Dywedodd y Prif Geidwad, Dewi Roberts: “Roedden ni’n rhoi wyneb newydd ar ddarn o’r llwybr pan welais i rywbeth yn sgleinio yn yr haul. Doedden ni ddim yn siŵr beth oedd yno i ddechrau, felly fe aethon ni ati i gloddio o’i gwmpas. Er ei fod yn fwd i gyd, daeth yn amlwg yn fuan iawn ein bod wedi dod o hyd i gleddyf.
“Cafodd pawb ohonon ni gynnig ar ei dynnu allan yn ofalus ond, yn y diwedd, rhoddodd Iolo blwc a daeth y cleddyf cyfan allan i olau dydd. O edrych yn ôl, roedd yn deimlad eitha swreal. Roedden ni i gyd yn gwybod am y chwedl ac, yn reddfol, mi wnaethon ni ddechrau tynnu coes Iolo – mai fo oedd y Brenin Arthur newydd, wedi dod i achub Cymru! Doedd gynnon ni ddim syniad ar y pryd bod y cleddyf mor hen â hynny a bod posibilrwydd mai Caledfwlch oedd o go iawn! Dydyn ni ddim wedi gweld Iolo ers dyddiau – mae’n siŵr ei fod o'n brysur yn ymchwilio i’w achau!”
Rydym yn cydweithio ag arbenigwyr Arthuraidd ac archeolegwyr i ganfod union oedran y cleddyf ac i weld a yw’r addurniadau ar y carn, sydd braidd yn aneglur erbyn hyn, yn cyfateb i’r cleddyf a ddisgrifir yn y Mabinogi.
Ogwen a bydd rhagor o wybodaeth i’w chael o swyddfa ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae cyfle i ymwelwyr gerdded o gwmpas Llyn Ogwen, hefyd a gweld drostynt eu hunain lle y darganfuwyd y cleddyf.