Skip to content
Datganiad i'r wasg

'Teigr yn y Castell', arddangosfa newydd sy'n archwilio ymateb personol yr artist Daniel Trivedy i gysylltiadau trefedigaethol Castell Powis ag India yn agor yng Nghastell a Gardd Powis

Mae artist mewn gwisg teigr yn eistedd ger y ffenestr mewn ystafell wely yng Nghastell Powis. Ym mlaen y llun ceir gwely pedwar postyn cain. Mae'r llun yn un o'r ffotograffau a ddangoswyd yn yr arddangosfa newydd, 'Teigr yn y Castell', gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis.
Un o'r ffotograffau o’r arddangosfa 'Teigr yn y Castell' gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis. | © Dafydd Williams

Mae 'Teigr yn y Castell', arddangosfa newydd gan yr artist arobryn o Gymru, Daniel Trivedy [1], yn agor ddydd Sadwrn 24 Chwefror yng Nghastell a Gardd Powis Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn y Trallwng. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o weithiau celf wedi'u datblygu gan yr artist, sy'n cyfleu ymateb personol i gysylltiadau trefedigaethol Castell Powis ag India.

Daeth y gwaith i fodolaeth drwy gydweithrediad rhwng Artes Mundi, sefydliad rhyngwladol blaenllaw y celfyddydau gweledol yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a'r artist.

Bydd cyfres o ffotograffau a pherfformiad wedi'i ffilmio y tu mewn i'r castell ac ar ei dir y llynedd, ynghyd â chyfweliad a recordiwyd â'r artist, yn cael eu dangos yn y neuadd ddawns, ger Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis.

Mae Castell Powis yn gartref i un o gasgliadau mawr y byd o wrthrychau celf a hanesyddol, gan gynnwys dros 13,500 o eitemau. Yng Nghasgliad De Asia [2], a arddangosir yn Amgueddfa Clive, ceir tua 1,000 o arteffactau o Dde a Dwyrain Asia, yn dyddio o tua 1600 i'r 1830au. Casglwyd y gwrthrychau hyn, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, gan genedlaethau o’r teulu Clive yn ystod gwladychiad Prydain yn is-gyfandir India, a daethant i Gastell Powis ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg [3].

Ffordd ddifyr a chwareus o darfu ar yr hanesion trefedigaethol hyn yw gwaith Daniel, a hynny mewn modd cynnil a dychanol. Mae'r gyfres o weithiau a geir yn yr arddangosfa yn cyd-fynd â syniad yr artist i ailddychmygu Castell Powis fel safle posibl ar gyfer dysg a chydlyniant cymdeithasol.

Yn ôl yr artist amlddisgyblaeth, Daniel Trivedy: “Roeddwn yn teimlo bod rheidrwydd arnaf i wneud y gwaith yma, ar lefel emosiynol a seicolegol. Drwy gydol y gwaith, rwyf wedi bod yn meddwl sut mae fy hunaniaeth a hanes fy nheulu'n berthnasol i hanes trefedigaethol y safle. Er gwaethaf yr hanes anodd, rwy'n teimlo imi gael fy ngrymuso'n bersonol a'm bod wedi profi catharsis wrth i'r gwaith ddatblygu.

"Wrth feddwl am y dyfodol, rwy’n teimlo bod gan Gastell Powis botensial anhygoel fel safle ar gyfer cydlyniant cymdeithasol. Drwy ganiatáu i luosogrwydd o leisiau ymgysylltu â'r casgliad, gall gyfrannu at naratif mwy cymhleth a haenog, gan feithrin ymdeimlad mwy o gynhwysiant ac o berthyn; nid yn unig i'r rhai o blith diaspora De Asia, ond i gymdeithas ehangach yn ei chyfanrwydd."

Drwy holl waith Daniel, defnyddir y teigr fel motiff pwerus, yn cysylltu â hunaniaeth yr artist fel disgynnydd Indiaidd a chyfeirio'n uniongyrchol at wrthrychau yng Nghasgliad De Asia. Yn benodol, mae'r rhain yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â Tīpū Sultān, a fabwysiadodd y teigr fel ei arwyddlun[4]. Yn ystod gwladychiad Prydain yn India, datganwyd mai fermin oedd teigrod, ac arweiniodd hynny at ostyngiad sylweddol yn eu niferoedd.

Mae'r elusen cadwraeth yn ymchwilio'n barhaus a phob amser yn chwilio am ddulliau newydd o gyflwyno a rhannu Casgliad De Asia. Mae'r elusen wedi ymrwymo i adrodd hanesion y mannau y mae’n gofalu amdanynt mewn modd agored a chynhwysol [5].

Yn ôl Shane Logan, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghastell a Gardd Powis: “Ym Mhowis rydym yn gweithio’n barhaus gydag ymchwilwyr academaidd a chymunedol i ddeall beth yw cefndir yr eitemau sydd yn ein gofal.

“Rydym hefyd yn creu lle ar gyfer amrywiaeth o ymatebion creadigol a phersonol i Gasgliad De Asia, gan gynnwys profiadau byw ymwelwyr o Dde Asia, i annog trafodaeth ar draws pob cynulleidfa.

