Skip to content

The Secret Garden yn cael ei ffilmio yng Ngardd Bodnant

Dixie Egerickx as orphan Mary Lennox filming at Fountains Abbey for The Secret Garden
Ffilmio The Secret Garden yng Ngardd Bodnant. | © 2020 Studiocanal SAS, all rights reserved

Yn seiliedig ar nofel glasurol Frances Hodgson Burnett o 1910, cafodd stori The Secret Garden ei hadfywio gan addasiad Sky Original yn 2020. O deml ddŵr i ganopi o flodau melyn toreithiog, darganfyddwch sut daeth y lleoliadau yn ein gofal yn gefnlen berffaith i’r clasur plant bytholwyrdd hwn.

Stori The Secret Garden

Mae The Secret Garden yn adrodd stori Mary Lennox (Dixie Egerickx), merch fach amddifad 10 oed sy’n cael ei hanfon i fyw gyda’i hewythr, Archibald Craven (Colin Firth), o dan lygad gwyliadwrus Mrs Medlock (Julie Walters). Mae’r ffilm wedi’i gosod yn Lloegr yn y 1940au ym Misselthwaite Manor, ystâd wledig anghysbell yn rhosydd Swydd Efrog.

Mae Mary’n ei chael hi’n anodd setlo i mewn i’w bywyd newydd yno, nes iddi, un dydd tra’n crwydro’r tiroedd, ddod ar draws drws cudd i ardd anniben. Wrth iddi fynd ati i adfer yr ardd, gyda help llaw ei chyfaill, Dickon a’i gefnder eiddil, Colin, mae’r plant a’r ardd yn dechrau blaguro.

Lleoliadau ffilmio

Gan fod yr addasiad wedi’i osod ychydig wedi’r Ail Ryfel Byd, penderfynodd y ffilmwyr fynd ar drywydd gwahanol i ardd furiog Edwardaidd y nofel. ‘Roedden ni eisiau creu rhywbeth y byddech chi’n dod o hyd iddo yn nychymyg plentyn, fel mynd i mewn i fyd gwahanol,’ dywedodd y rheolwr lleoliadau goruchwyliol, Tom Howard.

I gyflawni’r ymdeimlad hwn o ehangder ac amrywiaeth, penderfynasant ddefnyddio pum gardd wahanol: cyfunwyd coedwig arw, freuddwydiol â glyn isdrofannol a gerddi ffurfiol sy’n fôr o ffoleddau Eidalaidd. Yn ychwanegu at yr hud roedd dwy ardd sydd yn ein gofal ni: Gardd Bodnant a Fountains Abbey. Cafodd y ffilmwyr hefyd eu hysbrydoli gan Barc Osterley ac Abaty Calke ar gyfer y golygfeydd dan do.

Y Bwa Tresi Aur gyda’i flodau melyn adnabyddus ar ddechrau mis Mehefin yng Ngardd Bodnant yng Ngogledd Cymru
Y Bwa Tresi Aur ar ddechrau Mehefin yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images / Joe Wainwright

Gardd Bodnant, Conwy

Am bythefnos gyffrous ym mis Gorffennaf 2018, trawsnewidiwyd Bodnant yn set ffilm, gyda staff yr ardd yn gorfod cadw’n ddistaw am y camerâu, y tyrbinau gwynt, y drôns a’r trelars a gyrhaeddodd yno.

A hithau mewn lleoliad go anghysbell yng ngodre Eryri, dyma’r tro cyntaf i Fodnant gael ei defnyddio fel lleoliad ffilmio mawr, ond bu’r daith yn werth chweil i’r criw.

‘Fe syrthion ni mewn cariad â Bodnant am ei dyffryn hyfryd a’i nant fyrlymog wedi’i hamgylchynu gan flodau,’ esboniodd y cynhyrchydd, Rosie Alison. ‘Doedd unman tebyg iddo.’

Addasu Gardd Bodnant ar gyfer ffilmio

Defnyddiwyd y nant mewn golygfa lle mae’r plant yn mynd i nofio, felly adeiladodd tîm yr ardd argae dros dro i wneud y dŵr yn ddyfnach.

‘Bu’n rhaid i ni docio rhai canghennau a chodi rhai blodau hefyd, ond dim byd rhy sylweddol na pharhaol,’ meddai’r uwch arddwr, Merlin Townsend. ‘Gofalu am yr ardd oedd ein prif flaenoriaeth, ac roedd y ffilmwyr yn parchu hynny.’

Gwnaeth y criw hefyd ffilmio Bwa Tresi Aur enwog Bodnant, sy’n 55 metr o hyd, sy’n ffrwydro’n fôr o felyn am ryw bythefnos ar ddiwedd mis Mai. ‘Ro’n ni i gyd yn cadw llygad barcud ar y tresi aur er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw cyn gynted ag y bydden nhw’n dechrau blodeuo,’ ychwanegodd Merlin.

Fountains Abbey, Swydd Efrog

Mae gan Fountains Abbey gysylltiadau hirsefydlog â The Secret Garden – cafodd y lleoliad ei ddefnyddio yn yr addasiad ffilm ym 1993 hefyd. Yn y fersiwn honno, fe’i defnyddiwyd fel yr ochr allanol i Misselthwaite Manor, tra bod drws bychan gyferbyn wedi’i ddefnyddio fel y fynedfa gudd i’r ardd.

Y tro hwn, defnyddiwyd adfeilion yr abaty hynafol, a drawsnewidiwyd yn deml ddŵr gyda waliau wedi’u gorchuddio gan winwydd.

Adeiladodd y criw byllau dŵr dros dro, a’u galluogodd i orchuddio’r llawr â dŵr i’r plant chwarae ynddo, gan hefyd ddiogelu’r safle hanesyddol.

