Skip to content

Gwirfoddoli ym Mhlas yn Rhiw

Gwirfoddolwr yn dangos grŵp o ymwelwyr ar daith gerdded dywysedig
Gwirfoddolwr gyda grŵp o ymwelwyr | © National Trust Images/Chris Lacey

Awydd antur newydd? Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud yma ym Mhlas yn Rhiw

Cyfleoedd presennol

Mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn eu cynnig bob dydd yn hanfodol i’n gwaith. Mae'r gefnogaeth a'r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn ei gynnig bob dydd yn hanfodol i'n gwaith. Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly os gennych flynyddoedd o brofiad efo chi, neu’n awyddus i drio rhywbeth newydd, byddem wrth ein bodd cyfarfod â chi.

Mae yna lawer o ffyrdd gallwch chi ymuno â'r achos a dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. O groesawu ymwelwyr i’r tŷ, ac adrodd ei straeon diddorol, i’n helpu ni i ofalu am yr eitemau hanesyddol rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw - mae yna rywbeth i bawb.

Gallwch gael fwy o wybodaeth am y rolau ar gael a gwneud cais yma neu anfon e-bostio plasynrhiw@nationaltrust.org.uk

Ymwelydd yn eistedd ar fainc ar feranda Plas yn Rhiw, Gwynedd
Ymwelydd yn eistedd ar feranda Plas yn Rhiw, Gwynedd | © National Trust Images/Gareth Jenkins

Sut brofiad ydi gwirfoddoli efo ni

Mae pob diwrnod yn antur newydd ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, dysgu rhywbeth newydd a bod yn rhan o elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. Rydym bob amser yn annog gwirfoddolwyr i gynnig syniadau newydd a'n helpu i sicrhau bod ein harlwy i ymwelwyr yn ddim llai na rhyfeddol.

Fel gwirfoddolwr, gallwch hefyd fwynhau'r buddion canlynol:

Mynediad am ddim i holl eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

  • Gostyngiadau yn ein siopau a'n hystafelloedd te;
  • Cylchlythyr eiddo misol i gael y newyddion diweddaraf;
  • Rota ar-lein hyblyg, fel gallwch ddewis eich dyddiau a ffitio gwirfoddoli i'ch siwtio chi;
  • Mynediad at wybodaeth a chyngor i'ch helpu i gael y gorau o'ch profiad gwirfoddoli;
  • Costau teithio rhwng eich cartref a Phlas yn Rhiw (hyd at filltiroedd penodol).
Gwirfoddolwr yn siarad ag ymwelwyr
Gwirfoddolwr yn siarad ag ymwelwyr | © National Trust Images/Simon Weller

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gennych chi

Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig croeso cynnes, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad bendigedig. Maen nhw'n gwneud i'n hymwelwyr deimlo'n arbennig ac wedi'u hysbrydoli, felly maen nhw'n gadael yn teimlo'n dda ac yn awyddus i ddod yn ôl ac ymweld eto’n fuan.

Nid ydym yn chwilio am haneswyr nac arbenigwyr cymwys, dim ond pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â diddordeb ym Mhlas yn Rhiw ac sy’n awyddus i rannu ei straeon, fel y gall pawb ei fwynhau, am byth.

Sut i gysylltu

Gallwch ddarganfod mwy am wirfoddoli ym Mhlas yn Rhiw yma a gwneud cais ar-lein yma neu e-bostiwch ni plasynrhiw@nationaltrust.org.uk.