Adfer gorlifdir er mwyn rhoi hwb i fywyd gwyllt

Datganiad i'r wasg
Jac codi baw yn symud cerrig  oddi ar arglawdd ar ludfwrdd i groesi'r afon.
Cyhoeddwyd : 08 Jan 2019 Diweddariad diwethaf : 10 Jan 2019

Er mwyn ceisio ailgysylltu afon â’i gorlifdir naturiol, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cychwyn ar brosiect adfer afon i helpu i arafu llif y dŵr a denu rhagor o fywyd gwyllt, fel brithyllod a dyfrgwn, i afon Machno yn Eryri.

Dros y gaeaf eleni, gwneir gwaith i adfer darn o afon Machno a oedd ar ffurf camlas ar Fferm Carrog, Cwm Penmachno, fel rhan o Brosiect Dalgylch Uwch Conwy – prosiect sydd â’r nod o greu dalgylchoedd glanach, iachach er budd pobl a bywyd gwyllt.

Fel rhan o’r gwaith, plennir rhagor o goed ar hyd yr afon ar y fferm arbennig hon a gobaith yr elusen gadwraeth yw y bydd hyn yn denu rhagor o leision y dorlan a bronwennod y dŵr i'r ardal.

Yn ogystal ag adfer dolydd llawn blodau sy’n wlyb yn ôl y tymor a chreu llwybr ar lan yr afon i’r gymuned leol, mae’n rhan o fwriad y prosiect i ymestyn cynefin y ffridd goediog i fyny i gyfeiriad y Migneint a phlannu rhagor o wrychoedd, a fydd yn helpu i gysylltu cynefinoedd a chreu rhagor o gynefinoedd i rywogaethau sydd o dan fygythiad, fel y gog.

Yng ngham cyntaf y gwaith, mae’r tîm yn bwriadu rhoii cynnig ar ffordd newydd o symud y peiriannau a cherrig dros yr afon rhag iddynt darfu ar bysgod.

Dywedodd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect Dalgylch Uwch Conwy, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, “Dyma’r enghraifft gyntaf y gwyddom amdani o ddefnyddio cludfelt diwydiannol i symud cerrrig a graeon dros afon.  Bydd hyn yn golygu y gallwn wneud y gwaith heb amharu ar wely’r afon.”

Cludfwrdd yn helpu efo'r gwaith adfer
Cerrig yn teithio i fyny gludfwrdd, ar draws Afon Machno, gyda jac codi baw ar ochr arall yr afon yn Fferm Carrog, Eryri.
Cludfwrdd yn helpu efo'r gwaith adfer

Mae’r darn o’r afon oedd wedi’i addasu yn cynnwys marian serth sy’n atal y dŵr rhag cyrraedd y gorlifdir gwreiddiol. Trwy ostwng rhan o’r marian serth, y nod yw ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol pan fydd y llif ar ei fwyaf. Yn ogystal â helpu i leihau llifogydd ac atal gwaddod rhag crynhoi yn is i lawr yr afon, bydd hyn yn help i sicrhau afon blethog fwy naturiol, a fydd yn fwy addas ar gyfer rhywogaethau fel brithyllod a dyfrgwn.

Meddai Dewi, “Rydym wedi bod yn cynllunio’r gwaith ers dwy flynedd, gan gomisiynu’r Ganolfan Adfer Afonydd i gynnal astudiaeth gwmpasu’n awgrymu sut i symud ymlaen a thrafod gyda’r gymuned leol, felly mae’n wych gweld popeth yn disgyn i’w le.”

Dywedodd Sarah Aubrey, Uwch-swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Bydd y gwaith i adfor afon Carrog yn dod â llawer o fanteision. Bydd yn arafu llif yr afon gan helpu i leihau perygl llifogydd ar dir isel ac yn rhoi hwb i fywyd gwyllt, gan gynnwys pysgod, gan ei wneud yn lle gwych i bobl fynd am dro ar lan yr afon neu fwynhau pysgota.

Dim ond un rhan o’n gwaith gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r gymuned yn yr ardal yw gofalu am yr amgylchedd mewn ffordd gydgysylltiedig a chanfod ffyrdd cynaliadwy o weithio sy’n dod â llawer o fanteision.”

Ar ôl y gwaith tirlunio cychwynnol, cam nesaf y gwaith fydd gosod ychydig o glogfeini mawr yn yr afon tua diwedd y gwanwyn. Bydd hyn yn help i greu amrywiaeth strwythurol yn yr afon, gan greu mannau lle gall y dŵr gronni a chrychu, sef nodwedd y mae ar frithyllod ei hangen er mwyn magu.

Ar ôl gorffen adfer yr afon, y nod yw gosod y tyddyn fel fferm gyfan yr haf nesaf.