Skip to content

Bara brith Penrhyn

Pobwch fara brith Cymreig traddodiadol gyda’r rysáit hawdd hon o geginau Castell Penrhyn yn Oes Fictoria. Mae’r trît poblogaidd hwn yn cael ei wneud gyda ffrwythau sych, sbeisys a the. Gallwch ei weini ar ei ben ei hun neu gyda menyn.

  • Socian dros nos, a 10 munud o amser paratoi
  • 1 awr 15 munud amser coginio
  • Digon i 10
  • Cacennau, pobi a phwdinau
Bara brith, trît amser te Cymreig traddodiadol, yn y bwyty ym Mhlas Newydd, Ynys Môn
Bara brith, trît amser te Cymreig traddodiadol | © National Trust Images/Paul Harris

Cynhwysion

  • 300g ffrwyth sych cymysg  
  • 200g siwgr brown ysgafn  
  • 250ml te cryf poeth 
  • 350g blawd codi 
  • 3g sbeisys cymysg 
  • 1 wy mawr, wedi’i fwrw 
  • 50g menyn meddal (a mwy i iro)  

Dull

Cam 1

Rhowch y ffrwyth sych mewn powlen fawr gyda’r siwgr. Ychwanegwch y te a chymysgu’r cyfan yn dda. Gadewch iddo socian dros nos.

Cam 2

Gwresogwch y ffwrn i 160°C (140°C ffan/marc nwy 3). Irwch a leiniwch tun torth 900g gan ddefnyddio’r menyn ychwanegol a phapur pobi.

Cam 3

Ychwanegwch y blawd a’r sbeis cymysg i’r bowlen o ffrwythau sydd wedi bod yn socian. Cymysgwch bopeth yn dda cyn ychwanegu’r wy a gweddill y menyn.

Cam 4

Arllwyswch y gymysgedd i mewn i’r tun torth sydd wedi’i baratoi gennych a phobi yn y ffwrn am 1 awr 15 munud, neu tan fod sgiwer sy’n cael ei wthio i mewn i’r canol yn dod allan yn lân.

Cam 5

Ar ôl i’r dorth oeri, torrwch hi’n dafelli a’i gweini gyda neu heb fenyn, a phaned haeddiannol o de.

A bowl of parsnip and apple soup

Ryseitiau

O fwydydd pôb clasurol poblogaidd i brydau iach y gall y teulu cyfan eu mwynhau, dewch o hyd i’r ysbrydoliaeth ar gyfer eich pryd nesaf. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Red pepper and sundried tomato fritters: a pile of three fritters on a board with a fork alongside, with red pepper and spinach pieces showing through the crisp batter

Ryseitiau 

Cymerwch olwg ar ryseitiau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o glasuron fel sgons caws a chacennau i’r teulu i brydau llysieuol a figan a danteithion tymhorol. (Saesneg yn unig)

A close up view of a scone served on a plate with a generous helping of jam and cream
Rysáit
Rysáit

Sgons ffrwythau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Dysgwch sut i wneud sgon ffrwythau berffaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. (Saesneg yn unig)

Berry tart packed with the taste of summer fruits
Rysáit
Rysáit

Tarten aeron 

Mae’r darten hyfryd hon yn blasu o’r haf drwy gydol y flwyddyn. (Saesneg yn unig)

Carrot cake topped with creamy frosting, sunflower seeds and walnuts
Rysáit
Rysáit

Cacen foron 

Mwynhewch sleisen o’r gacen foron glasurol hon, wedi’i sbeisio gyda sinamon a chydag eisin hufennog trwchus, cnau Ffrengig mâl a hadau ar ei phen, gyda naddion moron yn goron ar y cyfan. (Saesneg yn unig)

Looking down on shortbread biscuits topped with rhubarb compote and mixed yogurt and cream, drizzled with red wine syrup. A cupful of cream and yogurt is to the right, and shortbread biscuits cool on a rack to the back.
Rysáit
Rysáit

Teisen frau rhiwbob a hufen sinsir 

Bisgedi brau menynaidd gyda chompot rhiwbob, iogwrt hufennog chwip a surop gwin moethus. (Saesneg yn unig)

Christmas cake decorated with holly shaped icing
Rysáit
Rysáit

Cacen Nadolig gyflym 

Mae ein cacen Nadolig gyflym yn berffaith os nad ydych wedi cael yr amser i ddilyn rysáit draddodiadol. Mae’n blasu’n hyfryd hefyd. (Saesneg yn unig)

Tea soaked fruit cake
Rysáit
Rysáit

Cacen ffrwythau wedi’i socian mewn te 

Eisiau sbwylio’ch hun? Rhowch gynnig ar gacen ffrwythau wedi’i socian mewn te, sy’n siŵr o ddod yn ffefryn i’r teulu. (Saesneg yn unig)