Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol yn dilyn ymgynghori ac yn addo ‘tyfu’n ôl yn gryfach’ ar ôl yr argyfwng coronafeirws

Datganiad i'r wasg
Oak leaves
Cyhoeddwyd : 08 Oct 2020

Heddiw mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cadarnhau ei bod wedi gallu haneru nifer y colledion swyddi gorfodol yn dilyn yr ymgynghoriad diswyddo mwyaf yn y 125 mlynedd ers ei sefydlu o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.

Yn dilyn 45 diwrnod o ymgynghori, a welodd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried mwy na 14,500 o ddarnau o adborth gan staff a gwirfoddolwyr, mae'r elusen wedi dweud ei bod yn gwneud 514 o ddiswyddiadau gorfodol, sy'n cynnwys 62 o staff sy'n cael eu talu fesul awr, o ganlyniad i effaith yr argyfwng coronafeirws. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi derbyn 782 o ddiswyddiadau gwirfoddol, gan gynnwys 146 gan staff sy'n cael eu talu fesul awr.

Ym mis Gorffennaf, rhybuddiodd yr Ymddiriedolaeth fod colli swyddi a thoriadau yn y gyllideb yn anochel ar ôl i bron pob agwedd ar ei hincwm gael ei tharo gan yr argyfwng coronafeirws. Roedd wedi cynnig gwneud 1,200 o ddiswyddiadau gorfodol, gan arbed tua £60 miliwn o'i gyllideb staff blynyddol. Ond yn dilyn ymgynghoriad eang gyda staff yr effeithiwyd arnynt a diswyddiadau gwirfoddol, mae nifer y colledion swyddi gorfodol wedi haneru.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaed nifer o newidiadau i'r cynigion gwreiddiol, gan gynnwys cadw swyddi sy'n canolbwyntio ar helpu plant i ddysgu, cadw arbenigwyr curadurol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cynyddu swyddi cynnal a chadw adeiladau, a chyflwyno swyddi arbenigol newydd ar gyfer defnydd tir, priddoedd a lleihau carbon. Rydym wedi gwneud newidiadau i feysydd eraill hefyd gan gynnwys marchnata, manwerthu, gwyliau, TG, cyfreithiol a'r ystâd sy'n cael ei gosod. 

Mae'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Hilary McGrady wedi rhoi teyrnged i'r staff, gwirfoddolwyr ac aelodau sydd wedi rhannu eu barn ar y cynigion, a dywedodd fod cynlluniau’r elusen yn ei rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol diogel.

Dywedodd: "Gyda thristwch mawr y mae'n rhaid i ni wneud diswyddiadau. Yn sicr ni fyddai unrhyw arweinydd eisiau rhoi terfyn ar ddim o'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan bobl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

"Ond mae ein hymgynghoriad wedi cyflawni ei fwriad. Fe ddarparodd gynigion i gyrraedd ein targed arbedion, a sbardunodd adborth mor drylwyr a deallusrwydd ar y cyd, fel ein bod wedi gallu addasu ein cynlluniau wrth barhau i wneud yr arbedion yr oedd eu hangen arnom. Mae wedi bod yn broses anodd gyda dewisiadau anodd iawn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig - yn enwedig y rhai yr effeithiwyd ar eu swyddi a'r aelodau a'r gwirfoddolwyr sy'n poeni mor angerddol am yr Ymddiriedolaeth. Maen nhw wir wedi profi'r syniadau a gyflwynwyd, ac wedi helpu i lunio ein cynigion fel ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i adfer yn dda.

"Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i gymaint o sefydliadau, busnesau a chymunedau. Oherwydd ei phobl - ein staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr - y mae'r Ymddiriedolaeth mor gryf ag y mae hi. 
“Nid oes yr un Cyfarwyddwr Cyffredinol eisiau cael ei orfodi i gyhoeddi unrhyw ddiswyddiadau, ond mae coronafeirws yn golygu nad oes gennym unrhyw ddewis arall os ydym am roi dyfodol cynaliadwy i'r elusen. Rydym wedi edrych ar bob ffordd arall i ddod o hyd i arbedion, ond yn anffodus mae'n rhaid i ni nawr ddod i delerau â'r ffaith y byddwn yn colli rhai cydweithwyr. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r rhai fydd yn gadael, a phobl eraill yr effeithir arnynt gan y newidiadau sylweddol hyn.

“Wrth wneud y newidiadau hyn nawr, rwy’n hyderus y byddwn mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau, amddiffyn y lleoedd y mae ymwelwyr yn eu caru ac mae natur eu hangen, a sicrhau bod ein gwaith cadwraeth yn parhau ymhell i’r dyfodol.”

Yn ogystal â diswyddiadau staff, mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cadarnhau y bydd yn arbed tua £41 miliwn trwy doriadau cyllidebol sydd dim yn ymwneud â chyflogau, gan gynnwys lleihau costau teithio a swyddfa, lleihau gwariant ar farchnata ac argraffu o blaid gwybodaeth ddigidol, ail-drafod contractau, lleihau gwariant ar TG a chyflwyno prosesau mwy effeithlon i reoli meysydd allweddol yr elusen.

Mae'r Ymddiriedolaeth eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi terfyn ar neu'n gohirio gwerth £124 miliwn o brosiectau ac o ganlyniad dywedwyd wrth 162 aelod o staff ym mis Awst eu bod yn cael eu diswyddo neu fod eu contractau'n dod i ben yn gynnar. Mae recriwtio wedi cael ei rewi er mwyn lleihau costau staff. Er mwyn ei helpu i ddod drwy effeithiau tymor byr yr argyfwng, mae hefyd wedi manteisio ar gynllun benthyciadau brys coronafeirws Banc Lloegr ac yn ddiolchgar am becynnau achub ac ysgogi eraill sy'n cael eu cynnig gan y llywodraeth.

Er bod y mesurau hyn wedi helpu i leihau’r effaith ariannol, dywedodd Hilary McGrady fod yr ergyd tymor byr, ynghyd â goblygiadau tymor hwy pellhau cymdeithasol a masnachu wedi’i atal, wedi arwain at adolygiad llawn o wariant a blaenoriaethau’r sefydliad.

Ers mis Mai mae'r Ymddiriedolaeth wedi ailagor ei lleoedd yn dilyn arweiniad y llywodraeth, ac erbyn diwedd mis Medi roedd wedi croesawu mwy na phum miliwn o ymwelwyr.
Yr wythnos hon addawodd Hilary McGrady y bydd yr ymddiriedolaeth yn 'tyfu'n ôl yn gryfach yn y tymor hir'. 

Dywedodd: "Tra bod y DU yn parhau â'i brwydr i reoli coronafeirws a thra bod cyfyngiadau'r llywodraeth yn parhau yn eu lle, byddwn yn parhau i agor cymaint o leoedd â phosib. 

"Mae angen y lleoedd a'r pethau y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt nawr yn fwy nag erioed a byddant yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth i'n cenhedloedd wella ac adfer eu hysbryd a'u lles. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y budd a roddwn i bobl, bob dydd. Rhaid i ni nawr ganolbwyntio ar ddod allan o'r argyfwng hwn mewn sefyllfa gref.

"Ein bwriad yw bod o les i'r gwledydd yr ydym yn eu gwasanaethu a dod â phobl yn agosach at natur, harddwch a hanes. Dyna oedd gweledigaeth y sylfaenwyr 125 mlynedd yn ôl ac mae'n parhau yn ddiysgog heddiw.  I'w chyflawni rhaid i ni addasu i'r byd sy'n newid o'n cwmpas."