Skip to content
Bwthyn Sarn y Plas
Bwthyn Sarn y Plas | © National Trust / Lily Usher
Wales

Taith gerdded Sarn y Plas

Taith gylchol weddol heriol o amgylch waelod Rhiw, gan basio Sarn y Plas, a fu unwaith yn gartref i'r bardd R.S. Thomas a'r arlunydd ME (Elsi) Eldridge. Roedd eu gwaith wedi’u hysbrydoli’n ddwfn gan dirwedd a natur Llŷn.

Cyfanswm y camau: 12

Cyfanswm y camau: 12

Man cychwyn

Maes parcio Plas yn Rhiw - Cyfeirnod grid: SH237282

Cam 1

Trowch i'r dde allan o'r maes parcio a dilynwch y ffordd. Unwaith y byddwch wedi mynd heibio’r bwthyn ar y dde i chi, edrychwch am arwydd glas Llwybr yr Arfordir. Gadewch y ffordd yn y fan hon a dilynwch hen ffordd y Rhiw.

Y troad i Sarn y Plas
Y troad i Sarn y Plas | © Lily Usher

Cam 2

Stopiwch wrth y grisiau i fwthyn Sarn y Plas, lle'r oedd R.S Thomas yn byw gyda'i wraig Elsi Eldridge o 1978 to 1996.

Darluniad o Sarn y Plas gan ME Eldridge
Darluniad o Sarn y Plas gan ME Eldridge | © ME Eldridge

Cam 3

Parhewch ar hyd yr hen lôn trwy faes carafanau Treheli nes cyrraedd y ffordd. Ewch yn syth ar draws a dilyn y trac i Dy’n y Parc.

Dyfyniad o gerdd R.S. Thomas
Dyfyniad o gerdd R.S. Thomas | © YG Llŷn

Cam 4

Dilynwch y llwybr heibio fythynnod gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhy’n y Parc, gan gadw i’r dde wrth y fforch nes cyrraedd giât bren. Ewch drwy'r giât ac ewch ymlaen ar hyd y trac.

Ty'n y Parc
Golygfa o Dy'n y Parc | © Lily Usher

Cam 5

Byddwch yn cyrraedd llannerch ar ddiwedd y trac. O'ch blaen, fe welwch fwthyn gwyn. Dilynwch y llwybr y tu ôl i'r bwthyn hwn, gan gadw i'r chwith wrth y fforch.

Cam 6

Tuag at ddiwedd y rhan hon o'r trac, fe welwch dro sydyn i'r chwith gyda llwybr yn mynd trwy'r coetir. Dilynwch y llwybr hwn drwy’r coed nes i chi ddod at ddiwedd y llwybr coediog.

Cam 7

Wrth y cyfeirbwynt melyn, dilynwch y llwybr i'r dde, gan fynd dros gamfa garreg fechan.

Dyfyniad o gerdd 'Alive' gan R.S. Thomas
Dyfyniad o gerdd 'Alive' gan R.S. Thomas | © YG Llŷn

Cam 8

Ar ôl ychydig, fe ddowch at fforch arall yn y llwybr. Cymerwch y llwybr ar y dde a’i ddilyn y tu ôl i’r tŷ nes i chi gyrraedd giât fetel bychan.

Bwthyn Fron Deg
Bwthyn Fron Deg | © National Trust / Lily Usher

Cam 9

Ewch drwy'r giât a dilynwch y trac nes i chi gyrraedd y lôn.

Cam 10

Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd Eglwys Sant Aelrhiw.

Eglwys Sant Aelrhiw
Eglwys Sant Aelrhiw, Y Rhiw | © National Trust / Lily Usher

Cam 11

Trowch i'r chwith wrth y blwch post a dilynwch y ffordd i lawr i Blas yn Rhiw. Yma gallwch ymweld â Phlas yn Rhiw a stopio am luniaeth yn yr ystafell de.

Gardd lliwgar Plas yn Rhiw
Gardd lliwgar Plas yn Rhiw | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Cam 12

Dilynwch y llwybr o Blas yn Rhiw yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen

Maes parcio Plas yn Rhiw

Map llwybr

Map o daith cerdded Sarn y Plas
Map o daith cerdded Sarn y Plas | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Cysylltwch

Rhiw, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8AB