Skip to content

Ysgolion lleol yn dod â stori Tŷ Mawr Wybrnant yn fyw

Actor yn perfformio fel William Morgan ar lwyfan bach o flaen torf o ddisgyblion ysgol yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru
Perfformiad Mewn Cymeriad o William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant | © National Trust Images / Tape Productions

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyd-weithio gydag ysgolion lleol i ddathlu hen drysor drwy leisiau ifanc a chreu dehongliad newydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.

Creu synau synhwyrol

Dechreuodd y rhaglen fis o hyd gyda chyflwyniad i hanes hynod ddiddorol un o drigolion enwocaf Tŷ Mawr Wybrnant, yr Esgob William Morgan, drwy berfformiad hwyliog a rhyngweithiol ' Mewn Cymeriad ar y safle gan yr actor, Llion Williams.

Gyda chymorth hwyluswyr lleol, 'Tape Community, Music and Film', aeth yr ysgolion ymlaen wedyn i ddychmygu'r synau y byddai William Morgan wedi'u clywed yn blentyn o'u hoedran, yn y ffermdy dros 400 mlynedd yn ôl. Yna cafodd y disgyblion y dasg o greu map o Dŷ Mawr a dod â’r tŷ yn fyw trwy sain.

Roedd y sesiynau'n cynnwys recordio synau go iawn, fel y nant a phroses o ail-greu synau o'r enw seiniau Foley, a oedd yn cynnwys bod yn greadigol gyda phropiau annisgwyl, fel papur gyda swigod y gellir eu popio ar gyfer ail-greu sŵn tân yn yr aelwyd.

Profiad arbennig i’r disgyblion a chyfle gwych iddynt ddysgu am hanes a phwysigrwydd Tŷ Mawr Wybrnant yn niwylliant Cymru. Cafodd y disgyblion gyfle i weithio’n greadigol i greu adnodd bydd plant a phobl ifanc yr ardal a thu hwnt allu elwa ohoni. Diolch yn fawr am y cyfle i gyd-weithio.

Dyfyniad gan Gareth Davies Pennaeth Ysgol Llanddoged ac Ysgol Ysbyty Ifan
Gwaith dehongli creadigol yn Nhŷ Mawr Wybrnant a grëwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Dyffryn Conwy
Gwaith dehongli creadigol yn Nhŷ Mawr Wybrnant a grëwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Dyffryn Conwy | © Paul Harris

Rhyddiaith greadigol

Ar ddiwrnod braf o hydref yn 2024 daeth disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Dy ryn Conwy draw i Dŷ Mawr Wybrnant i weld y casgliad Beiblau yn ei gyne n. Yng nghwmni’r Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor cafodd pawb ddewis un Beibl gan ymateb i’w liw, ei arogl, ei deimlad ac i’w naws arbennig. Roedd hyn yn ordd i werthfawrogi cymeriad unigryw pob Beibl.

Aethpwyd ati wedyn i leoli’r Beiblau ar atlas mawr: o Weriniaeth Tsiec i Eswatini (Swaziland), o Dde Corea i Rwmania, o’r Unol Daleithiau i Seland Newydd. Roedd yn agoriad llygad gweld eu bod wedi teithio i gartref William Morgan o bedwar ban byd.

Yn y sesiynau ysgrifennu dilynol buont yn dychmygu pererindodau’r Beiblau i Gymru, gan ystyried yr heriau a wynebai perchnogion y Beiblau ar eu taith: eu gobeithion, eu hofnau – a’u teimladau wrth gyrraedd Tŷ Mawr o’r diwedd.

Ymatebodd y disgyblion yn wych i'r cyfan, ac mae’r darnau gor enedig yn dyst i’w dychymyg, eu hempathi a’u dawn dweud arbennig. Braint a phleser oedd cael ysbrydoliaeth o’r fath gasgliad unigryw a chyfoethog.

Dyfyniad gan Yr Athro Angharad Price Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol y Gymraeg), Prifysgol Bangor