Skip to content

Parkrun iau ym Mhlas Newydd

Plant yn rhedeg ar ddechrau ras
Plant yn rhedeg ar ddechrau ras | © © National Trust Images/James Dobson

Mae Plas Newydd yn lleoliad wych ar gyfer gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru. Gyda pharcdir, gerddi a lawntiau, mae digon o le i fod yn egnïol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Byddwch yn actif ym Mhlas Newydd

Mae Parkrun Iau wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer plant rhwng 4 a 14 oed. Fe'i cynhelir bob wythnos ar ddydd Sul am 9am.

Mae Parkrun yn gyfle i fwynhau golygfeydd Eryri a’r Fenai wrth redeg y llwybr o amgylch y tiroedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl wrth fod yn yr awyr agored.

Llun o blentyn yn gorffen ras
Llun o blentyn yn gorffen ras | © ©National Trust Images/Freya Raby

Beth sydd angen i mi ei wybod?

Mae pob parkrun am ddim i gymryd rhan. Gallwch redeg, loncian neu gerdded y cwrs 2k ar eich cyflymder eich hun. Dewiswch redeg yn unigol, gyda ffrind neu'ch teulu.

Y llwybr

Mae'r cwrs 2km yn cychwyn ym mhen uchaf y gerddi. Mae dwy ddolen wrthglocwedd, yn gorffen yn y Tŷ ar waelod yr ardd.

Cofrestrwch ar-lein

Mae Parkrun yn gofyn i chi gofrestru ar-lein ymlaen llaw yma. Gallwch olrhain eich amser o wythnos i wythnos a gosod nodau personol eich hun. Cofiwch ddod â chopi gellir ei sganio o'ch cod bar i chi gael rhedeg.

Trefnir Parkrun gan wirfoddolwyr, sy'n gwneud gwaith anhygoel ac sydd bob amser yn chwilio am fwy o bobl. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut i helpu drwy fynd i wefan Parkrun.

Ail-lenwi yn y caffi

Ar ôl rhedeg, gallwch wobrwyo'ch hun yn y caffi a mwynhau diod poeth neu oer, neu roi cynnig ar rywbeth o'n bwydlen brecwast.

Bore ym Mhlas Newydd

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

parkrun

parkrun Limited is the company responsible for delivering parkrun in the UK.

Ymweld â'r wefan