Skip to content

Ymwelwch â’r Cymin

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Ymwelwyr o flaen y Tŵr Crwn yn y Cymin | © National Trust Images/John Millar

Mae'r Cymin, ger Trefynwy, â'i golygfeydd godidog, ei thiroedd hamdden prydferth, ei theml Sioraidd a’i llwybr hyfryd drwy'r coetir, yn lle arbennig i dreulio ychydig oriau'n ymlacio.

Paradwys y picnic y Cymin

Ysbrydolwyd y Cymin gan bicnics fwy na 200 mlynedd yn ôl pan ffurfiodd grŵp o foneddigion lleol glwb picnic ac ymweld â'r Cymin bob dydd Mawrth. Arweiniodd hyn at adeiladu’r Tŷ Crwn, a dilynodd y tiroedd hamdden mewn dim o dro.

Heddiw, y Cymin yw’r lle perffaith i fwynhau picnic a golygfeydd gwych.

Teulu yn eistedd ar flanced ac yn cael picnic yn y Cymin, Sir Fynwy. Mae plentyn yn ymestyn ei law i dderbyn fwyd oddi wrth aelod arall o’r teulu.
Teulu’n mwynhau picnic yn y Cymin | © National Trust Images/John Millar

Teml y Llynges

Adeiladwyd Teml y Llynges drwy gefnogaeth gyhoeddus ym 1800 i gofio am 16 o lyngeswyr enwocaf Prydain a'u buddugoliaethau ar y môr yn y Rhyfel Saith Mlynedd a'r rhyfel yn erbyn y Ffrainc chwyldroadol.

Fe'i cysegrwyd i Dduges Beaufort, merch y Llyngesydd Boscawen, un o'r llyngeswyr yr adeiladwyd y Deml er cof amdano.

Dyluniad neo-glasurol

Cwblhawyd y deml neo-glasurol siâp H ym 1801, ac mae bwa gorfoleddus ar ei phen yn cynnal ffigur o Britannia yn eistedd ar graig. O dan y bwa mae dau baentiad i weld; ‘The Standard of Great Britain waving triumphant over the fallen and captive flags of France, Spain and Holland’ a ‘The Glorious and Ever Memorable Battle of the Nile’.

Adeilad rhestredig Gradd II

Mae Teml y Llynges wedi bod drwy newidiadau niferus ers iddi gael ei hadeiladu, gan gynnwys tri chyfnod o drwsio. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd yn gyfrifol am y ddau gyfnod trwsio diweddaraf, ym 1987 ac eto yn 2012 o ganlyniad i ddifrod difrifol gan y tywydd.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II anarferol hwn wedi'i achub ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a bydd yn parhau i sefyll fel tyst i oruchafiaeth lyngesol Prydain yn y gorffennol.

Mae teulu o bump yn chwarae croce ar y lawnt daclus yn y Cymin, Sir Fynwy, gyda’r Tŷ Crwn i’w weld drwy’r coed ac i fyny’r bryn yn y cefndir.
Teulu’n chwarae croce yn y Cymin | © National Trust Images/John Millar

Chwa o awyr iach yn y Cymin

Mae'r Cymin yn lle arbennig am lawer o resymau, gan gynnwys y golygfeydd gogoneddus tua'r gorwel. Yn wir, dyma un o'r rhesymau y gwirionodd gwŷr bonheddig Clwb y Cymin ar y llecyn hwn ac adeiladu'r Tŷ Crwn ar gopa'r bryn, sy’n 800 troedfedd o uchder.

Golygfeydd panoramig

Ar ddiwrnod clir gallwch fwynhau golygfeydd panoramig i lawr Dyffryn Gwy, tua'r Bannau Brycheiniog ac i Fryniau Malvern. Allwch chi weld Pen-y-Fan, mynydd uchaf de Prydain o'r gopa.

Ymweliad â Choedwig Beaulieu

Mae golygfeydd gwych y dirwedd yn gychwyn a gorffen delfrydol i daith gerdded hamddenol o amgylch Coedwig Beaulieu, sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.

Noder mae’r Tŷ Crwn ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd.

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.

Darganfyddwch fwy yn y Cymin

Dysgwch pryd mae'r Cymin ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Erthygl
Erthygl

Hanes y Cymin 

Y Cymin yw’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb bywyd. Mae yma olygfeydd godidog o Ddyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog, ac mae’n gartref i Deml anarferol y Llynges.