Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn amlinellu uchelgais newydd mewn araith nodedig gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol

Datganiad i'r wasg
Close-up of an oakleaf
Cyhoeddwyd : 09 Jan 2020

Heddiw, datgelodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol un o brosiectau ehangu coetir a phlannu coed mwyaf y DU mewn cynllun uchelgeisiol i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030 wrth i’r elusen ddathlu ei 125 mlwyddiant.

Mewn araith nodedig i ddathlu’r garreg filltir, cyhoeddodd Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyfres o fentrau newydd sy’n cynnwys plannu 20 miliwn o goed mewn deng mlynedd fel rhan o gynllun yr elusen i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae cloi carbon drwy gynnal corsydd mawn gwerthfawr, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a lleihau ôl troed carbon yr Ymddiriedolaeth ymysg y mesurau i fwrw’r targed sero-net.

Mae cynlluniau i ddatgloi mannau gwyrdd ger ardaloedd trefol, ymgyrch blwyddyn o hyd i ysbrydoli pobl i ymgysylltu â natur a mynd i’r afael â ‘datgysylltiad gofidus’, ynghyd â chynlluniau newydd am raglenni diwylliant a threftadaeth, hefyd wedi’u cyhoeddi.

Mae’r elusen wedi addo parhau i weithio i wrthdroi’r dirywiad ym myd natur drwy amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys helpu i lanhau afonydd a dyfrffyrdd y wlad, ailgyflwyno rhywogaethau ac addasu tir at ddibenion gwahanol er mwyn plannu coed a dal a storio carbon.

Dywedodd Hilary McGrady: “Eleni yw ein 125 mlwyddiant ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bob amser wedi bod yma er budd pawb. Dyma pam ein bod yn gwneud y cyhoeddiadau uchelgeisiol hyn, mewn ymateb i’r hyn sydd ei angen gan ein sefydliad ni heddiw.

“Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gyfrifol am wneud popeth yn ein gallu i frwydro’n erbyn newid yn yr hinsawdd, sef y bygythiad mwyaf i’r lleoedd, natur a chasgliadau sy’n bwysig i ni.

“Mae angen natur ar bobl nawr yn fwy nag erioed. Os yw pobl yn cysylltu â natur, maent yn gofalu amdano. A dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a wynebu’r heriau sydd o’n blaenau oherwydd newid yn yr hinsawdd.”

Bydd mwy na 18,000 hectar o goetir yn cael ei blannu’n strategol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gloi 300,000 tunnell o garbon – mae hyn yn cyfateb i allbwn ynni 37,000 o gartrefi y flwyddyn.

Bydd yr elusen yn dod yn garbon sero-net erbyn 2030
Visitors tree planting at Dinefwr
Bydd yr elusen yn dod yn garbon sero-net erbyn 2030

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n mynd am dro mewn coetir yn fwy tebygol o fwynhau iechyd meddwl a lles corfforol da, a dyma pam mae’r elusen yn awyddus i wella mynediad i’r cyhoedd.

Golyga hyn y bydd 17 y cant o’r tir y mae’r elusen yn gofalu amdano wedi’i orchuddio â choetir – cynnydd o’r 10 y cant presennol. 17 y cant yw’r ffigur gofynnol cenedlaethol er mwyn i’r llywodraeth fwrw ei tharged ei hun o fod yn sero-net erbyn 2050.

A heddiw, galwodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y llywodraeth i fwrw ymlaen â’i hymrwymiad i ehangu coetiroedd, ar ôl clywed bod y DU ar ei hôl hi gyda’i tharged plannu coed ei hun.

Ychwanegodd McGrady: “Drwy dorri ein hallyriadau ein hun a storio mwy o garbon, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2030.

“Argymhellodd y panel annibynnol, y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a gomisiynwyd gan y llywodraeth, y dylid creu coetiroedd fel rhan bwysig o’r newidiadau mewn defnydd tir y mae eu hangen i liniaru’r argyfwng byd natur.

“Rwy’n falch o ddweud, erbyn 2030, y byddwn yn plannu 20 miliwn o goed, gan greu 18,000 hectar o goetir newydd.

“Mae coetiroedd yn helpu i atal llifogydd, maent yn gynefin i natur a bywyd gwyllt o bob math, ac maent yn gefndir i anturiaethau cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd: “Mae angen i’r llywodraeth newydd ddarparu Bil Amgylcheddol â thargedau uchelgeisiol a chorff gwarchod annibynnol priodol.

“Oherwydd dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud ar ein pen ein hunain. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i’r mudiad amgylcheddol cyfan ddod at ei gilydd.”

Mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng gan 41 y cant ar gyfartaledd ers 1970, yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur mis Hydref. Yng Nghymru, mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth nawr mewn perygl o ddiflannu.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynnal nifer o gynlluniau ailgyflwyno yn ddiweddar, gan gynnwys annog bele’r coed yng nghoetiroedd Ceredigion ac Eryri, a diogelu rhywfaint o fywyd gwyllt brodorol mwyaf gwerthfawr y wlad, o wiwerod coch ym Mhlas Newydd yn Ynys Môn i forloi llwydion ym Mhenrhyn Marloes yn Sir Benfro.

Ac eleni, bydd yr elusen gadwraeth yn adeiladu ar hyn drwy gefnogi’r bras melyn ac adar sy’n bridio yn Sir Benfro, denu bele’r coed i Ddolaucothi yn Sir Gâr a gwarchod y fritheg berlog (pili-pala prin) yng Ngheredigion.

