Casgliadau Castell a Gardd Powis
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell a Gardd Powis ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y casgliad o arteffactau o dde a dwyrain Asia a arddangosir yn Amgueddfa’r Teulu Clive yw’r casgliad preifat mwyaf o’r math hwn yn y Deyrnas Unedig.
Casglwyd y gwrthrychau hyn yn ystod y gwladychiad Prydeinig yn India a daethant i Gymru ac i Gastell Powis yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn yr Amgueddfa mae dros 1000 o eitemau sy’n tarddu o dde a dwyrain Asia ac yn dyddio o tua 1600 i’r 1830au. Mae’r casgliad yn cynnwys ifori, tecstilau, cerfluniau o dduwiau Hindŵaidd, darnau addurniadol aur ac arian, arfau ac arfwisgoedd seremonïol.
Rhoddwyd y casgliad at ei gilydd gan ddwy genhedlaeth o’r teulu Clive: Robert (a ddaeth i gael ei adnabod yn hwyrach fel ‘Clive o India’) a’i fab Edward, a briododd Henrietta Herbert, merch Iarll 1af Powis (ail greadigaeth).
Roedd Robert Clive yn ffigwr pwysig yng Nghwmni Dwyrain India, y gorfforaeth Brydeinig bwerus oedd yn tra-arglwyddiaethu ar fasnach rhwng Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol rhwng 1600 ac 1857. Nid yw’r stori y tu ôl i’r gwrthrychau yn y casgliad bob amser yn glir ac er bod rhai eitemau wedi’u prynu neu eu derbyn fel anrhegion, cafodd eitemau eraill eu caffael fel ysbail rhyfel yn dilyn gorchfygiad a marwolaeth Tīpū Sultān yng Ngwarchae Seringapatam yn 1799.
Casglodd Robert ffortiwn enfawr o aur, arian a gemau ac etifeddwyd cyfoeth y teulu gan ei ddisgynyddion trwy’r cenedlaethau. Yn y pen draw buddsoddwyd yr arian yn y gwaith adnewyddu ar Gastell a Gerddi Powis.
Mae’r Amgueddfa’n dangos sut mae etifeddiaeth gwladychiaeth Brydeinig yn parhau’n weladwy heddiw. Mae pwysigrwydd deall sut y daeth gwrthrychau mor werthfawr i Gastell Powis yn atgyfnerthu’r angen am ymchwil newydd i hanes y gwladychu hwnnw.
Cyflogwyd Robert Clive (1725-74) gan Gwmni Dwyrain India rhwng 1744 a 1767. Trwy Clive, rhoddodd y Cwmni ei fyddinoedd ar waith i oresgyn a gorchfygu is-gyfandir India trwy rym gan gam-fanteisio ac elwa’n ariannol ar gyfoeth ac adnoddau naturiol helaeth rhanbarthau deheuol India. Hyn oedd dechrau’r Ymerodraeth Brydeinig yn India, ac a sicrhaodd ffortiwn i Clive yn y cyfamser.
Roedd cryn wrthwynebiad lleol i weithgareddau Clive yn India, ond defnyddiodd drais i roi terfyn ar hyn. Ym mrwydr bwysig Plassey, trechodd Clive Siraj ud-Daulah (1727-1757), Nawab (rheolwr sofran) Bengal a rhoddodd un o’i gynghreiriad ei hun, Mir Jafar (c.1691-1765), yn ei le.
Mae cysylltiad clos rhwng presenoldeb y palanquin, neu soffa deithiol, odidog yng Nghasgliad Clive â Phrydain yn cipio grym ym mrwydr Plassey. Adeiladwyd y palanquin agored prin hwn ar gyfer Siraj ud-Daulah ac roedd yn llwyfan ddelfrydol i reolwr Bengal allu gweld - a chael ei weld gan - ei ddeiliaid wrth deithio.
