Skip to content
Datganiad i'r wasg

Gardd llesiant wedi ei chwblhau wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddathlu blwyddyn mewn partneriaeth â Cerebral Palsy Cymru

Staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda phlant, staff a theuluoedd o Celebral Palsy Cymru yn eu gardd les newydd yng Nghaerdydd
Rhoi’r sglein olaf ar ardd les Celebral Palsy Cymru | © National Trust Images/Paul Harris

Ddydd Mawrth 21 Mawrth, ymunodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cerebral Palsy Cymru yn eu canolfan i blant yng Nghaerdydd i ddathlu blwyddyn mewn partneriaeth a chwblhau gardd llesiant hygyrch newydd.

Symudodd Cerebral Palsy Cymru, sy’n darparu therapi a chymorth i blant a’u teuluoedd ledled Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd, i’r adeilad newydd yng Nghaerdydd yn 2021. Dros y 12 mis diwethaf mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi trawsnewid ardal yr iard yn fan gwyrdd lle gall teuluoedd a staff gael hawl i fyd natur, treulio amser yn yr awyr agored, a gwella eu llesiant.

Ymunodd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan ym mhrosiect therapi grŵp yr elusen ‘ESCAPADES!’, sy’n cael ei ariannu’n garedig gan Blant Mewn Angen y BBC, mae’r tîm garddio o Ymddiriedolaeth Gerddi Dyffryn, ger Caerdydd, yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf i’r ardal awyr agored newydd.

Fel rhan o sesiwn therapi grŵp plannu yn yr awyr agored, cynorthwyodd pobl ifanc, rhwng 12 a 15 oed, i ychwanegu lliw’r gwanwyn i’r potiau blodau hygyrch. Yn ychwanegol, roedd dodrefn gardd hygyrch unigryw a adeiladwyd ac a osodwyd gan arddwyr yr Ymddiriedolaeth a gwirfoddolwyr o Erddi Dyffryn a ddyluniodd yr ardd y llynedd.

Staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda phlant, staff a theuluoedd o Celebral Palsy Cymru yn eu gardd les newydd yng Nghaerdydd.
Rhoi’r sglein olaf ar ardd les Celebral Palsy Cymru. | © National Trust Images/Paul Harris

Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, a fynychodd y dathliad agoriadol: ‘Wrth weithio â phartneriaid, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ceisio cynyddu’r hawl i fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol a’u cyffiniau, fel bod byd natur a harddwch o fewn cyrraedd mwy o bobl.

Rydym wrth ein bodd gweld y llawenydd mae’r ardd newydd yn ei rhoi i’r plant, y teuluoedd a’r staff yn Cerebral Palsy Cymru. Heddiw rydym yn dathlu ynghyd flwyddyn o’r bartneriaeth arbennig hon ac yn gadael gwaddol gwych i bawb yn y ganolfan i elwa ohono am flynyddoedd i ddod.’

Ychwanegodd Marie Wood, Cyfarwyddwr Codi Arian a Chyfathrebiadau Cerebral Palsy Cymru: 'Roedd yn bleser gweld ein partneriaeth gyda thîm Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dod ynghyd ar gyfer y sesiwn rhyngweithiol a synhwyraidd gwych hwn ar gyfer y bobl ifanc yr ydym yn eu cynorthwyo drwy’r prosiect ESCAPADES! Mae ein man awyr agored wedi ei thrawsnewid yn hardd er mwyn i’n teuluoedd, ein hymwelwyr a staff ei mwynhau wrth i ni nesáu at y gwanwyn. Yn sicr ni fyddem wedi cael yr amser na’r adnoddau i sicrhau hyn oni bai am y bartneriaeth wych hon.'

Roedd ychwanegu coeden flodau yn nodi blwyddyn ers i’r ddwy elusen ddechrau’r bartneriaeth, perthynas a hyrwyddwyd gan Lucy Owen, darlledwr ac awdur sy’n llysgennad i Cerebral Palsy Cymru. Denwyd Lucy at ymgyrch #BlossomWatch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth ysgrifennu ei llyfr ‘Flower Girl’ ac fe flodeuodd y berthynas o’r fan honno.

I lansio’r bartneriaeth ac i ddathlu ymgyrch flynyddol #BlossomWatch yr Ymddiriedolaeth fe blannwyd coed ac eirlysiau yng Ngerddi Dyffryn yn ystod y gwanwyn y llynedd.

Pan glywodd fod yr ardd llesiant wedi ei chwblhau, fe ddywedodd Lucy Owen: ‘Mae gweld yr hyn mae’r elusennau gwych hyn yn eu gwneud gyda’i gilydd yn fy ngwneud i mor hapus. Mae gwybod bod y plant a’u teuluoedd sy’n defnyddio Canolfan CP Cymru ardd therapiwtig, hygyrch nawr, lle gallant fwynhau holl fuddion byd natur, yn llawenydd pur i mi - ac mae’n dangos hud bywyd go iawn sy’n deillio o lyfrau bychan.’

Drwy gydol y bartneriaeth, darparodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru fynediad am ddim i’r 350 o deuluoedd sy’n derbyn cymorth gan Cerebral Palsy Cymru ledled Cymru i gynorthwyo’r elusen gadwraeth adolygu rhai o heriau hygyrchedd y lleoedd maent yn goflau amdanynt.

Dyffryn Gardens in winter
Lle
Lle

Dyffryn Gardens 

An Edwardian garden in restoration with an ever-changing seasonal landscape | Gardd Edwardaidd sy’n cael ei hadfer, gyda thirwedd dymhorol sy’n newid yn barhaus

St Nicholas, Vale of Glamorgan

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o wyneb gogleddol Castell y Waun ar ddiwrnod rhewllyd yng Nghymru.
Ardal
Ardal

Wales 

Explore fairy-tale castles, glorious gardens and a wild Celtic landscape brimming with myths and legends on your visit to Wales.