Skip to content

Ymwelwch â Stad Cleidda

Golygfa ar draws parcdir glaswelltog ar Stad Parc Cleidda, lle mae nifer o ddefaid duon yn pori. Gellir gweld y tŷ yn y cefndir, wedi’i guddio’n rhannol gan goed aeddfed.
Defaid yn pori ar Stad Parc Cleidda | © National Trust Images

Mae’r parc tirluniedig clasurol hwn o’r 18fed ganrif yn cyfuno pensaernïaeth, golygfeydd ysgubol godidog a chefn gwlad tawel mewn awyrgylch o’r oes a fu. Gwisgwch eich ‘sgidiau cerdded a chrwydro Stad Cleidda.

Pethau i’w gweld yn Stad Cleidda

Mae Cleidda wedi’i lleoli i’r dwyrain o dref farchnad y Fenni lle mae ochrau serth y cwm yn ildio i dirwedd fwy llydan a gwastad. Yn wreiddiol fe’i hadeiladwyd gydag arian o’r meysydd glo a’r gweithfeydd haearn yn y cymoedd cyfagos ac mae’n cynnwys tŷ mawr, gerddi, bythynnod, ffermydd a pharcdir.

Tŷ Cleidda

Mae Tŷ Cleidda yn adeilad rhestredig Gradd I. Fe’i hailadeiladwyd yn yr arddull Roegaidd glasurol yn y 1830au gan y pensaer Edward Haycock. Mae’n ddigon posib mai hwn yw’r tŷ ‘arddull Roegaidd’ olaf yng Nghymru.

Mae’r ochr allan sgwâr, sydd â wyneb carreg nadd, yn agor i’r ystafell fwyaf trawiadol yn y tŷ – y cyntedd. Mae’n hirgrwn ei siâp ac mae ganddo nenfwd ceugrwm a gynhelir gan saith piler Tysgaidd wedi’u peintio i efelychu marmor melyn.

Mae ail gyntedd y tu hwnt i’r un yma, gydag ystafell ar y naill ochr, ac mae grisiau cantilifrog yn arwain at oriel ar y llawr cyntaf, sy’n ymestyn yr holl ffordd o gwmpas pedair ochr neuadd sgwâr.

Castell Cleidda

Ystyrir Castell Cleidda fel un o ffoleddau nodedig y 18fed ganrif yng Nghymru. Fe’i hadeiladwyd yn y 1790au gan William Jones o Dŷ Cleidda gyda’r diben o ‘dawelu meddwl yr effeithiwyd arno gan golled y wraig fwyaf rhagorol’, ar ôl i’w wraig Elizabeth farw.

Mae’r castell rhestredig Gradd I yn siâp-L ac mae ganddo gylchfur sy’n cysylltu dau dŵr carreg crwn a thŵr sgwâr yn y canol. Mae’r tu allan wedi’i rendro â phlinthiau carreg nadd, siliau, cornisiau a ffrisiau, paneli a bylchfuriau addurnol. Cafodd ei ddylunio gan y pensaer a’r cynllunydd gerddi John Davenport.

Adeiladau pwysig eraill

Mae’n debyg mai Davenport hefyd wnaeth ddylunio’r ardd furiog a adeiladwyd gan William Jones fel rhan o welliannau’r stad yn y 1780au. Mae mynedfeydd bwaog yn yr arddull Duduraidd ar yr ochr ogleddol a’r ochr ddwyreiniol.

Y Porthdy

Adeiladwyd y Porthdy, ger y porth bwaog, tua 1840. Mae ganddo wyneb carreg nadd ac mae’n cynnwys dyluniadau Tuduraidd a Gothig.

Chapel Farm a Fferm Ffynnonau

Mae Chapel Farm a Fferm Ffynnonau yn adeiladau rhestredig Gradd II. Maen nhw’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Adeiladwyd tŷ Chapel Farm ar safle adeilad cynharach o’r 16eg ganrif, ac mae’r tai allan yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Bryngaer Oes Haearn Coed y Bwnydd

Coed y Bwnydd yw’r fryngaer Oes Haearn fwyaf yn Sir Fynwy, ac o bosib yr un sydd wedi’i chadw orau. Mae ei hanes dynol yn dyddio yn ôl fwy na 2,000 o flynyddoedd.

Lleolir Coed y Bwnydd yn uchel ar bentir coediog, 196m uwchben lefel y môr. Mae’n edrych dros bentref Betws Newydd ac yn agos at Stad Cleidda.

Cydnabyddiaeth genedlaethol

Mae’r llethrau serth a choediog yn arwain at gaer â thri rhagfur. Mae’r rhagfuriau hyn, sydd mewn cyflwr da, yn amgylchynu canol coediog crwn. Gan fod y rhagfuriau mewn cyflwr mor dda mae’r gaer wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol fel Heneb Restredig.

Rhoddwyd Coed y Bwnydd i ni gan y Capten Geoffrey Crawshaw er cof am ei gyfaill, y Sarjant Arthur Owen, a fu farw mewn damwain hedfan yn yr Ail Ryfel Byd

Praidd bach o ddefaid yn pori ar fynydd Pen-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys, gyda chopa pigfain yn y pellter.

Darganfyddwch fwy am Fynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg

Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Praidd bach o ddefaid yn pori ar fynydd Pen-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys, gyda chopa pigfain yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Pen-y-fâl 

Darganfyddwch y Mynyddoedd Duon, lle mae Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchlaw’r dirwedd. Gyda golygfeydd panoramig o’r cefn gwlad cyfagos, mae’r rhostir yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.