Porth y Swnt
CymruDewch i archwilio, dysgu, myfyrio a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
Porth y Swnt, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE

Ll Ma Me Ia Gw Sa Su Agored
Ar gau
Oriau agor ar gyfer 25 Chwefror 2026
Asset Opening time Canolfan ymwelwyr Ar gau Maes parcio Henfaes Ar agor trwy'r dyd - Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn yn y siop a’r dderbynfa ond nid yn yr arddangosfa.
- Maes parcio
Mae ein maes parcio yn defnyddio peiriannau talu ac arddangos. Bydd angen i chi sganio'ch cerdyn aelod, neu dalu efo arian. Gallwch hefyd ddefnyddio JustPark; rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r ap cyn eich ymweliad.
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
- Siop
Nid yw'r siop ym Mhorth y Swnt yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Toiled
Maes parcio gwastad gyda graean, tri lle Bathodyn Glas gydag arwyneb tarmac (15-20 metr o’r ganolfan). Tŷ bach hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr.
- Albwm ffotograffau
- Llwybr hygyrch a/neu fap
- Man gollwng
- Mynediad gwastad i siop
- Mynediad ramp/llethrau
- Mynediad/tirwedd wastad
- Parcio dynodedig
- Seddi ar gael
- Toiled hygyrch
Prif fynedfa - what3words: ///gofodwyr.arbrofol.darllena
- Ar y ffordd
- O'r gogledd: dilynwch yr A487 o Gaernarfon. Ar ôl 3.5 milltir (5.6km) cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i ymuno â'r A499. Parhewch 10 milltir (16km) ar yr A499. Ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa gyda'r arwydd B44177. Yn Nefyn, cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i barhau ar y B44177. Ym Mhengroeslon trowch i'r dde i ymuno â'r B4413. Parhewch 4 milltir (6.4km) nes cyrraedd Aberdaron. Trowch i'r dde cyn croesi'r bont yn y pentref. Ewch heibio'r ganolfan ar y dde i chi wrth i chi fynd i mewn i'r maes parcio. O'r de: dilynwch yr A497 o Borthmadog trwy Gricieth i Bwllheli. Ar y gylchfan ym Mhwllheli cymerwch yr allanfa gyntaf gyda'r arwydd A499. Yn Llanbedrog trowch i'r dde i Ffordd Pedrog / B4413. Parhewch ar y B4413 nes cyrraedd Aberdaron. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith yn syth ar ôl y bont. Mae’r ganolfan ymwelwyr ar y dde i chi wrth i chi ddod i mewn i’r maes parcio.Sat Nav: SatNav: LL53 8BE Bydd y côd post hwn yn mynd â chi i bentref Aberdaron. Mae maes parcio a chanolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agos at y bont yng nghanol y pentref. Sylwer y gall SatNav fod yn anghywir ar isffyrdd Llŷn.
- Ar y trên
- Mae'r orsaf drenau agosaf ym Mhwllheli, 15 milltir (21km) o Aberdaron. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg.
- Ar fws
- Mae bws yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o Bwllheli i Aberdaron. Bws yn gollwng yn y swyddfa bost. Oddi yma cerddwch 60 llath (55 medr) i'r dde tuag at ganol y pentref, gan gadw i'r dde cyn y bont tuag at y maes parcio. Bydd y ganolfan ar y dde i chi.
- Parcio
- Mae parcio am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Sylwch fod y peiriannau talu ac arddangos yn derbyn darnau arian yn unig. Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio JustPark. Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r ap cyn eich ymweliad.
Uchafbwyntiau
Canolfan ymwelwyr
Canolfan ddehongli yng nghanol Aberdaron, yn arddangos nodweddion hanesyddol, diwylliannol a naturiol Pen Llŷn.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Gweithgareddau awyr agored
Llwybr rhedeg Taclo10 yn Aberdaron
Ymunwch â ni ar y pedwerydd Sul bob mis (ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst) i redeg 10k o Aberdaron i Borth Meudwy.

Gweithgareddau awyr agored ym Mhorth y Swnt
Dechreuwch eich antur o Borth y Swnt. Darganfyddwch un o draethau mwyaf godidog Pen Llŷn, perffaith ar gyfer diwrnod allan. Ewch am dro ar hyd y traeth, archwilio’r twyni tywod, a chadwch lygad am fywyd gwyllt tymhorol. P'un a yw'n well gennych badlo yn y bas neu ddal tonnau gyda bwrdd syrffio, mae rhywbeth at ddant pawb.

Prif lwybrau
Taith arfordirol Porth Meudwy
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.

Lleoedd i aros

Daron
A bright, two-storey apartment in lovely Aberdaron, with a sandy beach on the doorstep and nearby trails for walking and cycling.

Pant Rhiw Cottage
Take in the views across Hell’s Mouth Bay from this cottage on the Plas-yn-Rhiw estate.

Bwthyn yr Ardd
Located on a hill above the sea, this rustic garden cottage enjoys stunning bay views.

Tyn y Parc Barn
Next to a pretty farmhouse, groups of friends and families will adore this character packed barn close to the coast.
Digwyddiadau i ddod
Taclo10 Aberdaron | Trust10 Aberdaron
Ymunwch â ni ar y pedwerydd Sul bob mis yn 2026 (ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst) i redeg 10k o Aberdaron.*** Join us on the fourth Sunday of every month in 2026 (except May, July and August) for a 10k trail run from Aberdaron to Porth Meudwy.
Ynghylch Porth y Swnt
Mae’r ganolfan ddehongli gyffrous yma, yng nghanol pentref pysgota hardd Aberdaron, yn taflu goleuni ar ddiwylliant, treftadaeth ac amgylchedd unigryw Llŷn. Gallwch chi brofi opteg goleudy Ynys Enlli wedi ymddeol yn agos, dilyn yn ôl traed pererinion am daith ar draws y Swnt yn y pod fideo, dal i fyny ar beth mae Ceidwaid Llŷn yn ei wneud a ffurfio eich meddyliau myfyriol yn y Môr o Eiriau.
Y newyddion diweddaraf
Blwyddyn newydd, her newydd? Dechreuwch symud y mis Ionawr hwn gyda her rhedeg llwybr newydd Aberdaron wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lansio Taclo10 yng Nghymru
Rydyn ni i gyd wedi bod yno - dechrau 2026 gyda’r bwriadau da o ddod yn fwy heini, mwynhau rhywfaint o awyr iach a mynd allan yn amlach. Wel, beth pe bai ffordd i chi gyfuno hynny i gyd eleni gyda’r Ras Lwybr Taclo10 gyntaf? Bydd y cyntaf yn digwydd ar 25 Ionawr 2026 yn Aberdaron, gyda digwyddiadau misol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn - ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw - ac mae am ddim!
