Skip to content
Newyddion

Y Brenin Charles III yn plannu glasbren ifanc yn Erddig er cof am y Frenhines Elizabeth II

His Majesty The King and Hilary McGrady, Director-General of the National Trust
Ei Fawrhydi'r Brenin â Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ymweld â Erddig, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Ymwelodd Ei Fawrhydi y Brenin ag Erddig yn Wrecsam heddiw, gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i blannu glasbren derw prin er cof am ei fam, y Frenhines Elizabeth II.

Tyfwyd y glasbren yn llwyddiannus o impiad wedi’i gymryd o goeden dderw hanesyddol Pontfadog, a safodd ar Fferm Cilcochwyn ger y Waun yn Wrecsam nes iddi gwympo yn ystod storm yn 2013. Gofalwyd am y goeden gan genhedlaethau o deulu’r Williams a chredir ei bod yn un o’r coed derw mwyaf a hynaf yn y byd.

Plannwyd y goeden er cof am Ei Diweddar Fawrhydi Elizabeth II. Hwn oedd ymweliad cyntaf Ei Fawrhydi â lle sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers ei esgyniad i’r Orsedd.

Cafodd ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gwmni Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Yn ystod eu hymweliad gwnaethant gwrdd â sawl aelod o staff a gwirfoddolwyr ifanc.

His Majesty the King plants the Pontfadog Oak with the First Minister of Wales, Mark Drakeford, Hilary McGrady, Director-General of the National Trust and Lhosa Daly, Director for Wales, and the Williams family
Ei Fawrhydi'r Brenin yn plannu glasbren wedi'i impio o Dderwen Pontfadog yn Erddig, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Ei Fawrhydi y Brenin yn dychwelyd i Erddig

Mae ei Fawrhydi wedi ymweld ag Erddig o’r blaen - i’w agor i’r cyhoedd yn 1977 ac yna eto 25 mlynedd yn ddiweddarach yn 2002.

'Mae’n anrhydedd i groesawu Ei Fawrhydi’r Brenin yn ôl i Erddig ac i groesawu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford', dywedodd Hilary. 'Mae ei Fawrhydi wedi bod yn cefnogi ein gwaith yn Erddig ers amser maith, yn cynnwys agor yr eiddo i’r cyhoedd yn 1977, ac ymweliad i nodi 25 mlynedd ers i’r eiddo ddod o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2002.'

'Edrychwn ymlaen at ofalu am y glasbren wrth iddo dyfu a darparu lle i bobl fyfyrio a chysylltu â natur a hanes.'

Dyfyniad gan Hilary McGradyNational Trust Director-General

'Braint o’r mwyaf yw cael Ei Fawrhydi, y Prif Weinidog ac aelodau teulu Williams gyda ni i blannu’r glasbren Derwen Pontfadog i anrhydeddu'r Frenhines. Edrychwn ymlaen at ofalu am y glasbren wrth iddo dyfu a darparu lle i bobl fyfyrio a chysylltu â natur a hanes.'

'Roedd hi’n bleser i fod yn Erddig ar gyfer plannu glasbren Derwen Pontfadog er anrhydedd i’r Frenhines,' dywedodd Mark Drakeford. 'Mae gan y goeden hanes anhygoel ar ôl cael ei himpio o Dderwen mor fawreddog a hynafol. 'Rwy’n gobeithio y bydd y goeden yn tyfu ac yn datblygu i fod yn Dderwen gadarn a fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod yn Erddig.'

His Majesty The King meet with young volunteers at Erdigg, Wrexham, Wales
Ei Fawrhydi'r Brenin yn cyfarfod gwirfoddolwyr ifanc yn Erddig, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Lle i’r gymuned

Cyn y plannu, clywodd y grŵp am waith cymunedol Erddig, sy’n canolbwyntio ar gynyddu mynediad i blant a phobl ifanc i safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cafodd ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gyfarfod rhai o’r gwirfoddolwr ifanc sy’n cymryd rhan yn Tyfu Erddig. Mae’r prosiect yn gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi lles pobl trwy eu helpu i ddysgu sgiliau, i fynd allan i ganol natur ac adeiladu cysylltiadau ag eraill.

Gwnaeth Ei Fawrhydi hefyd blannu ffawydden goprog gyda rhai o’r gwirfoddolwyr ifanc fel rhan o fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines.

