Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Gardd fyd enwog, yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Asset | Opening time |
---|---|
Garden | Gardd | 09:30 - 17:00 |
Tea-room | Ystafell De | 09:00 - 17:00 |
Mynediad olaf i'r ardd hanner awr cyn amser cau | Last entry to the garden half an hour before closing.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £17.60 | £16.00 |
Child | £8.80 | £8.00 |
Family | £44.00 | £40.00 |
1 adult, 3 children | £26.40 | £24.00 |
Caffi Magnolia gyferbyn ag allanfa. Diodydd poeth ac oer, prydiau ysgafn a chacennau. Seti tu fewn a thu allan.
Dim yn rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gyferbyn a'r fynedfa i'r ardd.
Wedi ei leoli i lawr yn y Glyn. Ar agor penwythnosau yn ystod y gaeaf. Diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Seti tu allan yn unig.
Siop lyfrau ail-law. Gyferbyn â Chaffi Magnolia.
Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau i ddydd Sul, o 1 Ebrill tan ddiwedd mis Medi a bob dydd o fis Hydref i ddiwedd mis Mawrth.
Yn y maes parcio, canolfan garddio ac i lawr yn y Glyn (Dell).
Ystafell te'r Pafiliwn. Mae bwydlen o brydau ysgafn poeth ac oer, cinio, cacennau, pasteiod a diodydd ar gael o'r Pafiliwn ac ystafelloedd te Magnolia. Seti tu mewn a thu allan.
Dim yn rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tu allan i'r ardd, cyfagos i'r siop gardd Bodnant.
Parcio Bathodyn Glas. Tai bach hygyrch. Llethrau serth, grisiau anwastad a dŵr dwfn a chyflym. Signal ffôn ysbeidiol. Cadeiriau olwyn ar gael.
Mae cadair olwyn â llaw a cherddwyr 2 olwyn ar gael o'r maes parcio ar sail y cyntaf i'r felin. Mae 'treic mynydd' (MT Push) ar gael o'r ganolfan ymwelwyr.
Mae rhai llwybrau serth yn yr ardd. Mae llawer o risiau o fewn yr ardd, ac mae modd osgoi'r cwbl. Gofynnwch am fap mynediad yn y dderbynfa i ymwelwyr. Mae rhai grisiau â chanllaw, nid oes gan y grisiau cerrig hanesyddol ganllaw
Mae yna tua 20 o leoedd parcio ar gyfer pobl anabl, 100 llath o fynedfa’r ardd. Mae angen i ddefnyddwyr cymhorthion symudedd e.e. sgwteri fod yn ymwybodol bod natur y safle yn golygu bod rhywfaint o'r parcio ar lethr. Gall cerbydau sydd â theclyn codi neu ramp gael anawsterau wrth lwytho neu ddadlwytho cymhorthion symudedd. Os cewch unrhyw drafferth, defnyddiwch y mannau codi a gollwng ar waelod y maes parcio.
Taith gerdded rhosyn: 1.5km Dewch i weld y gerddi ffurfiol gyda golygfeydd godidog ar draws y dyffryn ac i lawr at yr afon wrth osgoi pob gris. Nodwyr llwybr rhosyn yn yr ardd i ddilyn ac wedi nodi'n goch ar y map.
Mae toiledau hygyrch wedi’u lleoli yn y prif floc toiledau, sy’n gyfagos i ystafell de’r pafiliwn, yn y ganolfan arddio ac ym mloc toiledau’r Glyn (Dell).
Mae parthau gollwng a chodi ar waelod y maes parcio gerllaw Ystafell De'r Pafiliwn.
Oddi ar yr A470. Cyffordd 19 oddi ar yr A55
Parcio: 150 llath
Sat Nav: LL28 5RE
Mae bws rhif 25 o Landudno yn stopio tu allan i'n giatiau, ewch i wefan Arriva Cymru i gael amseroedd y bws
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Gydag 80 erw o hanes garddwriaethol i’w archwilio a’i fwynhau, Gardd Bodnant yw’r lle perffaith i ddod â’ch grŵp, waeth beth fo’r tymor. Dysgwch fwy i gynllunio ymweliad eich grŵp i Gardd Bodnant.
Gallwn eich croesawu i dynnu lluniau priodasol. Am ragor o fanylion cysylltwch â bodnantgarden@nationaltrust.org.uk neu 01492 650460.
