Skip to content
Prosiect

Ailweirio yng nghastell Powis

Switsys trydanol du a gwyn
Nod y prosiect ailweirio yw uwchraddio gwifrau o fewn 109 o ystafelloedd | © National Trust Images / Paul Harris

Sut ydych chi'n ailweirio castell o'r 13eg ganrif? Gyda llawer o ofal a sylw i fanylion. Bydd tîm arbenigol yn codi rhai o’r paneli a’r estyll llawr yn y castell hanesyddol hwn yn ystod 2024, gan ddatgelu rhai cyfrinachau cudd a darganfyddiadau pensaernïol sydd wedi bod yn llechu ers cannoedd o flynyddoedd o bosibl.

Mae gwarchod a gofalu am bob eiddo yn ganolog i'n hachos. Ar ôl peth ymchwil ac ymgynghori trylwyr, penderfynwyd bod y castell yn barod ar gyfer gwaith trydanol wedi’i ddiweddaru ac arolygon ehangach lle bo angen, sy'n gweddu orau i’w anghenion ac anghenion ymwelwyr yn y dyfodol.

Beth yw’r prosiect?

Nod y prosiect ailweirio yw uwchraddio gwifrau o fewn 109 o ystafelloedd. Bydd tîm arbenigol yn tynnu paneli oddi ar y waliau i arolygu gwifrau trydanol, tra hefyd yn cofnodi unrhyw ddarganfyddiadau hanesyddol neu bensaernïol ar hyd y ffordd. Bydd yr estyll llawr hefyd yn cael eu codi'n ofalus mewn adrannau yn ôl yr angen, gan ddadorchuddio'r ffabrig a chaniatáu i'r gwifrau presennol gael eu tynnu a gosod ceblau newydd yn eu lle.

Beth mae'r prosiect yn bwriadu ei wneud?

Mae’r prosiect yn edrych i’r dyfodol i sicrhau bod y gwifrau trydanol yn y castell yn addas i’r diben ac y gellir eu defnyddio am flynyddoedd lawer i ddod.

Wrth i rannau o ffabrig yr adeilad gael eu datgelu, mae'n caniatáu ar gyfer cynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o ffabrig adeiladu a thechnegau adeiladu. Bydd y prosiect yn galluogi arbenigwyr i ddysgu a chofnodi sut y cafodd y lleoedd hanesyddol hyn eu hadeiladu. Gall darganfyddiadau helpu llunio cynnwys addysgol yn y dyfodol ar feysydd lle nad oes gennym lawer o wybodaeth ar hyn o bryd, os o gwbl. Er enghraifft, y ddealltwriaeth o sut y cafodd y gwaith coed mewnol cymhleth yn yr ystafell fwyta ei adeiladu fel rhan o’r gwaith ailfodelu gan y pensaer enwog G.F Bodley.

Switsh golau arian ar wal las o dan dapestri
Bydd tîm arbenigol yn tynnu paneli oddi ar y waliau i arolygu gwifrau trydanol | © National Trust Images / Paul Harris

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Mae'r prosiect wedi'i gyflwyno fesul cam, i gynnwys gwaith ar un rhan o'r castell ar y tro. Bydd gwaith cadwraeth yn digwydd yn y castell trwy gydol 2024 hyd at 2025.

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

Rydym wedi cynllunio ar gyfer tua 18 mis, ond oherwydd amodau anhysbys yr hyn sydd o dan rai estyll a waliau, bydd angen i’r gwaith fod yn addasadwy yn dibynnu ar yr hyn a ganfyddwn. Felly, byddai’n afrealistig rhoi dyddiad terfynol ar gyfer y gwaith ond rydym yn gobeithio cwblhau’r gwaith rywbryd yn 2025.

A fydd hyn yn effeithio ar fy ymweliad â'r castell?

Ein nod yw cadw’r lle arbennig hwn ar agor bob amser i bawb ei fwynhau, a rhannu a dysgu mwy am y gwaith cywrain sy’n digwydd i adeiladwaith yr adeilad hanesyddol lle bo modd.

Yn dibynnu ar ble mae'r gwaith yn digwydd, efallai y bydd rhai ardaloedd yn cael eu cau neu eu cyfyngu dros dro. Fodd bynnag, byddwn yn cadw ardaloedd ar agor i rannu canfyddiadau.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau?

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda’r holl newyddion a diweddariadau diweddaraf felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn ôl i ddarganfod mwy.

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth wrth i ni ddechrau ar y gwaith cadwraeth pwysig hwn. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni eleni i ddysgu mwy am sut rydym yn gofalu am y lle arbennig hwn. Mae pob ymweliad, rhodd ac aelodaeth yn helpu gwarchod a gofalu am yr adeilad hanesyddol hwn fel y gall y genhedlaeth nesaf ei fwynhau.

Five puffins on a rock at Farne Island, Northumberland

Gwnewch wahaniaeth, gwnewch rodd

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)