Caiacio yn Aberdaron

Neidio i
Bydd y sesiynau caiacio rhagarweiniol hyn yn rhedeg o draeth Aberdaron gan ddefnyddio caiacs sy'n hawdd eu padlo ac sy'n sefydlog iawn.
Caiacio arfordir Aberdaron
Bydd y sesiynau caiacio rhagarweiniol hyn yn rhedeg o draeth Aberdaron gan ddefnyddio caiacs sy'n hawdd eu padlo ac sy'n sefydlog iawn.
Bydd pob sesiwn yn cael ei theilwra i’r grŵp ac amodau’r môr ar y diwrnod. Pan fydd y môr yn dawel, rydym yn cynnig taith olygfaol a chyfle i ddysgu am yr arfordir a'i hanes lleol a bywyd gwyllt. Os yw'r môr yn arw a'r tywydd dal yn ffafriol gallwch roi cynnig ar syrffio caiac yn y tonnau. Ar rai dyddiau, mae amodau’r môr yn golygu y byddwch chi’n gwneud ychydig o’r ddau!
Yn ystod y sesiwn byddwch yn cael eich arwain gan hyfforddwr caiacio cymwys a fydd yn darparu'r holl offer arbenigol i chi ac yn gofalu amdanoch trwy gydol eich antur. Caiff y sesiynau hyn eu cynnal gan ddarparwr trydydd parti.
Ble a phryd mae'r sesiynau caiacio?
Cynhelir y sesiynau o Aberdaron pob dydd Mawrth a dydd Iau o 23 Gorffennaf i 27 Awst (dim caiacio ar 4 a 6 o Awst)
Mae dwy sesiwn y dydd, gan ddechrau am 10.30am a 1.30pm, pob un yn para tua 2 awr.
Y man cyfarfod a man cychwyn y sesiwn yw canolfan ymwelwyr Porth y Swnt.
Faint mae'n ei gostio a sut ydw i'n talu?
Mae sesiwn yn costio £35 y pen. Gwneir taliad ar y diwrnod yng nghanolfan ymwelwyr Porth y Swnt sydd wedi’i lleoli wrth fynedfa maes parcio Aberdaron. Gellir talu gyda cherdyn neu arian parod.
Oes angen i mi archebu?
Fe’ch cynghorir yn gryf i gadw lle, er efallai y bydd gennym rywfaint o argaeledd ar y diwrnod. Anfonwch e-bost at fynyalawr@gmail.com i archebu lle neu am fwy o wybodaeth.

Beth arall sydd angen i mi ei wybod?
-
Yr oedran lleiaf yw 8 ac mae’n rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad a benodwyd yn gyfreithiol.
-
Bydd angen i chi lenwi ffurflen feddygol a ffurflen ganiatâd cyn y sesiwn
-
Mae lle i 6 o gyfranogwyr ym mhob sesiwn
-
Efallai mai padlwyr ifanc fyddai’n gallu rhannu un o’r caiacau tandem gydag oedolyn er mwyn i bawb gael y profiad llawnaf ar y diwrnod
-
Mae'r gallu i nofio yn ddefnyddiol ond nid yn angenrheidiol, ond gall rhywfaint o hyder yn y dŵr fod o gymorth yn enwedig ar ddiwrnodau llai tawel
-
Bydd angen i chi ddod â gwisg nofio, tywel mawr ac esgidiau gyda gwadn stiff, cadarn (mae hen esgidiau ymarfer yn berffaith, mae esgidiau siwt wlyb yn rhy hyblyg). Darperir siwtiau gwlyb, cymhorthion hynofedd, helmedau, padlau a chaiacau
-
Mae ystafell newid ar gael tu fewn i Borth y Swnt
-
Mae cawodydd cynnes ar gael yn y bloc toiledau yn y maes parcio (50c am 5 munud). Mae yna hefyd gawod dŵr oer am ddim y tu allan ar gyfer rinsio i ffwrdd.
Pethau eraill o diddordeb i chi
Gweithgareddau awyr agored ym Mhorth y Swnt
Dechreuwch eich antur o Borth y Swnt. Darganfyddwch un o draethau mwyaf godidog Pen Llŷn, perffaith ar gyfer diwrnod allan. Ewch am dro ar hyd y traeth, archwilio’r twyni tywod, a chadwch lygad am fywyd gwyllt tymhorol. P'un a yw'n well gennych badlo yn y bas neu ddal tonnau gyda bwrdd syrffio, mae rhywbeth at ddant pawb.

Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Porth y Swnt
Dewch i archwilio, dysgu, myfyrio a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
