Skip to content

Tŷ Mawr Wybrnant

Cymru

Man geni’r Esgob William Morgan.

Penmachno, Betws-y-Coed, Conwy, LL25 0HJ

Tŷ Mawr Wybrnant o'r awyr, Conwy, Cymru

Rhybudd pwysig

Mae Tŷ Mawr Wybrnant wedi cau am y tymor. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi dod heibio i'n gweld ni y flwyddyn yma. Bydd yr ardd fach Tuduraidd a'r gylchdaith o gwmpas Tŷ Mawr yn parhau i fod ar agor.

Cynllunio eich ymweliad

Pethau i'w gwneud yn Nhŷ Mawr Wybrnant 

Gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad drwy gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant eleni – o’n hystafell arddangos i gyfres o ddiwrnodau agored misol cyffrous.

Teulu yn archwilio y tu fewn i Dŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru

Digwyddiadau Arbennig 

Ar ddydd Sul cyntaf y mis o tua mis Ebrill i fis Medi, mae Tŷ Mawr yn cynnal digwyddiadau diwrnod agored arbennig sy'n cyffwrdd gyda gwahanol themâu.

Llun o Mair Tomos Ifans yn perfformio yn ystod digwyddiad diwrnod agored yn Nhŷ Mawr Wybrnant

Ymwelwch â'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant 

Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.

Teulu yn archwilio'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru

Ymweld â Thŷ Mawr Wybrant gyda'ch ci 

Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.

Teulu yn cerdded yn yr ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru
Two visitors in raincoats exploring the autumnal garden at Hinton Ampner, Hampshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.