Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cyhoeddi fel pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru; a'r cyntaf i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Datganiad i'r wasg
Penrhyn Castle with Snowdonia's snowy peaks in the distance
Cyhoeddwyd : 28 Jul 2021 Diweddariad diwethaf : 24 Sep 2021

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yw’r lleoliad diweddaraf yn y DU i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar ôl derbyn yr anrhydedd heddiw, yn sesiwn rhif 44 Pwyllgor Treftadaeth y Byd.

Y dirwedd yw’r deuddegfed safle ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, a’r pedwerydd yng Nghymru, gan ddilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Roedd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd, ar flaen y gad o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llechi wedi cael eu cloddio yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd ac wedi cael eu defnyddio i adeiladu rhannau o gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. 

Dim ond ychydig o dirfeddianwyr pwerus a chyfoethog a gymerodd i ddatblygu'r chwareli bach lleol hyn i mewn i ddiwydiant byd-eang. 

Mewn rhai achosion, cynhyrchwyd y cyfoeth hwn ar blanhigfeydd siwgr a weithir gan bobl Affricanaidd wedi eu caethiwo yn y Caribî, ac wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gyflymu, wedi'i yrru gan elw a wnaed o gaethwasiaeth a gwladychiaeth, cynyddodd y galw am lechi.

Wrth i ddinasoedd ar draws y byd dyfu, roedd llechi o’r chwareli yng Ngwynedd yn cael eu defnyddio’n eang i doi cartrefi’r gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, addoldai a ffatrïoedd ledled y byd.

Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi yng Nghymru yn cyflogi oddeutu 17,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu bron i 500,000 tunnell o lechi y flwyddyn, oddeutu traean o’r holl lechi toi a ddefnyddiwyd yn y byd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang, gyda llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan yn Nhŷ’r Senedd yn Llundain, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc. Yn 1830, roedd hanner yr adeiladau yn Efrog Newydd wedi’u toi â llechi o Gymru.

Gweddnewidiwyd tirwedd yr ardal ar raddfa enfawr gan ganrifoedd o fwyngloddio, ac mae’r arysgrif yn adlewyrchu’r rôl bwysig a chwaraeodd y rhanbarth hwn yn ‘rhoi to ar fyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y DU, Caroline Dinenage:

“Mae Statws Treftadaeth Byd UNESCO yn llwyddiant enfawr ac yn brawf o bwysigrwydd y rhanbarth hwn yn y chwyldro diwydiannol a threftadaeth mwyngloddio llechi Cymru. Rwy’n croesawu'r  posibilrwydd o fwy o fuddsoddiad, swyddi a gwell dealltwriaeth o’r rhan syfrdanol hon o’r DU.”

Mae Chwarel Penrhyn yn edrych dros bentref Bethesda, oedd ar un adeg y chwarel fwyaf yn y byd
Bethesda and the Penrhyn Quarry
Mae Chwarel Penrhyn yn edrych dros bentref Bethesda, oedd ar un adeg y chwarel fwyaf yn y byd

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, David TC Davies:
 
“Mae ennill Statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn gamp wych ac yn deyrnged arbennig i’r rhai a fu’n gweithio yn y chwareli llechi hyn. Hoffwn ganmol pawb sy’n gysylltiedig am eu hymrwymiad i sicrhau bod treftadaeth llechi Cymru a’r rôl y mae’r rhanbarth hwn wedi’i chwarae ers 1,000 o flynyddoedd yn cael y gydnabyddiaeth fyd-eang maen nhw’n ei gwir haeddu.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: 

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r rhan hon o Ogledd Cymru wedi'i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol nid yn unig Cymru, ond y byd ehangach.  Gellir dod o hyd i lechi Cymreig ledled y byd.  
 
"Mae chwarela a chloddio llechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae'r cymunedau'n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO yn helpu i ddiogelu'r gwaddol a'r hanes yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol.  
 
