![Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/aberglaslyn-pass-beddgelert-wales-1190987.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Ar y daith gylchol heriol yma byddwch yn cerdded trwy fwlch Aberglaslyn gyda’r afon Glaslyn yn llifo hyd ochr y llwybr. Bydd y daith yn mynd heibio Bedd y Ci (bedd ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn), pentref hardd Beddgelert, dyfroedd tawel Llyn Dinas a’r hen waith copr yn Sygun a Chwm Bychan.
Arhoswch ar y llwybr
Arhoswch ar y llwybr gan fod yr ardal yn llawn o dwneli, tomennydd a gweithfeydd.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Nantmor, cyfeirnod grid: SH597462
Cam 1
O’r maes parcio, ewch trwy’r giât ger y bloc toiledau a throi i’r chwith am Aberglaslyn. Cerddwch i fyny trwy’r coed, pan gyrhaeddwch chi’r afon trowch i’r dde i’w dilyn ar i fyny. Bydd llwybr y pysgotwyr yn eich arwain ar hyd ochr bwlch Aberglaslyn. Dylid bod yn ofalus iawn wrth ddilyn y rhan yma o’r llwybr, yn arbennig y graig uwch ben yr afon. Daliwch i fynd nes cyrhaeddwch chi drac y rheilffordd a byddwch yn ofalus wrth ei groesi: mae gwasanaeth Rheilffordd Ucheldir Cymru yn teithio rhwng Caernarfon a Phorthmadog ar hyd y llwybr yma. Croeswch lein y rheilffordd a throi i’r chwith at y bont i groesi’r afon, yna trowch i’r dde tuag at Feddgelert a dilyn yr afon ar i fyny.
Cam 2
Wrth i chi ddynesu at bentref Beddgelert, peidiwch ag anghofio troi i’r chwith i weld bedd Gelert o’r chwedl Gymreig enwog. Chwiliwch am y cerflun efydd arbennig o Gelert gerllaw.
![Cerflun efydd o Gelert, ci Llywelyn Fawr ym Meddgelert, Eryri, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/gelert-sculpture-beddgelert-snowdonia-wales.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 3
Ym Meddgelert, trowch i’r dde dros bont droed ac yna i’r chwith, gan ddilyn yr afon ar i fyny. Croeswch y stryd a mynd trwy giât.
Cam 4
Wrth y giât nesaf, trowch i’r dde i lôn gul. Dilynwch hon heibio gwaith Copr Sygun. Wrth yr afon, trowch i’r dde i ddilyn y llwybr i fyny’r afon tuag at y llyn.
![Afon Glaslyn a Moel Siabod yn y pellter, Craflwyn a Beddgelert, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/glaslyn-river-beddgelert-snowdonia-wales-img_0260.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 5
Ar lan y llyn (Llyn Dinas) trowch i’r dde ar hyd llwybr o garreg sy’n mynd i fyny’r bryn o ochr i ochr. Ar y top daliwch i fynd am hanner milltir (anwybyddwch y llwybr cyntaf ar y dde), lle mae’r llwybr yn fforchio, cadwch i’r dde.
Cam 6
O Fwlch y Sygun dilynwch y llwybr chwith (tua’r de). Yna cadwch i’r dde, i lawr Cwm Bychan i’r maes parcio.
![Golygfa o raffordd Cwm Bychan, olion y diwydiant copr yn Eryri, Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/cwm-bychan-ropeway-beddgelert-snowdonia-wales-856916.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Man gorffen
Maes parcio Nantmor, cyfeirnod grid: SH597462
Map llwybr
![Map taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/aberglaslyn-and-cwm-bychan-trail-map-craflwyn-and-beddgelert-wales.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/nant-gwynant-beddgelert-snowdonia-wales-1456408.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.
![Llwybr cerdded wrth ochr afon ym Meddgelert, Eryri, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/river-beddgelert-snowdonia-wales-1154144.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.
![Golygfa o lyn yn ymestyn i’r pellter gyda bryn creigiog ar un ochr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/yr-aran-lake-wales-1409950.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.
![A river fast-flowing over rocks, flanked by a wooden walkway on the left and autumnal trees on the right](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/autumn/aberglaslyn-to-bedgelert-walk-1461617.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Aberglaslyn, Bryn Du a Beddgelert
Taith gylchol trwy goetir hynafol, ar draws golygfeydd mynyddig sydd hefyd yn mynd heibio bedd Gelert ym Meddgelert a Bwlch Aberglaslyn.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Tri ymwelydd yn sefyll dan goeden gyda’r haul yn tywynnu trwy’r canghennau ar lwybr yn Craflwyn a Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/summer/visitors-stood-under-a-tree-at-craflwyn-and-beddgelert-1153978.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dysgwch am hanes Gelert
Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/heather-hafod-y-llan-165464.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.
![A person walking along the South West Coast Path at East Soar, South Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/east-soar/library/walking-the-south-west-coast-path-east-soar-south-devon-1423843.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
![The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/holidays/library/wales/hen-dy/hen-dy---exterior-12---chris-lacey---190717.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Bythynnod gwyliau yn Eryri
Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.