Skip to content

Hanes y Cymin

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Ymwelwyr o flaen y Tŵr Crwn yn y Cymin | © National Trust Images/John Millar

Mae’r Cymin a’i naw erw o diroedd hamdden yn edrych dros Drefynwy a phrydferthwch Dyffryn Gwy. Dysgwch am ei hanes fel rhan o ystâd Dug Beaufort ‘slawer dydd, a sut mae ffawd y Cymin wedi amrywio dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Hanes y Tŷ Crwn

Roedd yn safle picnic poblogaidd ar ddiwedd y 18fed ganrif, a dechreuodd y gwaith o adeiladu’r Tŷ Crwn ym 1794. Mae Tŷ Crwn y Cymin yn adeilad anarferol, unigryw. Er ei fod yn fach o ran maint, mae'n sefyll yn osgeiddig uwchben Trefynwy, De Cymru, ac yn cynnig golygfeydd godidog tua'r gorwel.

Boneddigeiddrwydd Sioraidd

Mae adeilad bach rhestredig Gradd II y Tŷ Crwn, gyda'i ddyluniad cylchol, castellaidd, yn edrych fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg neu barc chwarae. Yn wir, dyna'r oedd y Cymin un tro - lle chwarae'r bonedd lleol.

Tua diwedd y 18fed ganrif, byddai grŵp o wŷr bonheddig yn cwrdd mewn llecynnau tlws lleol i fwynhau picnics. Yn ôl pob sôn, awgrymwyd y Cymin gan un o'r gwŷr ym 1793, ac roedd mor boblogaidd nes iddynt ddychwelyd yno bob wythnos wedi hynny.

Y lle perffaith am bicnic, boed law neu hindda

Rhoddodd dywydd Cymru stop ar y fath hwyl, ond penderfynodd y grŵp oresgyn yr her drwy godi arian i adeiladu tŷ gwledda lle gallent fwynhau eu picnic boed law neu hindda.

Gwledd go iawn

Ar gyfer y Sioriaid cyfoethog, cynigiodd y cyfnod fynediad digynsail at fwydydd blasus newydd ac opsiynau picnic ysblennydd! Roedd ffrwythau egsotig yn cael eu tyfu mewn orendai mawr, a chawsant eu mewnforio o wladfeydd Prydeinig dramor hefyd. Roedd siwgr ar gael yn haws hefyd o blanhigfeydd yn India’r Gorllewin.

Blas am fwyd cain

Tyfodd diwydiant newydd – llyfrau coginio. Taniodd hyn chwant y Sioriaid am fwyd moethus, cain. Amrywiodd y ryseitiau o’r diymhongar i’r rhyfeddol, a daeth bwyd drudfawr a gwleddoedd a phicnics yn arwyddion pwysig o statws cymdeithasol. Po fwyaf o ddanteithion all-dymhorol y gallech eu cynnig, y gorau oedd eich statws fel gwesteiwr.

Gosod y sylfeini

Gosodwyd y garreg gyntaf ar 1 Mai 1794 a chwblhawyd y Tŷ Crwn ym 1796. Roedd yn adeilad deulawr â dim ond un ystafell ar bob llawr - cegin ar y llawr gwaelod a'r 'ystafell wledda' uwch ei phen.

Amrywiodd ffawd y Tŷ Crwn, ynghyd â gweddill y Cymin, dros y 100 mlynedd nesaf, ac ym 1902 fe'i prynwyd am £300 drwy gefnogaeth gyhoeddus a'i rhoi i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Llwybr drwy goetir â choed yn hongian drosto yn arwain at Deml y Llynges yn y Cymin, Sir Fynwy, y gellir gweld rhan ohoni y tu ôl i wal gerrig.
Llwybr yn arwain i Deml y Llynges yn y Cymin | © National Trust Images/Mike Hallett

Hanes Teml y Llynges

Mae Teml y Llynges yn y Cymin yn Nhrefynwy, De Cymru, a ysbrydolwyd gan oruchafiaeth lyngesol Prydain ar anterth yr Ymerodraeth Brydeinig, wedi gweld newidiadau niferus ers iddi agor ym 1800.

Lleoliad unigryw

Adeiladwyd Teml y Llynges, yr unig un o'r fath yn y byd mae’n debyg, drwy gefnogaeth gyhoeddus ym 1800 i gydnabod y Llynges Brydeinig ac, yn benodol, 16 o lyngeswyr a oedd wedi sicrhau buddugoliaethau pwysig mewn brwydrau mawr ar y môr. Yn wir, mae'n debyg i Deml y Llynges gael ei hysbrydoli gan fuddugoliaeth Nelson yn erbyn y fflyd Ffrengig ym Mrwydr y Nîl ym 1798.

