Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ei Fawrhydi’r Brenin a Phrif Weinidog Cymru yn plannu glasbren Derwen Pontfadog yn Erddig

His Majesty The King and Hilary McGrady, Director-General of the National Trust
Ei Fawrhydi'r Brenin â Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ymweld â Erddig, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Annapurna Mellor


Ei Fawrhydi’r Brenin a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ymweld ag Erddig sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 45 mlynedd ar ôl i’w Fawrhydi y Brenin agor Erddig i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Plannodd Ei Fawrhydi glasbren prin wedi’i impio’n llwyddiannus o dderwen hanesyddol Derwen Pontfadog, a gwympodd yn ystod storm yn 2013.

Yn ystod yr ymweliad cafodd Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gyfarfod gwirfoddolwr ifanc sy’n cymryd rhan yn Erddig Grow, prosiect sy’n gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi lles pobl trwy fod yng nghanol natur.

Plannodd Ei Fawrhydi glasbren prin wedi’i impio o’r dderwen hanesyddol Derwen Pontfadog ar dir Erddig yn Wrecsam, ochr yn ochr â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Safodd y dderwen hynafol Derwen Pontfadog, a gwympodd mewn storm yn 2013, ar Fferm Cilcochwyn, ger y Waun, Wrecsam, a gofalwyd amdani gan genedlaethau o’r teulu Williams. Credwyd ei bod yn un o’r coed derw mwyaf a hynaf yn y byd.

Yn 2013, llwyddodd Ystâd y Goron i luosogi'r Dderwen Pontfadog wreiddiol a phlannu coeden yn y Great Park yn Windsor. Impiwyd pump o goed Derw Pontfadog eraill o'r goeden hon, rhoddwyd tair ohonynt yn anrheg i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac mae dwy yng ngofal Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Plannwyd y glasbren er cof am Ei Diweddar Fawrhydi Elizabeth II. Hwn oedd ymweliad cyntaf Ei Fawrhydi â lle sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers ei esgyniad i’r Orsedd.

Yn ystod yr ymweliad ag Erddig, cafodd Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gwmni Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a chwrdd â nifer o staff a gwirfoddolwyr ifanc.

Dywedodd Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 'Mae’n anrhydedd i groesawu Ei Fawrhydi’r Brenin yn ôl i Erddig ac i groesawu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

'Mae Ei Fawrhydi wedi bod yn cefnogi ein gwaith yn Erddig ers amser maith, yn cynnwys agor yr eiddo i’r cyhoedd yn 1977, ac ymweliad i nodi 25 mlynedd ers i’r eiddo ddod o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2002.

'Braint o’r mwyaf yw cael Ei Fawrhydi, y Prif Weinidog ac aelodau teulu Williams gyda ni i blannu’r glasbren Derwen Pontfadog i anrhydeddu Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines. Edrychwn ymlaen at ofalu am y glasbren wrth iddo dyfu a darparu lle i bobl fyfyrio a chysylltu â natur a hanes.'

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: 'Roedd hi’n bleser i fod yn Erddig ar gyfer plannu glasbren Derwen Pontfadog er anrhydedd i’w Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II.'

'Mae gan y goeden hanes anhygoel ar ôl cael ei himpio o Dderwen mor fawreddog a hynafol.'

'Rwy’n gobeithio y bydd y goeden yn tyfu ac yn datblygu i fod yn Dderwen gadarn a fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod yn Erddig.'

Cyn plannu’r glasbren, clywodd y grŵp am waith cymunedol Erddig, sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc a chynyddu mynediad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r rhai a allai elwa fwyaf ohono.

Cafodd Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gyfarfod gwirfoddolwr ifanc sy’n cymryd rhan yn Erddig Grow, prosiect sy’n gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi lles pobl trwy ddysgu sgiliau, bod yn natur a datblygu cysylltiadau gyda phobl eraill. Gwahoddodd y gwirfoddolwyr Ei Fawrhydi i blannu ffawydden goprog fel rhan o fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: 'Roedd hi’n bleser i weld gwirfoddolwyr ifanc gwych yn cael eu cyflwyno i’w Fawrhydi a’r Prif Weinidog. Mae’r gwaith y mae’r gwirfoddolwyr a staff yn ei wneud yn Erddig i gynyddu mynediad at natur, harddwch a hanes yn gwneud gwahaniaeth go iawn i les pobl. Mae’n mynd at wraidd diben elusennol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.'