'Roedd hi’n bleser i weld gwirfoddolwyr ifanc gwych yn cael eu cyflwyno i’w Fawrhydi a’r Prif Weinidog’, meddai Lhosa Daly. Mae’r gwaith y mae’r gwirfoddolwyr a staff yn ei wneud yn Erddig i gynyddu mynediad at natur, harddwch a hanes yn gwneud gwahaniaeth go iawn i les pobl. Mae’n mynd at wraidd diben elusennol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

'Bu’r ethos hwn yn rhan o draddodiad Erddig yng Nghymuned Wrecsam ers amser maith. Yn yr 1790au, hyrwyddodd y teulu Yorke a fu’n gofalu am Erddig cyn yr Ymddiriedolaeth y gwerthoedd hyn a sicrhau bod yr ystâd ar agor er iechyd a difyrrwch pobl leol. Mae’n hyfryd i weld y traddodiad hwn yn parhau yn Erddig heddiw trwy brosiectau fel Tyfu Erddig a nifer o rai eraill.'

King Charles III riding a penny-farthing on his first visit to Erddig in Wales in 1977
Brenin Charles III yn reidio beic peni-ffardding yn ystod ei ymweliad cyntaf ag Erddig, Wrecsam yn 1977 | © National Trust Images

Afalau Erddig a Ffenestri Adfent

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gyfarfod â Glyn Smith, y Prif Arddwr ac edmygu’r arddangosfeydd toreithiog o afalau o gynhaeaf eleni yn y stablau. Mae Ystâd Erddig yn cynnwys perllannau helaeth o goed ffrwythau hyfforddedig ac mae’n gartref i dros 200 math o afal. Cafodd y grŵp hefyd weld y beic peni-ffardding a reidiodd Ei Fawrhydi arno yn ystod ei ymweliad cyntaf ag Erddig yn 1977.

Mis Rhagfyr yma mae tu allan y tŷ yn Erddig wedi’i drawsnewid yn galendr Adfent anferth gyda ffenestr Adfent newydd yn disgleirio yn y plasty bob dydd. Ar ddiwrnod ymweliad y Brenin, cafodd ffenestr Adfent rhif 9 ei hagor, gan ddatgelu llun o goeden Nadolig wedi’i thynnu gan Noah sy’n 7 oed ac sy’n byw yn lleol.

Cyflwynwyd i’r brenin hefyd fesen wedi’i cherfio gan un o’r gwirfoddolwyr o un o goed derw Erddig a detholiad o afalau o’r perllannau.

Efallai y bydd gennych hefyd ddiddordeb mewn

Golygfa o Neuadd Erddig o’r ardd
Lle
Lle

Erddig 

Darganfyddwch blasty, gardd ac ystâd tra hoff o’r 18fed ganrif sy’n drysorfa o straeon am deulu a’u gweision yn Erddig, Wrecsam, Gogledd Cymru.

Wrexham

Yn rhannol agored heddiw
A wide shot of a few cedar of Lebanon trees bordering the lawn at Upton House, Warwickshire
Erthygl
Erthygl

Coed hynafol a hynod 

Mae coed hynafol yn ein cysylltu â’n gorffennol, maent yn gynefinoedd sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau ac yn cefnogi nifer dirifedi o organebau eraill. Dysgwch beth sy’n gwneud coeden yn hynafol a sut i’w hadnabod nhw (Saesneg yn unig).

His Majesty, King Charles III being shown the Nobel Prize for Literature by volunteer Richard Wilcox
Newyddion
Newyddion

Ei Fawrhydi, Brenin Charles III 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhoi croeso cynnes i’w Fawrhydi fel y Brenin newydd. Mae’r Brenin Charles yn gefnogwr brwd o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn enwedig ein hymgyrchoedd ar faterion gwledig a chadwraeth. Ef olynodd ei nain y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines, fel ein Llywydd (Saesneg yn unig).

Queen Elizabeth II at Runnymede, Surrey, in June 2015
Newyddion
Newyddion

Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II 

Er tristwch clywodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am farwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II. Ers 70 o flynyddoedd cawsom yr anrhydedd o groesawu Ei Mawrhydi y Frenhines i amrywiaeth o’r lleoedd sydd dan ein gofal (Saesneg yn unig).