Diwrnodau i’r teulu yn Nhŷ Tredegar

Neidio i
Mae digon i ddiddanu’r teulu i gyd yma yn Nhŷ Tredegar. Gyda phlasty trawiadol a 90 erw o erddi a pharcdir i’w darganfod, rydych chi’n siŵr o greu atgofion i’w trysori am flynyddoedd i ddod.
Hanner Tymor Hydref
Yr hanner tymor hydref hwn, gwahoddir teuluoedd i ymuno â Rhubi y Coblyn Cymreig, neu’r ‘pwca’ fel mae'n cael ei alw, ar lwybr hydrefol drwy’r gerddi, sy’n cyfleu themâu coffa yn fyw drwy hanes a natur. Mae’n ffordd feddylgar i blant greu cysylltiad â’r tymor, gan archwilio pwysigrwydd cofio gyda’n gilydd ar yr un pryd.
Ar ddiwrnodau dethol yn ystod yr hanner tymor, gall teuluoedd hefyd fwynhau crefftau hydrefol yn yr Orendy, drwy addurno cofroddion cerrig bach â phabïau, patrymau neu ddyluniadau personol i fynd adref gyda chi. Yn y stablau, saif cerflun helyg trawiadol o Syr Briggs y ceffyl rhyfel ymhlith mwy na 4,000 o babïau a wnaed â llaw. Wedi’i chreu gan wirfoddolwyr, staff ac ymwelwyr, mae’r arddangosfa’n cynnig teyrnged deimladwy i straeon o wasanaeth ac aberth.
Does dim angen archebu lle ymlaen llaw. Mae costau mynediad arferol yn daladwy, yn ogystal â £3 ar gyfer pob cyfranogwr crefft. Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a deiliaid tocynnau trigolion lleol yn ymweld am ddim.
Gweler ein tudalen ddigwyddiadau am fwy o wybodaeth.
Nadolig i'r Teulu yn Nhŷ Tredegar
Drwy gydol y gwyliau Nadolig, gall teuluoedd archwilio 500 mlynedd o Nadolig, a gallant hyd yn oed weld Siôn Corn a Scrooge blin, ar ddyddiau arbennig.
Cliciwch yma i weld yr holl fanylion i drefnu eich diwrnod allan Nadoligaidd hudolus.
Trefnu eich ymweliad
Dyma wybodaeth allweddol ar gyfer trefnu ymweliad eich teulu...
- Mae cyfleusterau newid babanod ar gael drws nesaf i’r dderbynfa, ac yng Nghaffi’r Bragdy. Mae tai bach y parc ar agor yn ystod misoedd yr haf yn unig.
- Oherwydd y lloriau hanesyddol, ni allwch ddod â phramiau na bygis i mewn i’r tŷ. Mae lloches parcio pramiau ger drws ffrynt y tŷ.
- Ni chewch ddod â beics, sgwteri, ffrisbis na pheli i mewn i’r gerddi, ond mae digon o le i chwarae gyda’r pethau hyn yn y parc.
- Mae bocsys bwyd plant ar gael yng Nghaffi’r Bragdy, ac mae gan y siop lyfrau ail-law ddewis arbennig o lyfrau plant.
- Rhaid talu i fynd i’r tŷ a’r gerddi, ond gallwch fynd i’r parc am ddim.

Pethau i’w gwneud yn y gerddi
Pecyn creadigol
Codwch becyn: Helpwch eich hun i un o'n Pecynnau Creadigol, sy'n llawn popeth sydd ei angen arnoch i droi ysbrydoliaeth yn weithiau celf. Cewch adael eich gwaith i eraill ei weld, neu fynd ag ef adref gyda chi.
Bagiau Cefn Antur Synhwyraidd
Bydd ein bagiau antur synhwyraidd yn addas i ystod o anghenion amrywiol i bob oed. Ewch am antur i'r gerddi, mae’r pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o eitemau synhwyraidd, gan gynnwys teganau tawelu, amddiffynwyr clustiau, chwyddwydr, llyfr stori a theganau meddal.
Bagiau Cefn Antur
Gall teuluoedd a phlant gasglu bag cefn antur o’r Dderbynfa Ymwelwyr i wella eich ymweliad. Ewch drwy’r gerddi ffurfiol a’r Plasty wrth gysylltu â natur a’r rhai o’ch cwmpas drwy weithgareddau tymhorol hwyliog.
Llefydd gwych y chwarae
Dilynwch y ddolen hon am daflen i’w lawrlwytho a fydd yn dangos yr holl gemau gorau i chi eu chwarae yn y parcdir.
50 peth i'w wneud cyn dy fod yn 11 ¾
Mwynhewch weithgareddau’r 50 peth i’w wneud cyn dy fod yn 11 ¾ – rhestr fwced yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i anturiaethwyr ifanc. Gwyliwch aderyn, gwnewch ffrindiau gyda phryfyn neu ewch i grwydro yn eich welîs wrth i chi fwynhau popeth sydd gan y gerddi i’w gynnig. Casglwch daflen weithgareddau o’r dderbynfa ymwelwyr cyn i chi ddechrau ar eich antur wyllt.
Pethau i’w gwneud yn y tŷ
Gwisgo i greu argraff
Esguswch mai Tŷ Tredegar yw eich cartref neu weithle chi gyda dewis o wisgoedd traddodiadol. Gyda ffrogiau, siacedi a hetiau i ddewis o’u plith – ydych chi am fod yn arglwyddes neu’n fwtler? A chofiwch dynnu llun fel teulu yn yr Ystafell Frown.
Chwarae gyda phypedau
Ewch i’r Lolfa lle gwelwch gornel glud ag arddangosfa bypedau ryngweithiol. Crëwch eich storïau eich hun am y bobl a oedd yn byw yma gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Allwch chi ail-greu rhai o’r straeon rydych chi wedi’u clywed yn ystod eich ymweliad?

Pethau i’w gwneud yn y parc
Datblygu man chwarae newydd
Lle i chwarae a mwynhau picnic
Gydag ardaloedd gwyrdd eang, y parc yw’r lle perffaith i gicio pêl, reidio beic neu fwynhau natur gyda phicnic a thaith gerdded. Mewn tywydd gwlyb, gall rhai o’r llwybrau fod yn fwdlyd, felly cofiwch wisgo’n addas ar gyfer eich ymweliad.
Bwydo’r hwyaid
Mae’r llyn addurniadol yn Nhŷ Tredegar yn gartref i lawer o wahanol adar, gan gynnwys hwyaid, cotieir, elyrch a gwyddau. Pys wedi rhewi yw’r bwyd gorau sydd gennych i adar yn eich cartref, mae’n siŵr – maen nhw’n llawn maetholion iach.
Llefydd Gwych y Chwarae yn Nhy Tredegar
Dilynwch y ddolen hon am daflen i’w lawrlwytho a fydd yn dangos yr holl gemau gorau i chi eu chwarae yn y parcdir.