Skip to content

Gwirfoddoli yng Nghastell Powis

Gwirfoddolwyr yn edrych ar y Bwrdd Pietra Dura Rhufeinig
Gwirfoddolwyr yn edrych ar y Bwrdd Pietra Dura Rhufeinig | © National Trust Images/Paul Harris

Awydd antur newydd? Ydych chi erioed wedi dychmygu sut brofiad fyddai gwirfoddoli mewn castell canoloesol mewn gardd fyd enwog?

Cyfleoedd presennol

Mae gennym amryw o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly os ydych yn dod â blynyddoedd o brofiad gyda chi, neu'n awyddus i drio rhywbeth newydd, byddem wrth ein boddau yn eich cyfarfod.

Mae sawl ffordd y gallwch ymuno â ni a dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. O groesawu ymwelwyr i ystafelloedd addurnedig crand y castell, yn adrodd ei straeon diddorol a dangos yr ardd fyd enwog i bobl, i roi cymorth inni edrych ar ôl eitemau hanesyddol sydd yn ein gofal a darparu gwasanaeth croesawgar yn y siop a'r caffi - mae yna rywbeth i bawb.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rolau ac ymgeisio ar-lein fan hyn, neu e-bostio volunteeringpowis@nationaltrust.org.uk yn uniongyrchol.

Volunteers on the terrace at Powis Castle
Volunteers on the terrace at Powis Castle | © National Trust Images / Paul Harris

Sut brofiad yw gwirfoddoli gyda ni

Rydym yn credu'n gryf yng ngwerth amrywiaeth, felly gallwch gael profiad o amrywiol o rolau pe dymunech. Mae pob dydd yn antur newydd ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, i ddysgu rhywbeth newydd a bod yn rhan o elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. Rydym bob amser yn annog gwirfoddolwyr i gynnig syniadau newydd a bod o gymorth inni sicrhau bod yr hyn a gynigiwn i'n hymwelwyr yn ddim llai na gwych.

Gallwch hefyd fwynhau y buddion canlynol:

  • Mynediad rhad ac am ddim i bob eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
  • Gostyngiadau yn ein siopau ac ystafelloedd te;
  • Cylchlythyr eiddo misol i gael y newyddion diweddaraf;
  • Rota hyblyg ar-lein, fel y gallwch ddewis eich dyddiau a ffitio'r gwirfoddoli i'ch siwtio chi;
  • Mynediad at wybodaeth a chyngor i fod o gymorth ichi elwa i'r eithaf o'ch profiad gwirfoddoli; Costau teithio rhwng eich cartref a Chastell Powis (hyd at filltiroedd penodol).
Volunteers in the Long Gallery at Powis Castle, Wales
Volunteers in the Long Gallery at Powis Castle, Wales | © National Trust Images / Paul Harris

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gennych chi

Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad gwerth chweil. Maen nhw'n gwneud i'n hymwelwyr deimlo'n arbennig, wedi eu hysbrydoli, a chwilfrydig, fel eu bod yn gadael yn teimlo'n anhygoel ac yn awyddus i ymweld eto'n fuan.

Nid ydym yn chwilio am haneswyr neu arbenigwyr cymwys, dim ond pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â gwir ddiddordeb yng Nghastell Powis ac sydd eisiau rhannu ei straeon, fel y gall pawb ei fwynhau, am byth.

Sut i gysylltu â ni

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rolau ac ymgeisio ar-lein fan hyn, neu e-bostio volunteeringpowis@nationaltrust.org.uk yn uniongyrchol. Fe wnawn anfon manylion pellach atoch a'ch gwahodd i ddiwrnod blasu. Edrychwn ymlaen at siarad â chi’n fuan.

Garden volunteers helping to weed the Walled Garden at Wimpole, Cambridgeshire

Cymerwch olwg ar ein rolau gwirfoddoli

P'un a ydych chi am helpu yn yr awyr agored, gweithio gyda'r cyhoedd, neu ddod i nabod ein tai, cymerwch olwg ar beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.