Parc Osterley, Llundain

Er mai’r ardd yw canolbwynt y stori, mae Misselthwaite Manor hefyd yn chwarae rhan bwysig ym mywydau Mary a phawb o’i chwmpas.

Roedd gan y ffilmwyr weledigaeth glir ar gyfer eu dehongliad o Misselthwaite, ac yn y pen draw bu’n rhaid adeiladu llawer o’r ystafelloedd o’r newydd i sicrhau’r edrychiad cywir.

Roedd ceginau Parc Osterley yn addas, fodd bynnag, ac ar ôl dim ond ychydig o waith addurno a thwtio, roedden nhw’n berffaith ar gyfer maenordy Archibald Craven.

Character of Colin sits in a wheelchair looking at the garden, with character of Dickon and Fountains Abbey ruins behind him, for the film The Secret Garden
Colin a Dickon yn adfeilion Fountains Abbey | © 2020 StudioCanal SAS, all rights reserved

Abaty Calke, Swydd Derby

Er na ddefnyddiwyd Abaty Calke ar gyfer y ffilmio, daeth ystafelloedd y tŷ yn ysbrydoliaeth allweddol i’r criw ar ôl iddyn nhw ymweld wrth chwilio am leoliadau.

‘Mae Calke yn adnabyddus fel “y tŷ angof” ac mae’n llawn dodrefn a gwrthrychau sydd wedi ymgasglu yno,’ meddai’r cynhyrchydd, Rosie Alison. ‘Mae ‘na ymdeimlad go iawn o genedlaethau coll, ac roedden ni am ail-greu’r awyrgylch hwnnw ar gyfer Misselthwaite.’

Grym iachaol byd natur

Ar gyfer yr actorion, roedd gweithio ar leoliad yn rhan allweddol o’r profiad ffilmio. ‘Mae cael eich amgylchynu gan natur yn tanio’r synhwyrau yn fwy na bod mewn stiwdio,’ dywedodd yr actor, Dixie Egerickx (Mary Lennox).

‘Pan allwch chi glywed trydar yr adar, ac arogli’r blodau a theimlo’r glaswellt, mae’n haws credu eich bod wir yn y stori rydych chi’n ei hadrodd.’

Cysylltu â’r amgylchedd naturiol

Mae’r ymdeimlad hwn o gysylltiad â byd natur wrth wraidd The Secret Garden, sydd â’r grym i wella ac adfywio’r cymeriadau sy’n dod ar ei thraws.

‘Y llonyddwch, yr arogleuon a’r lliwiau; mae treulio amser ym myd natur yn adferol ac yn hyfryd o heddychlon – mae’n ein hatgoffa o ba mor ddibynnol ydyn ni ar natur, ac i’r gwrthwyneb.’

- Colin Firth, Actor

Gofalu am fannau gwyrdd

Fel Mary, yr oedd angen ‘tamaid o’r ddaear’ arni, mae’n bwysig cael lle i weld pethau’n tyfu, anadlu’r awyr iach a theimlo’n well.

Diolch i ffioedd lleoliad ffilmiau fel The Secret Garden, gall yr Ymddiriedolaeth barhau i ofalu am fannau gwyrdd, a’u cadw ar agor i bawb, am byth, i’w galluogi i brofi buddion byd natur.

Gwyliwch fideo y tu ôl i’r llenni

Ewch y tu ôl i’r llenni gyda’r criw i ddarganfod pam yr oedd lleoliadau fel Gardd Bodnant, Fountains Abbey a Pharc Osterley yn gefnlen ddelfrydol ar gyfer The Secret Garden.

Gwyliwch fideo y tu ôl i’r llenni.

Filming Mariah Mundi and the Midas Box at St Michael's Mount, Cornwall.

I bawb sy’n caru ffilm a’r teledu

Dysgwch pa rai o’n tai hanesyddol a thirweddau dramatig sydd i’w gweld ar eich sgrîn. Cadwch olwg amdanynt mewn dramâu teledu poblogaidd fel Game of Thrones, ac mewn ffilmiau newydd sbon. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A large camera on the shoulder of a person during the filming of Wolf Hall at Montacute House in Somerset
Erthygl
Erthygl

Lleoliadau ffilmio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Erioed wedi meddwl sut mae eich hoff lefydd yn dod i ymddangos mewn ffilmiau a dramâu teledu? Ymunwch â’n rheolwyr ffilmio a lleoliadau wrth iddynt rannu straeon rhyfedd a rhyfeddol o’r tu ôl i’r llenni gan ddatgelu rhai o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd. (Saesneg yn unig)

A large metal cauldron in the middle of a room at Lacock Abbey, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Gwyliau mewn lleoliad ffilmio 

Awydd gwyliau bach yn rhywle rydych chi wedi’i weld ar sgrîn? O The Secret Garden i Game of Thrones a Harry Potter, mae llawer o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt wedi’u defnyddio fel lleoliadau ffilmio ar gyfer rhai o’ch hoffi ffilmiau a sioeau teledu. (Saesneg yn unig)

Asaleas a rhododendrons yn eu blodau ym mis Mai yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Gardd Bodnant 

Gardd fyd-enwog sy’n gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.

near Colwyn Bay, Conwy

Yn hollol agored heddiw
The ruins of Fountains Abbey from De Grey's walk viewing deck
Lle
Lle

Fountains Abbey a Gardd Ddŵr Frenhinol Studley 

Mae adfeilion abaty hynafol a gardd ddŵr odidog yn y Safle Treftadaeth y Byd hwn. (Saesneg yn unig)

Ripon, North Yorkshire

Yn hollol agored heddiw