“Un persbectif o'r fath yw gwaith Daniel Trivedy, ac mae cael cyfle i gydweithio â Daniel ac Artes Mundi i annog y trafodaethau hynny, nawr ac yn y dyfodol, yn bwysig inni."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artes Mundi, Nigel Prince: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghastell a Gardd Powis drwy'r prosiect hwn gyda Daniel Trivedy. Mae 'Teigr yn y Castell' yn waith sy'n holi cwestiynau doeth ynghylch lle a hanes, a dyna yw craidd ein cenhadaeth - ysgogi deialog a dadl gan ganfod atseiniau o'r gorffennol a gosod hynny mewn cyd-destun cyfoes. Mae’r gwaith yn dawel chwyldroadol, gan daro golwg ddwys, ond eto llawn hiwmor, ar y casgliad a'i gyd-destun."

Dangosir 'Teigr yn y Castell' yng Nghastell a Gardd Powis tan 31 Mai 2024.

I drefnu’ch ymweliad, ewch i: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/powis-castle-and-garden.

Mae'r neuadd ddawns ac Amgueddfa Clive ar agor rhwng 11am a 4pm bob dydd fel arfer. Gwiriwch am unrhyw ddiweddariadau i’r oriau agor cyn ymweld a sylwch na ellir ond cael mynediad i'r amgueddfa a'r ystafell ddawns drwy ddringo grisiau. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu gweld yr arddangosfa bydd llechen electronig ar gael ar y llawr gwaelod yn cynnig cyflwyniad digidol o'r ffotograffau.

[1] Artist amlddisgyblaeth o dras Indiaidd yw Daniel Trivedy. Mae'n byw yn Abertawe, De Cymru. Mae ei waith yn trafod hunaniaeth, cyswllt a pherthyn. Mae ganddo ddiddordeb yn ein perthnasoedd seicolegol â'n gilydd a tharddiad, canlyniadau a goblygiadau'r rhain. Yn 2019, dyfarnwyd y fedal aur am Gelfyddyd Gain iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cedwir ei waith mewn casgliadau preifat ac yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. www.danieltrivedy.com

[2] Mae Casgliad De Asia yn nodi cyfnod cythryblus mewn hanes ond hefyd yn ddathliad o gelfyddyd a dylunio o safon fyd-eang. Mae'n cynnwys ifori, tecstilau, cerfluniau o dduwiau Hindŵaidd, arian ac aur addurniadol, arfau ac arfwisgoedd. www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/powis-castle-and-garden/amgueddfa-clive-yng-nghastell-powis

[3] Cafodd Casgliad De Asia ei roi at ei gilydd gan ddwy genhedlaeth o'r teulu Clive: Robert a'i fab Edward, a briododd Henrietta Herbert, merch Iarll 1af Powis. Nid yw’r stori wrth wraidd y gwrthrychau yn y casgliad bob amser yn eglur. Cafodd rhai eitemau eu prynu neu eu derbyn yn anrhegion, a chafwyd rhai eraill fel ysbail rhyfel yn dilyn gorchfygiad a marwolaeth Tīpū Sultān yng Ngwarchae Srirangapatna ym 1799.

[4] Mae rhai o’r eitemau mwyaf arwyddocaol yng Nghasgliad De Asia yn gysylltiedig â Tīpū Sultān (1750–99), llywodraethwr Mwslimaidd talaith Mysore. Roedd yn arloeswr yn y byd rhyfela, a mabwysiadodd y teigr fel ei arwyddlun. Lladdwyd Tīpū Sultān yn brwydro'r East India Company yng Ngwarchae Srirangapatna 1799. Yn dilyn y frwydr, cymerodd swyddogion y Cwmni eu cyfran benodedig o'r eiddo a gipiwyd, a'i chadw, ei chyfnewid neu ei gwerthu i eraill. Rhoddwyd yr eitemau mwyaf gwerthfawr i uwch bersonél sifil a milwrol, yn ogystal â theulu brenhinol Prydain, ac mae rhai o'r eitemau hyn bellach yn Amgueddfa Clive ym Mhowis.

[5] Mae’r ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am dai hanesyddol ac yn adrodd eu hanes yn esblygu o hyd. Cafodd Amgueddfa Clive, fel y'i gwelwch heddiw, ei chreu yn yr 1980au, a dyna oedd y tro cyntaf i'r gwrthrychau hyn gael eu casglu ynghyd i'w harddangos i'r cyhoedd. Mae'r gwrthrychau wedi denu haenau ychwanegol o werth ac ystyr dros amser. Mae ymchwil Academaidd a Chymunedol yn parhau i wreiddiau’r gwrthrychau yn y casgliad, gan archwilio eu straeon amrywiol sy’n gorgyffwrdd yn is-gyfandir India ac ym Mhrydain, a'r modd y daethant i Gastell Powis. Bydd y rhaglen ymchwil ac ymgysylltu hon yn llywio’r ffordd y caiff y casgliad ei ail-arddangos, a'r modd y gofalir amdano yn y blynyddoedd i ddod.*
(*Cyfeirnodau troednodiadau ac yn cynnwys testun ymchwil gan Rhea Tuli Partridge, Ymgeisydd PhD (Cambridge Heritage Research Centre), Coleg Murray Edwards, Prifysgol Caergrawnt. Mae Rhea yn gwneud ei gwaith ymchwil PhD ar Gasgliad Clive mewn cydweithrediad â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Caergrawnt.www.oocdtp.ac.uk/people/rhea-tuli)

Portread o Robert Clive, Y Barwn 1af Clive o Plassey ‘Clive o’r India’ gan Syr Nathaniel Dance-Holland RA (Llundain 1735)
Erthygl
Erthygl

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis 

Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.

View from the Wilderness of Powis Castle and it's terraces, Wales
Lle
Lle

Castell a Gardd Powis 

Medieval castle rising dramatically above the celebrated garden

Welshpool, Powys

Yn rhannol agored heddiw