Coetir newydd yn gwreiddio yn Eryri

Aerial view of four rangers planting tree saplings with guards in a wet field with Moel Hebog and woodland in the distance
Cyhoeddwyd : 30 Mar 2021 Diweddariad diwethaf : 29 Mar 2021

Mae ein ceidwaid wedi bod yn brysur yn plannu cymysgedd o 8,500 o goed brodorol yn Hafod Garegog, ger Porthmadog i sefydlu 8ha o goetir newydd a fydd yn helpu i hybu bywyd gwyllt a storio mwy o garbon ac yn helpu ymgodymu â newid yn yr hinsawdd.

Mae'r tir, yn Hafod Garegog ger Porthmadog, yn wastad, siltiog ac yn dywodlyd, ac ar hyn o bryd mae wedi ei orchuddio â brwyn sydd ddim yn dda o ran bioamrywiaeth.  Roedd y tir wedi ei bori yn y gorffennol, ond oherwydd y frwydr gyson â llifogydd, byddai angen llawer o waith draenio a rheoli brwyn i'w wneud yn addas ar gyfer ffermio unwaith eto.

Trwy blannu coetir brodorol, y nod yw gwella ei werth ar gyfer bywyd gwyllt, er mwyn darparu cartref i greaduriaid fel teloriaid, gwyfynod, ystlumod a dyfrgwn cyfagos.

Mae'r safle'n ffinio â Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyda llawer o goed hynafol.  Felly bydd yr ardal newydd hon hefyd yn gweithredu fel byffer a gwella'r cynefin hwnnw ar gyfer bywyd gwyllt hefyd.

Dywed David Smith, Prif Geidwad De Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Cyn i’r Cob gael ei adeiladu ym Mhorthmadog ym 1811, byddai’r tir hwn wedi bod o dan y môr, mae’n dal yn wlyb iawn ac yn agored i lifogydd.  Rydym wedi dewis plannu cymysgedd o rywogaethau coed brodorol a all ddelio ag amodau gwlyb fel aethnen, poplys du, helyg, bedw ac oestrwydd.

Ranger inspecting tree saplings
Close up of Ranger inspecting tree samplings with rows of planted trees in guards behind and Moel Hebog in the distance
Ranger inspecting tree saplings

“Mae angen llawer iawn o ddŵr ar goed - ac os ydych yn plannu coed mewn ardaloedd corsiog a gorlifdir yna mae posib arafu llif y dŵr yn bwrpasol i amddiffyn cynefinoedd a thai i lawr yr afon -  a chreu'r math iawn o amgylchedd y mae anifeiliaid fel llawer o bryfed, adar ac ystlumod yn mwynhau” ychwanegodd David.

Ar hyn o bryd mae'r coed yn droedfedd o daldra a dylent fod wedi hen ennill eu plwyf mewn 3-5 mlynedd, pan fyddwn yn  edrych i ailgyflwyno rhywfaint o anifeiliaid i’w bori.

Mewn mannau eraill, lle nad oes posibl peidio pori’r tir, ein bwriad yw plannu coed talach a fydd yn gallu gwrthsefyll defaid a gwartheg.

Er mwyn sicrhau cyflenwad o goed lleol, mae meithrinfa goed wedi 'i sefydlu lle mae'r coed talach yn cael eu tyfu.

I grynhoi dywedodd David: “Mae'n anodd iawn cael gafael ar goed o darddiad lleol, ac rydym yn cymryd gofal i beidio â mewnforio afiechydon newydd fel lladdwr yr ynn yn ôl”

“Ein gobaith yw y gallwn dyfu a chyflenwi ein holl safleoedd ledled Gogledd Cymru sy'n cychwyn ar brosiectau plannu coed dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Ein huchelgais yw tyfu 20,000 o goed bob blwyddyn ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Eleni, fe ddylen ni gael tua 1,000 o goed sy’n dechrau da iawn”

Mae plannu coed yn Hafod Garegog yn rhan o ein ymrwymiad i blannu a sefydlu 20 miliwn o goed ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon erbyn 2030 i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i greu cartrefi newydd i fyd natur.