'Bu’r ethos hwn yn rhan o draddodiad Erddig yng Nghymuned Wrecsam ers amser maith. Yn yr 1790au, hyrwyddodd y teulu Yorke a fu’n gofalu am Erddig cyn yr Ymddiriedolaeth y gwerthoedd hyn a sicrhau bod yr ystâd ar agor er iechyd a difyrrwch pobl leol. Mae’n hyfryd i weld y traddodiad hwn yn parhau yn Erddig heddiw trwy brosiectau fel Erddig Grow a nifer o rai eraill.'

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog gyfarfod y Prif Arddwr ac edmygu’r arddangosfeydd toreithiog o afalau o gynhaeaf eleni. Mae Ystâd Erddig yn cynnwys perllannau helaeth o goed ffrwythau hyfforddedig ac mae’n gartref i dros 200 math o afal. Cafodd y grŵp hefyd weld y beic peni-ffardding a reidiodd Ei Fawrhydi arno yn ystod ei ymweliad cyntaf ag Erddig yn 1977.

Mis Rhagfyr yma mae tu allan y tŷ yn Erddig wedi’i drawsnewid yn galendr Adfent anferth gyda ffenestr Adfent newydd yn disgleirio yn y plasty bob dydd. Ar ddiwrnod yr ymweliad, cafodd ffenestr Adfent rhif 9 ei hagor, gan ddatgelu llun o goeden Nadolig wedi’i thynnu gan Noah sy’n 7 oed ac sy’n byw yn lleol.

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd y Prif Arddwr, Glyn Smith, mesen wedi’i cherfio gan un o’r gwirfoddolwyr o un o goed derw Erddig a detholiad o afalau o’r perllannau i’w Fawrhydi.

Nodiadau i Olygyddion:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: 

Haf Davies, Ymgynghorydd Marchnata a Chyfathrebu, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; haf.davies@nationaltrust.org.uk neu 07814 066502

Nodyn gan olygydd y lluniau: 

Gellir lawrlwytho delweddau yma:

Erddig, 9 December 2022

Rhaid cydnabod y delweddau fel y nodir, a dim ond ar gyfer y stori hon y dylid eu defnyddio. 

Am Erddig:

Yn eistedd ar darren ddramatig uwchben afon droellog Clywedog, mae Erddig yn adrodd stori 250 mlwydd oed perthynas teulu bonheddig â'i weision. Mae ei gasgliad mawr - yr ail fwyaf yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - yn cynnwys portreadau o’r gweision ac ystafelloedd sydd wedi’u gwarchod yn ofalus gan gyfleu bywydau ar ddechrau’r 20fed ganrif, tra bod yr ystafelloedd i fyny’r grisiau yn drysorfa o ddodrefn, tecstilau a phapur wal cain.

Yn yr awyr agored mae gardd o’r 18fed ganrif wedi’i hadnewyddu’n llawn, gyda choed ffrwythau hyfforddedig, borderi blodau blynyddol toreithiog, coedlannau pisgwydd pleth a gwrychoedd ffurfiol. Ers dros 300 mlynedd, mae parcdir 1,200 erw Erddig wedi bod ar agor i’r gymuned leol fel lle ar gyfer llonyddwch neu antur. Mae cyfrinachau i'w darganfod yma, o darddiad cynharaf Wrecsam i dechnoleg tirwedd wedi'i dylunio o'r 18fed ganrif.

Mae Erddig yn chwarae rhan weithredol yng nghymuned Wrecsam, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, gyda ffocws ar gynyddu mynediad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r rhai a allai elwa fwyaf ohono. Er enghraifft, mae Tyfu Erddig yn gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi lles pobl trwy ddatblygu cysylltiadau gyda natur ac eraill.

Am Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn elusen gadwraeth a sefydlwyd ym 1895 gan dri pherson a welodd bwysigrwydd treftadaeth a lleoedd agored ein cenedl ac oedd eisiau eu cadw i bawb eu mwynhau. Fwy na 120 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r gwerthoedd hyn yn dal i fod wrth wraidd popeth y mae'r elusen yn ei wneud.

Yn gwbl annibynnol a’r Llywodraeth, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 250,000 hectar o gefn gwlad, 778 milltir o arfordir a channoedd o leoedd arbennig ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae bron i 27 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn, ac ar y cyd â 6 miliwn o aelodau, y mae mwy na 200,000 ohonynt yn byw yng Nghymru, a dros 65,000 o wirfoddolwyr, maent yn helpu i gefnogi'r elusen yn ei gwaith i ofalu am leoedd arbennig am byth, i bawb.

Yng Nghymru mae'n gofalu am fwy na 45,000 hectar o gefn gwlad, 160 milltir o arfordir yn ogystal â rhai o'r cestyll a'r gerddi gorau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.nationaltrust.org.uk/wales