80 erw yn cynnwys gerddi ffurfiol, llennyrch llawn llwyni, dolydd a choedwigoedd, glynnoedd a gerddi dŵr. Cartref i gasgliadau planhigion hanesyddol.
Gardd Ddwyreiniol Fictoraidd, gyda Gardd Gylch, Parterre a Bwa Tresi Aur enwog. Terasau Eidalaidd Edwardaidd o welyau rhosod, pyllau dŵr a gardd-ystafelloedd pergola.
Yr Hen Barc, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Sioraidd, a Dôl y Ffwrnais sy’n gorwedd ar ochr bryn yn edrych dros ardd yr afon.
Y Glyn, Glyn yr Ywen a’r Pen Pellaf: Llwybrau coetir drwy goed brodorol ac egsotig, gan gynnwys magnolia a rhododendron, a hen Goed Campus prin.
Y Felin Binnau, adeilad rhestredig Gradd II o’r 18fed ganrif ar Deras y Gamlas; yr Hen Felin Sioraidd yn y Glyn, a’r Gerdd, beddrod Fictoraidd yn y Llennyrch.
Ystafell de’r Pafiliwn a’r ystafell de Magnolia, gyda seddi dan do ac awyr agored. Caban y Glyn yn gweini cludfwyd gyda seddi awyr agored.
Canolfan arddio, ger y fynedfa i’r ardd arbennig, yn gwerthu rhoddion, cofroddion a phlanhigion arbenigol.
Parc chwarae yn y maes parcio ac ardal chwarae naturiol yn y Pen Pellaf gyda drysfa helyg ac ardal adeiladu den.
Dathlwch 150 mlynedd o Ardd Bodnant gyda ni. I nodi dau ben-blwydd ‘mawr’ arbennig iawn ym mis Hydref a Thachwedd 2024, rydym yn eich gwahodd i ymuno yn y dathliadau gyda llwybr arbennig iawn drwy’r ardd yr hydref hwn rhwng 19 Hydref - 3 Tachwedd.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.
Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant, Conwy, gogledd Cymru. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.
Mwynhewch y daith hon ar ochr bryn – mae’n ymarfer corff da gyda golygfeydd panoramig i wneud i chi deimlo ar ben y byd.
Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Arhoswch yn yr adeilad rhestredig Gradd II hwn, a’r wisteria yn orchudd drosto. Bydd yr ardd ysblennydd a’r hanes diddorol ar stepen drws Conwy yn gwneud i chi deimlo’ch bod yn camu’n ôl mewn amser.
Mewn 200 erw o barcdir coediog, gyda golygfeydd at Eryri, mae’r gwesty a’r sba yma o’r 17eg ganrif yn lle delfrydol am seibiant bach rhamantus.
Yn swatio ar dir Gwesty Bodysgallen, gyda golygfeydd o Gastell Conwy a mynyddoedd Eryri, mae’r bythynnod hyn yn cynnig encil Cymreig heddychlon.
Dathlwch 150 mlynedd o Ardd Bodnant gyda ni yr hydref hwn | Celebrate 150 years of Bodnant Garden with us this autumn
Gyda chorneli clòs, lawntiau eang, terasau mawreddog a choetir gwyrddion, mae sawl gardd yn un ym Modnant.
Crëwyd yr ardd dros 150 mlynedd yn ôl, gyda phlanhigion yn cael eu casglu a'u cludo i Brydain o bellafoedd a gweledigaeth anhygoel cenedlaethau o deulu'r McLaren a'r prif arddwyr Puddle, mae'r hafan hon o harddwch a phethau prin gyda mynyddoedd y Carneddau, Eryri, yn gefnlen, yn llawenydd i'r synhwyrau.
Gyda lliw drwy gydol flwyddyn, gall yr ardd fod yn beth bynnag yr ydych am iddi fod, boed hi'n llawn bwrlwm neu'n hafan o lonyddwch ac ymlacio, mae hwn yn lle arbennig i bob oed.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Ydych chi erioed wedi meddwl faint o waith y mae’n ei olygu i gadw 80 erw Gardd Bodnant i edrych ar eu gorau? Dysgwch sut mae’r tîm yn gofalu am yr ardd, sy’n gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed sy’n Bencampwyr.
O Wasanaethau Ymwelwyr i Wirfoddolwyr Gardd medrus, mae’r cyfan yn hanfodol i’r tîm. Ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn gwirfoddolwyr newydd yng Ngardd Bodnant.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.