Ansawdd arbennig
Yn ddiweddar, enillodd y cig oen un o Fine Farm Produce Awards yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd hefyd yn ystyried gwaith y fferm i warchod yr amgylchedd. Yn ôl y beirniaid annibynnol, roedd y goes o gig oen wedi’i rhostio yn:
“Hawdd iawn ei cherfio ar roedd iddi sawr a blas melys, hyfryd. Roedd yn toddi yn eich ceg” (Richard McGeown, Cogydd a Restauranteur, Couch’s Great House, Polperro.)
Caiff y cig oen ei drin a’i brosesu yng ngogledd Cymru gan gigydd lleol ac mae blwch o hanner oen neu oen cyfan yn ffordd gyfleus i deulu brynu cig tymhorol o safon uchel i’w fwyta dros gyfnod. Cewch fwynhau darnau amrywiol o gig, â gwahanol flasau, gan wybod eich bod yn cefnogi fferm sy’n rhoi blaenoriaeth i gadwraeth ac sy’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Beth sydd yn y blwch?
Cyfuniad o wahanol ddarnau wedi’u pacio ar wahân a’u labelu, mewn blwch oer, yn barod i’w coginio neu eu rhoi yn yr oergell neu'r rhewgell.
Ymhlith y darnau mae: Darn o ysgwydd i’w rhostio; darn o goes i’w rhostio, mins neu fyrgers cig oen, golwython, gwahanol ddarnau da a chig lobsgows.
Mae blwch hanner oen yn tueddu i lenwi drôr bach 10 x 6 x 13 modfedd mewn rhewgell, ond bydd angen mwy o le ar gyfer cwpwl o'r darnau. Fel rheol, mae cynnwys blwch hanner oen yn pwyso rhwng 6 ac 8kg. Cânt eu danfon mewn blwch cardfwrdd wedi’i ynysu â gwlân defaid.