Skip to content

Crwydro De Eryri

Golygfa o’r coed ar Ystâd Dolmelynllyn, Gwynedd. Nifer o goed gyda changhennau cadarn, sy’n plethu i’w gilydd ac mae nifer o gerrig ar lawr y coetir wedi eu gorchuddio â mwsogl gwyrdd llachar a chen.
Coed a cherrig wedi eu gorchuddio â chen a mwsogl ar Ystâd Dolmelynllyn | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae tirweddau De Eryri yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd i fywyd gwyllt a digon o bethau o ddiddordeb i’w darganfod. Mae’r ardal yn cynnwys un o’r darnau cyntaf o dir i gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dysgwch beth sy’n gwneud yr ardal hon mor unigryw.

Dolmelynllyn

Coed derw digoes yw coetir Dolmelynllyn yn bennaf, gyda’r rhan fwyaf o goed collddail cynhenid Prydain yn tyfu yma. Er bod y blanhigfa tua 200 mlwydd oed, mae’n tyfu ar safle coetir hynafol. Mae bodolaeth y coed pisgwydd mân eu dail yn awgrymu dechreuadau cynharach.

Llun o Afon Camlan, sy’n llifo’n gyflym trwy goed trwchus yn Nolmelynllyn, Gwynedd, Cymru. Mae ei glannau wedi eu gorchuddio â mwswgl a glaswellt.
Afon Camlan, Dolmelynllyn | © National Trust Images/John Miller

Mae amrywiaeth eithriadol o rywogaethau o gennau a bryoffytau yn byw a thyfu ar yr ystâd hon, sy’n eithriadol o brin mewn rhannau eraill o Brydain. Mae’r ystâd a’r coetir wedi eu dynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Cregennan

Mae ystâd Cregennan yn cynnwys dwy fferm ddefaid a gwartheg sydd ar draws rhostir a choetir. Brithir y dirwedd gan gaeau bychain rhwng waliau cerrig lle’r oedd anifeiliaid yn cysgodi unwaith.

Pared y Cefn Hir

Mae Cregennan a Phared y Cefn Hir yn safleoedd daearegol pwysig yn genedlaethol ac maent wedi eu dynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hefyd. Byddwch hefyd yn gweld digon o amrywiaeth o blanhigion gan gynnwys rhywogaethau o dormaen llydandroed, eurinllys y gors a briwydd y fign.

Gweithgarwch folcanig cynnar

Mae’r ardal hefyd yn lleoliad pwysig i astudio gweithgaredd folcanig Ordoficaidd cynnar yn ne Eryri. Gwelir amrywiaeth eang o fathau o greigiau yma gan gynnwys creigiau gwaddod morol â ffosiliau, creigiau folcanig mewnwthiol ac allwthiol.

Golygfa i lawr tuag at Abermaw, Gwynedd, o’r clogwyni llawn eithin yn Ninas Oleu. Tu hwnt i doeau’r dref, gwelir y traeth a’r môr tu hwnt iddo.
Y clogwyni eithinog yn Ninas Oleu, uwchben Abermaw | © National Trust Images/Joe Cornish

Dinas Oleu

Dinas Oleu yw’r darn cyntaf o dir i gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n glogwyn eithinog gyda darnau bach o goed masarn a derw. Mae’r awelon cynnes yn cynnig cynefin delfrydol i blanhigion fel pig-y-crëyr arfor a’r feillionen rychog. Cofnodwyd rhai llysiau’r afu a mwsoglau prin yma.

Cynefin prin yng Nghae Fadog

Rhostir sy’n tra-arglwyddiaethu ar Gae Fadog, ger Dinas Oleu. Mae’n gynefin prin sy’n rhoi pwysigrwydd arbennig i’r ardal. Mae’r planhigion a welir yma yn cynnwys pys y ceirw a theim gwyllt.

Yr Olygfa o Olygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Ne Eryri

Dysgwch sut i gyrraedd De Eryri, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Edrych i lawr tuag at Abermaw, Gwynedd, o olygfan uchel ar glogwyni Dinas Oleu, sydd wedi eu gorchuddio mewn eithin brown a melyn a mwsogl.
Erthygl
Erthygl

Ein dechreuadau yn Ninas Oleu 

Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir y byddem ni yn ei ddiogelu i bawb, am byth. Dysgwch pam bod Mrs Fanny Talbot wedi rhoi’r tir hwn i’w ddiogelu.