Ymholiadau aelodaeth
Os ydych yn aelod yn barod neu am gael gwybod rhagor am ymuno, rydym yma i helpu.
Rydym wedi gwrando ar eich adborth am fod eisiau mwy o hyblygrwydd o ran eich dewisiadau aelodaeth, felly rydym wedi creu Fy Nghyfrif. Dysgwch sut i gofrestru, gwneud newidiadau i’ch aelodaeth a dewis sut yr ydych am gael clywed gennym.
Mae Fy Nghyfrif yma i’ch helpu i wneud newidiadau i’ch aelodaeth ar-lein, fel diweddaru manylion personol a manylion cyswllt. Hefyd gallwch ofyn am gerdyn aelodaeth yn lle’r un presennol, gwirio dyddiad adnewyddu eich aelodaeth ac adnewyddu ar-lein.
Mae llawer ohonoch wedi gofyn am y dewis i beidio â derbyn Llawlyfr printiedig, felly gallwch wneud eich dewis yn awr yn Fy Nghyfrif. Gallwch hefyd ddewis rhwng fersiwn brintiedig neu ddigidol o Gylchgrawn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os byddwch yn dewis mynd yn ddi-bapur, byddwch yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon ac yn rhoi mwy o arian tuag at ofalu am natur, harddwch a hanes.
Yn Fy Nghyfrif, byddwch yn gallu dewis derbyn negeseuon e-bost gennym ni. Trwy wneud hynny, byddwch yn cael mynediad at bopeth o gystadlaethau i aelodau yn unig a gostyngiadau prisiau adwerthu i fideos gyda’n harbenigwyr a diweddariadau am y gwaith pwysig yr ydych chi yn ein helpu ni i’w wneud.
Er mwyn cofrestru, ewch i Fy Nghyfrif. Bydd arnoch angen eich rhif aelodaeth, cyfeiriad e-bost a chod post i greu eich cyfrif.
Sylwer, os gwelwch yn dda, mai dim ond yr aelod arweiniol (y person sy’n talu am yr aelodaeth) all gofrestru a rheoli aelodaeth yn Fy Nghyfrif ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio cyflwyno modd i’r holl aelodau wneud hynny yn y dyfodol.
Os byddwch yn cael problemau gyda Fy Nghyfrif, ffoniwch y Ganolfan Gwasanaethau Cefnogwyr ar 0344 800 1895.
Gallwch ddefnyddio Fy Nghyfrif i:
Gallwch hefyd:
Os hoffech chi siarad â rhywun ar y ffôn neu eich bod yn cael problemau gyda Fy Nghyfrif, gallwch ffonio’r Ganolfan Gwasanaethau Cefnogwyr.
Os ydych yn aelod yn barod neu am gael gwybod rhagor am ymuno, rydym yma i helpu.
Os ydych yn aelod yn barod, yn meddwl am ymuno neu am roi aelodaeth yn rhodd, mae gennym yr atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. (Saesneg yn unig)
Anelwch am ein canolfan gymorth am ragor o wybodaeth am ymweld, cyfleusterau, gwyliau, siopa a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymaelodwch a byddwch yn derbyn ein cylchgrawn hardd dair gwaith y flwyddyn. Dyma ein ffordd o ddweud diolch, ac mae’n llawn o storïau o du ôl i’r llenni. (Saesneg yn unig)
Mae eich Llawlyfr yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gwych at pan fyddwch yn cynllunio eich taith nesaf. Edrychwch ar gynnwys rhifyn 2024. (Saesneg yn unig)
Os ydych yn aelod newydd neu wedi bod gyda ni ers tro, mae cyfle i brofi rhywbeth newydd bob amser. Darllenwch am ein hawgrymiadau gorau i gael y mwyaf o’ch aelodaeth. (Saesneg yn unig)
Ni fyddwn fyth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon. Dim ond ei rannu gyda sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw sy’n bodloni ein safonau preifatrwydd uchel fyddwn ni. Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael gwybod sut a pham yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. (Saesneg yn unig)