Skip to content
Datganiad i'r wasg

Chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn

Chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn
Chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Paul Harris

Chwarelwyr yn symud o’r chwarel i’r castell fel rhan o raglen ailddatblygu fawr Amgueddfa Lechi Cymru.

Am y tro cyntaf erioed mae chwarelwyr llechi yn gweithio yng Nghastell Penrhyn – cartref un o berchnogion chwarel cyfoethocaf Cymru.
Mae chwarelwyr o Amgueddfa Lechi Cymru, sydd fel arfer i’w gweld yn yr amgueddfa yn Llanberis, wedi symud dros-dro i arddangos eu sgil a’u crefft yn y Castell.

Mae hyn yn digwydd wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau ei drysau am gyfnod ar gyfer ailddatblygiad mawr. Oherwydd y gwaith hwn mae’r amgueddfa, sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, wedi penderfynu rhannu ei stori mewn lleoliadau eraill o fewn safle treftadaeth byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru.

Sefydlwyd Chwarel y Penrhyn gan y teulu Pennant. Roedd yn un o brif chwareli llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd, ac roedd yr amodau gweithio’n galed iawn yno. Ym 1900, aeth dros 2,000 o weithwyr ar streic am well cyflogau ac amodau gweithio – penllanw blynyddoedd lawer o wrthdaro ac anfodlonrwydd.

Roedd Streic y Penrhyn yn un hir a chwerw. Fe barodd dros dair blynedd, un o’r streiciau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, ac achosodd galedi difrifol i’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Rhwygwyd y gymuned yn ddwy; rhwng y ‘streicwyr’ a achosodd yn driw i’r streic neu adael i ddod o hyd i waith arall, a’r ‘bradwyr’ a ddychwelodd i’r chwarel. ⁠

I nifer o drigolion yr ardal, mae’r Castell yn dal i fod yn symbol o gyfoeth a gormes. Yn hanesyddol, fyddai’r chwarelwyr byth yn croesi trothwy’r Castell, ac mae llawer o’u teuluoedd wedi cadw draw ar hyd y blynyddoedd.

Mae Castell Penrhyn a’r gerddi bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r safle wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion yr ardal ac artistiaid ers dros ddegawd i rannu mwy o’r hanes, ac ailgysylltu â’r gymuned leol, fel yr esboniodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn:

“Dros y degawd a mwy diwethaf, rydym wedi bod yn ail-edrych ar ein ffordd o rannu hanes a chysylltiadau diwydiannol a threfedigaethol Castell Penrhyn. Rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y cyfnod, ond mae croesawu’r chwarelwyr i’r castell yn garreg filltir arwyddocaol o ran ailgysylltu’r gymuned â’r safle hanesyddol hwn.

⁠Yn barod, mae torfeydd wedi bod yn ymgasglu i wylio’r arddangosfa hollti llechi, sydd yn ddathliad o grefftwyr lleol, ond hefyd yn brofiad sy’n ychwanegu at hanes diwydiannol y castell. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru dros y misoedd i ddod, a chynnig ymweliad unigryw a chofiadwy i Gastell Penrhyn.”

I Amgueddfa Lechi Cymru, mae’r cyfle i’w chwarelwyr arddangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn yn rhan allweddol o’r rhaglen ailddatblygu, ac yn benodol ymgyrch Amgueddfa ar y Lôn yn 2025, sy’n adleoli elfennau o’r amgueddfa tra bod y safle ar gau.

Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm yng Nghastell Penrhyn ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle unigryw hwn i ni gydweithio fel rhan o raglen ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd i rannu hanes y diwydiant llechi, ac mae’r cyfle i rannu sgiliau a straeon ein chwarelwyr yn beth mawr i’r ddwy ochr. Bydd symud i Gastell Penrhyn – ac i safleoedd eraill yn yr ardal Treftadaeth Byd – yn ystod ailddatblygiad yr amgueddfa yn gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau bod ein stori yn parhau tu hwnt i furiau’r amgueddfa.

Bydd ein staff ar eu hennill o gael dal i weithio gyda’r cyhoedd, a gwella eu gwybodaeth o hanes y llechi, a gobeithio y bydd ymwelwyr ar eu hennill o gwrdd â staff yr amgueddfa mewn lleoliadau newydd a fydd – ynghyd â’r cynnig presennol i ymwelwyr â Chastell Penrhyn – yn cynnig persbectif newydd ar stori’r llechi.”

Mae’r Amgueddfa a’r Castell yn rhannau allweddol o safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Croesawyd y datblygiad gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru:

“Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi cydweithio ers blynyddoedd i ddatblygu partneriaeth gref er mwyn sicrhau statws treftadaeth byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru.

“Mae canlyniadau’r bartneriaeth gref hon nawr yn dwyn ffrwyth wrth i ni weld buddsoddiad sylweddol o dros £30m drwy raglen weithgareddau Llewyrch o’r Llechi – fel y rhai yn Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau eraill ar draws yr ardal. Rydym hefyd yn gweld ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynnig profiadau newydd, a rhannu stori fyd-eang llechi Cymru.”

Mae’r chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn bob dydd yn ystod 2025.

You might also be interested in

Children running in the garden at Penrhyn Castle, Wales, in summer
Lle
Lle

Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell ffantasi gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol

Bangor, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Amgueddfa Cymru Ar Y Lôn

Amgueddfa Lechi Cymru 

Dysgwch fwy am Amgueddfa Lechi Cymru.