Mynegodd McGrady ei phryder am y datgysylltiad rhwng pobl a natur pan mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltiad â byd natur yn bwysig o ran iechyd a lles pobl a’u parodrwydd i weithredu i ofalu am yr amgylchedd naturiol.

Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gaiff ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni, mae dau o bob tri o drigolion gwledydd Prydain yn dweud nad ydynt byth (neu bron byth) yn gwrando ar gân yr adar, a llai na thraean sy’n dweud eu bod yn aros i wylio cymylau neu wenyn.

“Mae ein hadnoddau yn dirywio, ac mae’r adnoddau hyn yn sail i’n hiechyd a’n hapusrwydd,” ychwanegodd.

“Ers blynyddoedd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ei staff a’i gwirfoddolwyr – wedi bod yn gweithio i warchod a diogelu, i ofalu am rywogaethau sy’n dirywio; i ailgyflwyno rhywogaethau sy’n hanfodol i ofalu am fyd natur. 

“Byddwn yn cynyddu hyn i gyd yn ein pennod nesaf. 

“Byddwn hefyd yn helpu miliynau o bobl i ailgysylltu â natur a’u galfaneiddio i frwydro â phenderfyniad a gofal i achub ein trysorau cyffredin.”

Ymysg y cyfleoedd yng Nghymru ar hyn o bryd mae’r Prosiect Academïau Gwyrdd yn Erddig yn Wrecsam, sy’n galluogi pobl ifanc i weithio yn yr awyr iach, gwella eu lles a bod yn rhan o ddyfodol cadwraeth natur.

Yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, mae’r Prosiect Partneriaeth Actif Iach yn grymuso’r gymuned leol i ofalu am y parcdir, datblygu sgiliau newydd a phrofi manteision bywyd actif a gweithio ym myd natur.

Mae ymgyrch blwyddyn o hyd i ysbrydoli a chysylltu mwy o bobl â’u hamgylchedd naturiol i helpu i daclo’r argyfwng byd natur hefyd yn cael ei lansio gan yr elusen heddiw.

“Rydym wedi cynllunio blwyddyn o weithgareddau, o blannu coed, glanhau afonydd a thraethau a digwyddiadau sy’n dilyn y wawr ar draws ein lleoliadau i wylio adar, picnics yn y gwyllt, gwylio cymylau, peintio, ysgrifennu, creu celf wyllt, chwilota am fwyd, cerdded, beicio, ioga a dawnsio yn yr awyr agored.”

Ymysg yr uchafbwyntiau mae plannu lilis gwynion bach yng Ngardd Bodnant yng Nghonwy, llwybrau blodau haul yn Rhosili yng Ngŵyr, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghastell y Waun yn Wrecsam, gwylio adar yn Ninefwr yn Sir Gâr, cylch-ymarfer ar y traeth yn Stagbwll a chynnig synhwyraidd yng Ngardd Goedwig Colby yn Sir Benfro.

Carped o flodau haul ar y Vile yn Rhosili
Môr o flodau haul yn Rhosili, Gŵyr
Carped o flodau haul ar y Vile yn Rhosili

Yn ogystal ag ymrwymiadau i’r amgylchedd, bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gysylltu pobl â diwylliant a threftadaeth y wlad drwy fuddsoddi £2.5 miliwn yr wythnos mewn gwaith cadwraeth a pharhau â’i rhaglen ddiwylliannol o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a phrofiadau.

Ymysg y prosiectau yng Nghymru mae gwaith trwsio ym Mhlas Newydd lle gall ymwelwyr gael cip y tu ôl i’r llenni yn y plasty wrth i waith mecanyddol mawr, a gwblhawyd ddiwethaf yn y 1930au, gael ei wneud.

Bydd Castell Penrhyn yng Ngwynedd yn edrych ar ei orffennol trefedigaethol drwy farddoniaeth, sain a delweddau fel rhan o brofiad creadigol newydd. Mae Am Fyd! Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r beirdd gair llafar Martin Daws ac Aneurin Karadog, Colonial Countryside a phlant o ysgol gynradd leol.

Yng Nghastell Powis yn y Trallwng, bydd un o gasgliadau pwysicaf Ewrop o arteffactau De-Asiaidd yn cael ei ailddehongli. Fel rhan o’r prosiect Clive, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cydweithio ar draws nifer o bartneriaethau i ddeall gwreiddiau trefedigaethol y casgliad a’i berthnasedd er mwyn llywio ei gyfeiriad yn ddilys yn y dyfodol.

Yr wythnos hon, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd yr Ymddiriedolaeth yn 125, mae ffaglau hefyd yn cael eu goleuo mewn safleoedd amrywiol. Yng Nghymru, cafodd ffagl ei chynnau gyda’r wawr y bore ‘ma yn Nhŵr Paxton yn Sir Gâr i ddathlu’r foment y cafodd yr elusen gadwraeth ei chreu gan Octavia Hill, Syr Robert Hunter a’r Canon Hardwicke Rawnsley i roi mynediad i bobl i natur, i harddwch ac i hanes.

Ym 1980 roedd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1m o aelodau. Erbyn ei 100 mlwyddiant ym 1995, roedd ganddi fwy na 3m. Heddiw, cyhoeddodd McGrady fod yr Ymddiriedolaeth yn disgwyl croesawu ei 6 miliynfed aelod yn 2020.