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn a'u llongyfarch – mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn glod i bawb sy'n gysylltiedig.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:
"Mae Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yn falch iawn o fod wedi bod yn bartner allweddol yn y cais hwn ac wrth ei bodd gyda’r dynodiad llwyddiannus o dirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru fel safle Treftadaeth y Byd.  Bydd ei lwyddiant yn sicrhau bod effaith diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal – gan gynnwys stori'r diwydiant llechi sy’n cael ei rannu yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis - yn cael ei chydnabod ledled y byd. Mae gennym dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru ac mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol ar lwyfan rhyngwladol a bydd yn helpu i gadw'r etifeddiaeth a'r hanes mewn cymunedau am genedlaethau i ddod. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn – mae'r cyhoeddiad heddiw yn glod i bawb sy'n gysylltiedig."

Dywedodd Kate Pugh OBE, Cyfarwyddwr Anweithredol Diwylliant yng Nghomisiwn UNESCO y DU:

“Mae’r arysgrif UNESCO hon yn gamp wych iawn sy’n cymharu ag ymdrech a dyfalbarhad y bobl a oedd yn byw yn y mannau syfrdanol hyn ac a oedd yn gweithio yn y chwareli llechi yma. Mae statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn galw am weledigaeth ysgogol, a dylid canmol pawb o Gyngor Gwynedd, ei bartneriaid a’r bobl sy’n byw yn yr aneddiadau hanesyddol hynny nawr am eu hymrwymiad cadarn i sicrhau’r gydnabyddiaeth fyd-eang y mae eu tirwedd yn ei llwyr haeddu.”

Dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Wigley (Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru:
"Ar ôl cadeirio Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru am dros 5 mlynedd, rwyf wrth fy modd gyda'r penderfyniad hwn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd ac rwy'n croesawu ein harysgrifiad ar ran ein holl bartneriaid, tirfeddianwyr, cymunedau a busnesau.
 
"Mae partneriaid wedi gweithio'n ddiflino dros fwy na degawd i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon, a bydd angen i ni nawr gryfhau ein cydweithrediad i sicrhau ein bod yn cyflawni dros bobl, cymunedau a busnesau'r ardaloedd llechi. Mae'r arysgrif hon yn ddathliad o Wynedd yn toi'r byd, ein hiaith unigryw, ein diwylliant a'n cymunedau a sut y gwnaethom allforio pobl, technoleg a llechi i bedair cornel y byd.
 
"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â datblygu'r arysgrif hon a chynnig fy llongyfarchiadau i Safle Treftadaeth y Byd mwyaf newydd Cymru".

Abercegin (Port Penrhyn) yn borthladd diwydiannol gafodd ei adeiladu i wasanaethu Chwarel Penrhyn rhwng 1790 a 1855
Port Penrhyn, Gwynedd
Abercegin (Port Penrhyn) yn borthladd diwydiannol gafodd ei adeiladu i wasanaethu Chwarel Penrhyn rhwng 1790 a 1855

Dywedodd Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Arweinydd Cyngor Gwynedd):
"Mae Cyngor Gwynedd yn hynod o falch o fod yn gorff arweiniol Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae effaith y chwareli yn parhau i fod yn amlwg iawn o'n cwmpas o'r dirwedd drawiadol, yr adeiladau diwydiannol a'r rheilffyrdd stêm i'n pentrefi a'n trefi.
 
"Nid yn unig y mae dylanwad y diwydiant chwarela i'w weld, ond mae ei dreftadaeth yn dal i gael ei chlywed yn gryf yn iaith, traddodiadau a hanesion cyfoethog yr ardaloedd hyn.
 
"Ein nod yw dathlu'r dreftadaeth a'r dirwedd hon a chydnabod eu pwysigrwydd hanesyddol a diwydiannol i ddynoliaeth – er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet dros yr Economi a Chyfathrebu, Cyngor Gwynedd): 
"Roedd diwydiant llechi'r ardal hon yn rhan hynod bwysig o'r economi fyd-eang yn y gorffennol, a heddiw mae'r diwydiant a'r rhai sy'n cael ysbrydoliaeth o'n tirwedd yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i economi Gwynedd.
 