Pan orchfygwyd Siraj ud-Daulah yn 1757 ym Mrwydr Plassey, cymerwyd y palanquin gan y Prydeinwyr ar ôl iddo gael ei adael ar faes y gad, yn ôl y son. Daeth Clive ag ef i Brydain wedi hynny. Ar ôl cymryd ffortiwn helaeth o drysorfa Siraj ud-Daulah, dychwelodd Clive i Brydain yn un o’i dynion cyfoethocaf.
Yn dilyn y frwydr, ehangodd Clive ei awdurdod ac, ar ei drydydd ymweliad ag India, daeth yn Llywodraethwr Bengal ac yn Gadbennaeth Byddin Cwmni Dwyrain India. Dan ei gyfarwyddyd defnyddiai’r cwmni rym milwrol i oresgyn a rheoli India.
Yn 1784, priododd mab hynaf Robert, Edward Clive (1754-1839), â Henrietta Herbert, merch Iarll Powis. Roedd y briodas yn rhoi sicrwydd ariannol i Gastell Powis, gyda’r cyfoeth a’r pŵer trefedigaethol yr oedd y teulu Clive wedi’u casglu yn India, yn ogystal â rhoi bri aristocrataidd i’r enw Clive. Parhaodd Edward â gweithgareddau trefedigaethol ei dad yn India, gan ychwanegu at gasgliad y teulu o drysorau o’r wlad.
Penodwyd Edward yn Llywodraethwr dros Madras yn 1798. Ymunodd Henrietta a’u dwy ferch ag ef yn India, gan aros am dair blynedd. Roedd hyn yn anarferol yn y cyfnod hwnnw.
Fel Llywodraethwr Madras, roedd Edward Clive yn gyfrifol am drechu a lladd Tīpū Sultān (1750-99), rheolwr talaith Mysore yn India. Olynodd Tīpū Sultān ei dad i’r orsedd yn 1782 ac roedd yn Fwslim ymroddedig a oedd yn llywodraethu dros boblogaeth o Hindŵiaid yn bennaf.
Ymladdodd Cwmni Dwyrain India dri rhyfel yn erbyn Mysore er mwyn rheoli’r tir a’i adnoddau gwerthfawr, cyn cipio awdurdod ym Mrwydr Seringapatam yn 1799. Arweiniwyd lluoedd Prydain gan yr Arglwydd Mornington.
Ar ôl i Tīpū Sultān gael ei ladd yn Seringapatam, llifodd y fyddin Brydeinig i’r ddinas. Cymerwyd y gwrthrychau a’r arteffactau gwerthfawr o drysorlys Tīpū Sultān i’w rhannu ymhlith y buddugwyr, ac mae rhai ohonynt bellach yn Amgueddfa’r Teulu Clive yng Nghastell Powis.
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cludodd Edward a Henrietta eu casgliad a’u cyfoeth trefedigaethol enfawr o India i Loegr.
Bu farw Iarll Powis, brawd Henrietta, yn 1801 ac felly etifeddodd ei mab hynaf, Edward arall, y Castell. Ymddengys i’r casgliad gael ei rannu rhwng Castell Powis a thŷ Henrietta, Neuadd Walcot nes i’r teulu werthu’r eiddo hwnnw yn 1933, a dyna pryd yr arddangoswyd y casgliad cyfan yng Nghastell Powis.
Mae Amgueddfa Clive bellach yn yr hen Ystafell Filiards ac fe’i hagorwyd yn 1987. Mae’n parhau i fod yn symbol o orffennol trefedigaethol Prydain ac mae’n cynrychioli effeithiau parhaus etifeddiaeth drefedigaethol ac ymerodrol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae ein hymchwil yn parhau ac rydym yn cyflymu cynlluniau i ail-ddehongli storïau’r hanes poenus a heriol sy’n gysylltiedig â Chastell Powis. Bydd hyn yn cymryd amser gan ein bod am sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn cael eu cynnal a’u seilio ar ymchwil o safon uchel.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell a Gardd Powis ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.
Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Darllenwch ein hadroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol yn y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt a dysgwch sut rydym yn newid ein ffordd o ymdrin â’r materion hyn. (Saesneg yn unig)