Croeso cynnes

Fe’i cwblhawyd ym 1801 ac ymwelodd yr Arglwydd Nelson â hi ym 1802. Hwyliodd i lawr Afon Gwy, gyda’r Arglwyddes Hamilton a’i gŵr Syr William. Taniwyd gynnau i’w croesawu i Drefynwy, roedd band y dref yn chwarae, a chawsant eu cyfarch gan y maer.

‘Pan gyrhaeddodd yr Arglwydd y rhan hon o'r adeilad, arsylwodd, ag ysbienglas opera yr oedd yn ei ddal yn ei law, ar y cynrychioliad hwn o'i enwogrwydd, a hynny ag emosiwn digynnwrf, fel petai'r cyflawniad yn perthyn i swyddog arall - ar ôl treulio ychydig funudau'n edrych arno, trodd ei sylw at wrthrychau diddorol eraill o'i gwmpas.’

- Charles Heath, un o drigolion Trefynwy, ymweliad Nelson, ac roedd yn ei gwmni wrth iddo ymweld â Theml y Llynges

Lle hardd

Wedi’r ymweliad, dywedodd Nelson: ‘Mae’n un o'r llefydd harddaf i mi ei weld erioed a, go dda Drefynwy, y Deml hon yw'r unig Gofeb o'r fath sydd wedi'i chodi i anrhydeddu Llynges Lloegr unrhyw le yn y Deyrnas.’

Gwnaeth y ffaith fod Teml y Llynges wedi'i chodi mewn tref sirol blwyfol fach yng Nghymru, nad oedd yn agos at y môr nac yn meddu ar draddodiadau llyngesol neu forio, yn hytrach nag yn un o borthladdoedd llyngesol mawr Prydain, gryn argraff ar Nelson.

Ni fyddai Colofn Nelson yn cael ei hadeiladu tan 1843, bron i 40 mlynedd ar ôl ei farwolaeth ym Mrwydr Trafalgar ym 1805.

Dirywiad trist

Gwnaed newidiadau i Deml y Llynges yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, gan gynnwys ychwanegu feranda. Ond erbyn canol y ganrif, roedd y strwythur wedi'i esgeuluso gyda llawer o'r nodweddion wedi'u colli, ac erbyn 1850 roedd y Cymin cyfan mewn cyflwr truenus.

Sefydlwyd Pwyllgor Gwella'r Cymin tua 1851 a gwnaed ymdrechion i geisio adfer Teml y Llynges ym 1882.

Adferiad arbennig

Rhoddwyd y Cymin i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1902, a gwnaed gwaith adfer sylweddol ar adeilad rhestredig Gradd II Teml y Llynges ym 1987. Tynnwyd y feranda i lawr, adferwyd y placiau coll, a gosodwyd replica o Britannia yn lle'r un a gollwyd.

Ond achosodd tywydd garw, yn arbennig yn ystod gaeafau 2009-2011, ddifrod difrifol i'r adeilad.

Prosiect tri mis

Yn 2012, gwnaethom gynnal prosiect tri mis o hyd, gwerth £85,000, i adfer Teml y Llynges i'w gwir ogoniant, gyda chymorth Cadw, Cymdeithas Lyngesol Frenhinol Mynwy, Cymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gwent ac Anna Tribe, un o ddisgynyddion yr Arglwydd Nelson.

Cwblhawyd y gwaith adfer yn Nheml y Llynges drwy osod dau baentiad bendigedig ar y bwa, ‘The Standard of Great Britain waving triumphant over the fallen and captive flags of France, Spain and Holland’ a ‘The Glorious and Ever Memorable Battle of the Nile’, a ffigur newydd o Britannia, sy’n sefyll yn falch ar ben y gofeb.

Achlysur arbennig yr ail-agor

Dathlwyd ail-agoriad Teml y Llynges ar ei newydd wedd ar 1 Awst 2012, 211 o flynyddoedd yn union ar ôl ei hagoriad swyddogol ar 1 Awst 1801.

Heddiw, mae Teml y Llynges wedi'i hadfer ac rydyn ni'n bwriadu parhau i gynnal y gofeb arbennig hon fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gerdded yn ôl troed Nelson.

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.

Darganfyddwch fwy yn y Cymin

Dysgwch pryd mae'r Cymin ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r Cymin 

Darganfyddwch fyd o olygfeydd godidog a choetiroedd heddychlon, wedi'u cyfuno â thiroedd hamdden prydferth i'w mwynhau gyda phicnic neu daith gerdded ling-di-long.