol y Pasg yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd. Mae ein llwybr Pasg yn llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan. Wrth i anifeiliaid ddychwelyd yn dilyn eu cyfnod yn gaeafgysgu a'r blodau yn blaguro ymhob rhan o'r ardd, mae'n amser bendigedig o'r flwyddyn i ymweld â’r castell a’r tiroedd.

Pasg yma, gwisgwch eich clustiau a neidiwch i fewn i wyliau Pasg yng Nghastell Penrhyn a’r ardd. Rhwng 23 Mawrth a 1 Ebrill, daw artistiaid lleol a’r llwybr gweithgareddau 10 pwynt yn fyw yng Nghastell Penrhyn. Dewch i gyfarfod yr anifeiliaid coedwig bywiog sydd wedi eu cerfio, a’r llyffant helyg enfawr sy’n gwneud ei gartref yn yr Ardd Orsiog.

Mae’r anturiaethau Pasg yn rhoi cyfle i’r teulu cyfan cael cyfle i ddod allan gyda amrywiaeth o weithgareddau i’w cwblhau. Ewch i ffeindio’r offerynnau yn y goedwig i greu cerddoriaeth, ymunwch yn nhe parti’r pasg yn yr Ardd Furiog, neu cymerwch ran mewn ras wy ar lwy. Os yn mynd i fewn i’r castell, efallai gwelwch rhai o’r wyau wedi eu gollwng gan gwningen y Pasg.

Wedi’r gwaith caled, ewch i gasglu eich wy Pasg, gallwch ddewis un ai wy siocled neu wy siocled fegan a Rhydd Rhag. Mae'r ddau wy wedi'u gwneud gyda choco Ardystiedig Cynghrair y Fforestydd Glaw.

Pethau i'w nodi cyn ymweld dros y Pasg:

  • Mae’r llwybr yn costio £3 i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys y dudalen gweithgareddau, pensil ac wy siocled.
  • Mae prisiau mynediad arferol yn weithredol.
  • Mae rhan fwyaf o’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a pramiau ond mae llwybrau amgen ar gyfer y tir anwastad.
  • Mae'r llwybr yn parhau tra bod stociau'n para.

Anturiaethau'r Pasg yng Nghastell Penrhyn

2 -14 Ebrill

Yn dilyn gwyl y banc mae ein llwybr yn Pasg yn parhau heb yr wy pasg a'r pecyn. Mae'r llwybr yma yn mynd a chi o gwmpas y tiroedd i gyfarfod yr anifeiliaid ac i gwblhau'r gweithgareddau. Mae'n cael ei gynnws yn y pris mynediad arferol.