Skip to content

Gwirfoddoli yn ein lleoedd gwledig yng ngogledd Sir Benfro

Ceidwaid gwirfoddol, Stad Southwood, Sir Benfro
Ceidwaid gwirfoddol, Stad Southwood, Sir Benfro | © National Trust Images/Sue Jones

Ymunwch â’n tîm o geidwaid gwirfoddol yng ngogledd Sir Benfro. Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, gwneud cyfeillion newydd ac ymestyn eich gorwelion.

Gwirfoddoli wrth yr arfordir ac yng nghefn gwlad

Mae ein ceidwaid gwirfoddol arfordirol a chefn gwlad yn hynod bwysig yma yn Sir Benfro gan eu bod yn helpu ein tîm o geidwaid i ofalu am ein lleoedd a chyfrannu at ein nodau cadwraethol.

O blannu coed ifanc a mes ar ddiwedd tymor yr Hydref, i ledaenu gwair gwyrdd ar ddiwedd misoedd yr haf, cael a chael gwared ar hen ffensys yng nghanol y mwd a thocio llwyni, mae gwirfoddoli gyda ni yng nghefn gwlad yn ffordd wych o ymdrochi ym myd natur.

Drwy gymryd rhan, gallech…


• Dreulio amser yn yr awyr agored yn nhirweddau gwledig hyfryd Sir Benfro
• Gweithio gyda’n ceidwaid cefn gwlad gwybodus
• Cyfrannu at yr ymdrech i liniaru’r newid yn yr hinsawdd
• Bod yn rhan o dîm amrywiol a brwdfrydig a ffurfio cyfeillgarwch newydd wrth weithio ar brosiectau cadwraethol pwysig yn Sir Benfro
• Ennill profiad drwy gymryd rhan mewn arolygon bywyd gwyllt a phlanhigion
• Datblygu a rhannu eich gwybodaeth am natur a sgiliau cefn gwlad traddodiadol

Hefyd, byddech yn ymuno â’r elusen gadwraeth fwyaf yn Ewrop ynghyd â thîm ehangach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n ymfalchïo mewn gofalu am 780 milltir o’r arfordir, dros 250,000 hectar o dir a thros 500 o dai hanesyddol, cestyll, henebion, gerddi, parciau a gwarchodfeydd natur (gan gynnwys goleudai, pentrefi, tafarndai a mwynglawdd aur!).

Rydym yn elusen unigryw sy’n croesawu miliynau o bobl bob blwyddyn. Ein gweledigaeth yw agor mannau er budd pawb, am byth.

Ceidwaid gwirfoddol yn tynnu ffensys, Stad Southwood, Sir Benfro.
Ceidwaid gwirfoddol yn tynnu ffensys, Stad Southwood, Sir Benfro. | © National Trust Images/ Sue Jones

Beth yw natur y gwaith?

Bod yn weithredol

Mae ein rolau gwirfoddoli awyr agored yn amrywiol, a gallwch ymgymryd â thasgau fel plannu coetiroedd, cynnal ffensys a llwybrau, yn ogystal â mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol neu reoli rhedyn a chodi sbwriel wrth yr arfordir.

Monitro bywyd gwyllt

Rydym yn ymgymryd â llu o fio-arolygon, o gyfrif gloÿnnod byw i flodau gwyllt.

Gall naturiaethwyr amatur ein helpu i wella ein dealltwriaeth o sut mae ein bywyd gwyllt yn newid, a’r ffordd orau o’i ddiogelu. Byddwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i gynifer o wahanol rywogaethau â phosibl a bydd ein ceidwaid arbenigol wrth law i’ch arwain wrth ichi eu nodi a’u cofnodi.

Teithiau tywys

Gallech fod yn treulio amser yn y coetiroedd, tir a thraethau dan ein gofal drwy gynllunio ac arwain teithiau tywydd o gwmpas ein lleoedd unigryw yma yn Sir Benfro.

Pam ymuno â ni?

Mae llu o resymau dros ymuno â ni; efallai mai gwirfoddoli fydd y penderfyniad gorau a wnewch erioed
• Dewch yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
• Cewch gyfarfod â phobl o bob cefndir a chreu sawl cyfeillgarwch newydd
• Cewch ddefnyddio eich sgiliau presennol a dysgu sgiliau newydd
• Cewch gryfhau eich CV a helpu i ddatblygu eich gyrfa
• Dewch i fwynhau’r awyr agored anhygoel
• Cewch ddysgu am hanes y lle arbennig hwn

Cysylltu

Os hoffech wneud ymholiadau ynglŷn â gwirfoddoli neu gael rhagor o wybodaeth am rôl benodol, ffoniwch 01646 623110 neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad i ofyn am ffurflen gais. Byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol; ac os hoffech ymuno â’n tîm, byddwn yn trefnu sesiwn gynefino.

Fel yn achos pob eiddo sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwn yn talu costau teithio a chewch gyfle i ymuno â’n cymuned o wirfoddolwyr ar-lein.