Skip to content

Ein safbwynt ar hela trywydd 

View of Mam Tor from Winnats Pass, Derbyshire
Golygfa o Mam Tor o Winnats Pass, Swydd Derby | © National Trust Images/Rob Coleman

Darllenwch am ein safbwynt ar hela trywydd a sut i roi adroddiad am dresmasu ar dir sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Hela trywydd a’r gyfraith

Cafodd hela mamaliaid gwyllt, gan gynnwys llwynogod a hyddod, gyda chŵn ei wahardd yng Nghymru a Lloegr dan Ddeddf Hela 2004. Nid yw’r tiroedd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi eu heithrio o gwbl.

Mae’r gyfraith yn caniatáu’r hyn a elwir yn ‘hela trywydd’. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys pobl ar droed neu ar gefn ceffylau yn dilyn trywydd ar hyd llwybr a bennwyd ymlaen llaw gyda chŵn hela neu gorhelgwn. I bob pwrpas mae’n efelychu helfa draddodiadol ond heb i anifail gael ei erlid, ei anafu na’i ladd.

Hela trywydd ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Nid ydym yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer unrhyw weithgareddau hela trywydd bellach, gan gynnwys ymarfer cŵn hela. Hela abwyd yw’r unig beth rydym yn ei drwyddedu – ni chaiff unrhyw ffurf arall ar hela ei thrwyddedu ar dir dan ein gofal.

Wrth ddod i benderfyniad ar y mater cymhleth, dadleuol hwn, ystyriodd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddefnydd priodol o arian elusennol, y risg o niwed i enw da’r Ymddiriedolaeth, a chanlyniad pleidlais ddiweddar yr aelodau ar y mater hwn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref 2021.

Sylwer:

  • Mae penderfyniad yr Ymddiriedolwyr yn golygu na chaiff unrhyw drwyddedau eu cyhoeddi ar gyfer ymarfer cŵn hela ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
  • Gallai rhai digwyddiadau seremonïol gael eu cynnal ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol na fydd yn cynnwys gweithgarwch hela trywydd.
  • Nid oes angen trwyddedau ar grwpiau hela trywydd, fel unrhyw grwpiau eraill, i groesi ein tir os ydyn nhw’n cadw at lwybrau ceffylau neu hawliau tramwy cyhoeddus eraill.

Rhoi adroddiad am ddigwyddiad

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld tresmasu ar dir dan ein gofal, rydym yn gofyn i chi roi adroddiad am hynny gyda chymaint o fanylion ag sy’n bosibl, gan gynnwys y lleoliad ac enw’r grŵp dan sylw, i enquiries@nationaltrust.org.uk ac i’n staff ar lawr gwlad pan fydd yn bosibl.

Er bod enghreifftiau o dresmasu wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn deall y pryderon a godir ac am sicrhau pobl ein bod yn gwneud yr hyn allwn ni i ail-gadarnhau ein safbwynt. Oherwydd maint ein lleoedd yng nghefn gwlad mae’n amhosibl i’n staff fod ym mhob man ar unwaith, a rhaid i ni hefyd ystyried lles y staff.

Ond, rydym yn ymchwilio i bob digwyddiad o dresmasu posibl ac yn ystyried pob dewis posibl. Rydym bob amser yn siarad ag unrhyw helfeydd sydd wedi tresmasu i ailadrodd ein terfynau ac ail gadarnhau nad oes ganddynt unrhyw hawl na chaniatâd i fod ar ein tir.

Hela abwyd

Digwyddiad i geffylau yw hela abwyd a grëwyd yn yr 1800au. Gosodir trywydd ar hyd llwybr a bennwyd ymlaen llaw, sy’n arwain at ffensys penodol. Mae helfeydd abwyd yn defnyddio amrywiaeth o gŵn, gan gynnwys bytheiaid a gwaetgwn. Mae gwaetgwn yn olrhain rhedwr dynol, tra bod cŵn hela eraill yn dilyn arogl cemegol (hadau anis fel arfer).

Nid erlid anifeiliaid yw nod hela abwyd. Mae’r cŵn hela wedi’u hyfforddi i beidio â dilyn ysglyfaeth byw ac mae’r llwybrau’n cael eu gosod mewn ardaloedd nad yw ysglyfaeth byw yn debygol o fod ynddynt. Gall hela abwyd fod yn ddewis gwahanol i ddefnyddio heidiau o gŵn hela yng nghefn gwlad gan leihau’r risg i fywyd gwyllt.

Gan fod y llwybr wedi’i bennu ymlaen llaw, gellir cadw’r cŵn hela oddi wrth dda byw, cnydau bregus, ffyrdd a rheilffyrdd. Gall y llwybr hefyd gael ei drefnu er mwyn lleihau’r risg i gynefinoedd sensitif a bregus. Llywodraethir hela abwyd gan y Gymdeithas Meistri Bytheiaid a Gwaetgwn.

A member of the conservation team cleaning carvings using a brush and conservation grade hoover at Lanhydrock, Cornwall

Amdanom ni

Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Peilot drôn yn hedfan drôn dros y Cawr Cerne Abbas yn Dorset, gyda chefn gwlad i’w weld yn y cefndir ac awyr las uwchben.
Erthygl
Erthygl

Hedfan dronau yn ein lleoedd 

Gwaherddir pob gweithgaredd yn yr awyr uwch ben ein safleoedd oni bai bod caniatâd arbennig wedi ei roi, yn ôl is-ddeddf sy’n bodoli. (Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Members of a panel discussion at the 2023 National Trust AGM
Erthygl
Erthygl

Gweithdrefnau ac adroddiadau CCB 

Cynullir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn unol â Gorchymyn Elusennau (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) 2005. Dysgwch fwy am ystyr hyn. (Saesneg yn unig)

View of the ruins of Corfe Castle, lit in golden autumn sunlight, with a hill in the background
Erthygl
Erthygl

Ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol heddiw 

Dysgwch fwy am ein hetifeddiaeth, ein pobl a’n gwerthoedd fel elusen gadwraeth, yn diogelu lleoliadau hanesyddol a mannau gwyrdd a’u hagor i fyny i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)

National Trust Council Chair, René Olivieri at the 2023 AGM
Erthygl
Erthygl

Sut rydym yn cael ein rhedeg 

Dysgwch sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael ei rhedeg, sut mae ein trefniadau llywodraethu wedi’u seilio ar Ddeddfau Seneddol a sut maent wedi’u dylunio i gefnogi a herio ein staff. (Saesneg yn unig)