
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Byddai gan bob tŷ Tuduraidd ddarn bach o dir a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel gardd y tŷ, gan dyfu cnydau bwyd, perlysiau meddyginiaethol, perlysiau i’w rhoi hyd y lloriau a phlanhigion i liwio defnydd er mwyn sicrhau bod yr aelwyd yn cael digon o fwyd ac yn iach trwy’r flwyddyn. Dewch i ymweld â’r ardd Duduraidd yn Nhŷ Mawr Wybrnant a chamu’n ôl i’r gorffennol.
Os byddech yn mynd yn wael yn ystod y cyfnod Tuduraidd, at yr ardd y byddech yn troi yn gyntaf. Byddai perlysiau meddyginiaethol yn cael eu rhoi ar y croen neu eu cymryd ar ffurfiau amrywiol ac yn aml gyda pherlysiau eraill a phob un wedi ei fesur yn ofalus.
Gwelodd gwyddoniaeth fodern bod rhai o’r meddyginiaethau’n effeithiol, ond roedd eraill yn ymddangos fel petaent yn gweithio ond mae’n debyg bod y claf yn gwella er gwaethaf cael y perlysiau. Roedd rhai’n eithriadol o wenwynig a gallent fod wedi arwain at lawer o farwolaethau.
Byddai Tŷ Mawr yn fferm brysur iawn. Byddai cymysgedd o arogleuon yn y brif ystafell fyw, rhwng y tân yn mygu, y coginio a’r anifeiliaid.
Cyn i’r prif lawr carreg gael ei osod, mae’n debyg mai llawr pridd wedi ei guro fyddai yn Nhŷ Mawr, wedi ei beintio â casein, sy’n dod o laeth, ac sy’n drewi braidd pan fydd yn wlyb.
Byddai pobl yn gorchuddio’r lloriau â brwyn neu gyrs neu fatiau wedi eu gwehyddu. Byddai perlysiau llawn arogleuon melys yn cael eu gwasgaru dros y rhain, perlysiau fel lafant, penrhudd yr ardd, tansi, erwain a ruw. Roedd y broses o orchuddio’r matiau â pherlysiau yn helpu i guddio’r aroglau a hefyd yn rheoli chwain a bacteria.
Byddai perlysiau lliwio yn cael eu defnyddio i roi lliw i ffabrigau. Mae gwreiddiau llysiau’r gwrid (Anchusa officinalis) yn cynhyrchu lliw coch, mae codau hadau’r glaslys (Isatis tinctoria) yn rhoi lliw glas ac roedd y cynffon titw (Reseda luteola) yn rhoi lliw melyn. Gellid cymysgu’r rhain i gael lliwiau gwahanol.
Byddai perlysiau coginio’n cael eu tyfu i roi blas ar sawsiau a chig a byddent yn cynnwys tafod yr ych, saets, teim, rhosmari, persli a chennin syfi.
Byddai pobl fwy cyfoethog yn bwyta diet llawn protein a bara. Roedd llysiau’n fwyd cyffredin i’r rhai oedd â llai o gyfoeth. Roedd llysiau’n llawer rhatach i’w prynu ac yn haws eu tyfu.
Nid oedd llysiau’n cael eu gweini gyda chig ar yr un plât fel arfer. Byddai’r llysiau’n cael eu defnyddio mewn cawl tew yn aml, a elwid yn botes. Roedd rysáit y potes yn cynnwys pys, llaeth, melynwy, briwsion bara. Byddai’r blasau ychwanegol yn dod o’r persli, saffrwm a sinsir.
Roedd llysiau hefyd yn chwarae rôl mewn meddyginiaeth lysieuol. Credai’r Tuduriaid bod maip yn gwella’r peswch. Gellid defnyddio nionod cryf i helpu i wella brathiad ci gwallgof. Mae llawer o feddyginiaethau ar gyfer y cyflwr hwn, oherwydd y nifer fawr o gŵn oedd wedi eu heintio â’r gynddaredd mae’n debyg.
Roedd Meddygon Myddfai yn rhoi bri mawr ar rinweddau meddyginiaethol y genhinen. Mae ganddynt adran yn trafod ‘Rhinweddau niferus y genhinen’ sy’n cynnwys trin cur pen, byddardod, briwiau, cornwydydd, gwynt ac fel cymorth i ferched sydd eisiau plant.
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.