Skip to content
Datganiad i'r wasg

Llwybr poblogaidd y Pysgotwyr ym Meddgelert wedi’i atgyweirio diolch i daith gludo arbennig gan Reilffordd Eryri

Tren Lilla, Rheilffordd Eryri
Tren Lilla, Rheilffordd Eryri | © National Trust Images/Paul Harris

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Rheilffordd Eryri yn cydweithio i adfer Llwybr y Pysgotwyr ym Mwlch Aberglaslyn, Beddgelert, Eryri.

Wedi i stormydd y gaeaf a llif uchel yn yr afon ysgubo 100m o Lwybr y Pysgotwyr i ffwrdd, newidiodd Rheilffordd Eryri ei chargo arferol o dwristiaeth am gerrig, gan ailgydio yn ei gwaith gwreiddiol am ddiwrnod.

Yn ôl tua dechrau’r 20fed ganrif, byddai’r rheilffordd yn cludo llechi o chwarel yn Rhyd-ddu i Borthmadog, ond ar 14 Chwefror, bu’n symud dros 30 tunnell o agregau a cherrig hyd at ychydig fetrau o’r llwybr a oedd wedi’i ddifrodi. Roedd hyn yn helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal gwaith atgyweirio a gwneud gwelliannau i’r llwybr enwog hwn mewn pryd ar gyfer y prif dymor cerdded.

Mae’r daith drawiadol ar hyd Llwybr y Pysgotwyr yn un drawiadol sy’n cael ei throedio gan filoedd o gerddwyr bob blwyddyn, mae’n dilyn glannau Afon Glaslyn ac mae’r ffaith ei fod mor agos at yr afon yn sicr yn rhan o’r apêl. Fel rhan o’r gwaith atgyweirio, bydd yr Ymddiriedolaeth yn uwchraddio’r draeniau ar hyd y rhan hon o’r llwybr i helpu i leihau'r risg gan lifogydd eto.

Ymwelwyr yn cerdded darn mwdlyd o Lwybr y Pysgotwr ger Beddgelert
Erydiad ar Lwybr y Pysgotwr ger Beddgelert | © National Trust Images/Paul Harris

Dywedodd Jack Peyton, sy’n Geidwad Llwybrau, “Rydym wedi arfer gweithio mewn lleoliadau gwyllt, anodd i’w cyrraedd ac rydym yn dibynnu’n aml ar hofrenyddion i gludo’r cerrig sydd eu hangen ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau.

“Mae Eryri yn lle gwlyb, felly mae erydu yn her barhaus i ni. Mae’n debyg y bydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu pethau, felly bydd cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau yn bwysicach fyth. Mae llwybr da yn helpu i leihau effaith erydu ar briddoedd a chynefinoedd bregus yr ucheldir yn ogystal â galluogi miloedd o ymwelwyr i fwynhau’r ardal yn ddiogel.”

“Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio gyda Rheilffordd Eryri ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am gyfrannu’r amser a'r adnoddau i’n helpu ni i atgyweirio’r llwybr arbennig hwn.”

Staff a gwirfoddolwyr yn dadlwytho y tren ar Llwybr y Pysgotwr ger Beddgelert, Eryri
Staff a gwirfoddolwyr yn dadlwytho y tren ar Llwybr y Pysgotwr ger Beddgelert, Eryri | © National Trust Images/Paul Harris

Mae’r rheilffordd yn teithio’n gyfochrog â’r llwybr a dyna’r unig ffordd i gerbydau deithio ar lan Ddwyreiniol yr afon yn Aberglaslyn. Pan gwblhawyd y gwaith o adfer y lein o Gaernarfon i Borthmadog yn 2011, gosodwyd giât arbennig ger Bryn y Felin i alluogi’r trên i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw’r llwybr.

Dywedodd Chris Parry, Swyddog Marchnata Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru “Roedd yn bleser gallu cynrychioli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda gwelliannau i Lwybr y Pysgotwr. Mae mynediad bob amser yn broblem pan fydd angen offer neu ddeunydd trwm, felly trên stem oedd yr ateb delfrydol. Yn naturiol rydym yn barod ac ar gael i helpu gydag unrhyw waith pellach yn y dyfodol.”

Rheilffordd Eryri yn cefnogi i atgyweirio Llwybr y Pysgotwr
Rheilffordd Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dadlwytho y tren ar Llwybr y Pysgotwr ger Beddgelert, Eryri | © National Trust Images/Paul Harris

Cafodd y cerrig (a oedd wedi’u llwytho ar y trên gan beiriant codi 4km yn is i lawr yr afon) eu dadlwytho mewn tair awr gan dîm o staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Eryri ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Bydd y tîm llwybrau’n defnyddio berfâu modur i gludo’r deunyddiau ar ran olaf y daith.

Amcangyfrifir y bydd y pedwar aelod o’r tîm llwybrau yn cwblhau’r gwaith atgyweirio mewn ychydig wythnosau, mewn pryd ar gyfer misoedd prysur y gwanwyn pan fydd Beddgelert yn croesawu’r llu o gerddwyr fydd yn crwydro rhwydwaith llwybrau anhygoel yr ardal.

Diolch i gyfraniadau i Apêl Eryri, mae tîm llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gallu gofalu am rwydwaith o dros 100km o lwybrau ym mhob cornel o Eryri, gan helpu miloedd o ymwelwyr i fwynhau natur a phrydferthwch y dirwedd ddramatig hon bob blwyddyn.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Lle
Lle

Craflwyn a Beddgelert 

Unwind amongst the wooded foothills of Yr Wyddfa (Snowdon) | Ymlaciwch ymysg odre coediog Yr Wyddfa

near Beddgelert, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan 

Wales

Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5.7 (km: 9.12)
Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.