"Drwy ddathlu ein hanes, rydym am adfywio ein cymunedau a chreu cyfleoedd cyffrous er budd cymunedau a busnesau Gwynedd a Gogledd Orllewin Cymru yn y dyfodol.
 
"Heddiw rydym yn dathlu'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac yn dechrau ar daith newydd i ddiogelu ein tirwedd llechi eithriadol a sicrhau etifeddiaeth barhaol i'n heconomi a'n cymunedau yn y dyfodol".

Dywedodd Luke Potter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cynorthwyol yng Ngogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd nesaf Cymru; mae'r dynodiad yn golygu cymaint i ni yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Mae gennym straeon pwysig ym Mhenrhyn o lechi, yn ogystal â siwgr, a chaethwasiaeth. Mae bod yn rhan o'r dynodiad yn gyfle cyffrous i bob un ohonom i weithio gyda phartneriaid i uno'r ddwy stori hyn sydd wedi llunio'r cymunedau o'n cwmpas ac sy'n cael effaith bellgyrhaeddol ar gymunedau ledled y byd. Rydym eisoes wedi elwa'n fawr o fod yn rhan o ddatblygiad yr enwebiad a gweld pwysigrwydd cydweithio i adrodd y stori bwysig hon sy'n eiddo i ni i gyd yng Ngogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y bu ei staff o gymorth wrth lunio’r ddogfen enwebu: 

“Mae llafur a dyfeisgarwch dynol wedi creu tirwedd ryfeddol sy’n cyfuno nodweddion naturiol a rhai o waith dyn ac sy’n llwyr haeddu cael ei chynnwys yn yr haen uchaf o safleoedd treftadaeth y byd.’ 

“Mae tystiolaeth helaeth o’r broses gyfan o gynhyrchu llechi i’w gweld yn y fan hyn, o’r chwareli ar ochr y mynydd a’r cloddfeydd enfawr o dan y ddaear i’r cytiau injan, cytiau olwyn a melinau, wedi’u pweru gan systemau dŵr dyfeisgar, yr oedd eu hangen i weithio’r llechfaen, i’r incleiniau a’r rhaffyrdd awyr a ddefnyddid i gludo’r llechfaen a llechi gorffenedig o fryniau anghysbell i’r tramffyrdd, ac i’r rheilffyrdd cul a gludai’r llechi drwy’r dirwedd fynyddig anodd i’r porthladdoedd ym Mhorth Penrhyn a Phorthmadog i’w llwytho ar longau a hwyliai i bedwar ban byd.”

Dywedodd Tony Crouch, Cadeirydd Treftadaeth y Byd y DU
 

"Mae World Heritage UK yn croesawu Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru yn gynnes i deulu'r DU o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r dirwedd aruthrol hon yn adlewyrchu cannoedd o flynyddoedd o ymdrech, arloesedd ac ysbryd cymunedol, ac yn cynhyrchu'r deunyddiau a'r sgiliau gorau a wasanaethodd y byd. Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru a weithiodd yn ddiflino i gyflawni'r anrhydedd ryngwladol haeddiannol hon."

Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
"Rydym yn hynod o falch bod tirwedd lechi Gogledd Cymru wedi sicrhau ei statws Safle Treftadaeth y Byd heddiw. Mae'r diwydiant llechi wedi llunio a dylanwadu ar gymaint o'n tirwedd a'n traddodiadau, a bydd yr arysgrif hon yn sicrhau y bydd treftadaeth ddiwylliannol unigryw'r ardal yn cael ei diogelu a'i dathlu am flynyddoedd i ddod.
 
"Yn ogystal â helpu i hybu economi gynaliadwy o fewn yr ardal, bydd y dynodiad hwn hefyd yn meithrin ymwybyddiaeth, diddordeb a balchder yn ein treftadaeth lechi, tra'n ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."