Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am denant ar gyfer fferm ddelfrydol ar arfordir Cymru i hybu byd natur a hygyrchedd i bobl

Llun o Fferm Lords Park ac arfordir Cymru
Fferm Lords Park yn Sir Gaerfyrddin, Cymru | © National Trust/C J Taylor

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n chwilio am denant newydd ar gyfer Fferm Lords Park i Sir Gaerfyrddin sy’n frwdfrydig ynghylch cadwraeth a phobl ac sydd eisiau datblygu busnes ffermio amrywiol ac arloesol mewn cytgord â byd natur.

Mae’r fferm sy’n ymestyn dros 134 erw yn edrych dros lle mae aber afon Taf ac afon Tywi yn cwrdd, ac mae'n cynnwys adeiladau traddodiadol wedi’u gwyngalchu, tir pori glaswelltog, dolydd gwellt blodeuog, coetiroedd a ffiniau o brysg arfordirol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Nhrwyn Wharley.

Yn Lords Park, mae’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am denant sy’n frwdfrydig ynghylch cadwraeth a phobl ac sydd eisiau datblygu busnes ffermio amrywiol ac arloesol mewn cytgord â byd natur.

Dylai ffermio cyfeillgar i natur fod wrth wraidd cynlluniau'r dyfodol yn unol ag ymrwymiad yr elusen gadwraeth i ddadwneud y dirywiad cenedlaethol ym myd natur ar draws y lleoedd yn eu gofal.

Gallai cyfleoedd busnes posibl pellach godi o’r fferm draddodiadol Gymreig gyda’i ffermdy Gradd II rhestredig pedair llofft, sydd wedi ei adnewyddu’n ofalus yn ddiweddar, yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, rhandy ac ystod eang o adeiladau fferm traddodiadol.

Yn ogystal ag atgyweirio, adnewyddu, a chynnal a chadw er mwyn paratoi Fferm Lords Park ar gyfer ei gosod, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi dechrau'r gwaith o ymestyn a gwella’r cynefinoedd sy’n cysylltu’n ddi-dor ar draws y dirwedd.

Mae cymysgedd o goed llydanddail wedi cael eu plannu ar lechweddau serth cyfagos, mae glaswelltiroedd wedi cael llonydd, gyda’r blodau gwyllt felly o fudd i'r peillwyr. Mae’r ddau gynefin yn annog datblygiad pridd iach a dŵr glân, ac yn cloi carbon a hybu bioamrywiaeth. Bydd amgylchedd naturiol iach ac arferion cynaliadwy yn cynorthwyo byd natur a chynhyrchu bwyd.

Mae'r fferm bellach yn barod i’w throsglwyddo i’r ceidwad nesaf a fydd yn llysgennad ffermio cyfeillgar i fyd natur a gwaith ac uchelgais gyffredinol yr Ymddiriedolaeth. Mae'r denantiaeth sydd ar gael yn rhedeg am 10 mlynedd i ddechrau.

Dywedodd Meg Anthony, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion: “Mae yna gyfle prin yma ar Fferm Lords Park i wneud gwahaniaeth a chyflawni rhywbeth arbennig yn y lleoliad bendigedig hwn ar y clogwyn. Dau fygythiad sylweddol sy’n ein hwynebu yw colli byd natur a’r newid yn yr hinsawdd, ac mae ffermwyr tenant yn chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo i gadw tirweddau a mynd i’r afael â’r argyfyngau hyn.”

“Rydym eisiau dod o hyd i rywun fydd yn rhoi byd natur wrth wraidd popeth a wnânt wrth gynnal busnes ffermio amrywiol a gwydn. Rydym yn gyffrous iawn ynghylch y posibiliadau, gyda’r tenant newydd yn rhan allweddol o siapio dyfodol Fferm Lords Park, gan ddod â manteision i fyd natur, y gymuned leol a ffermio ar draws yr Ymddiriedolaeth.”

Mae’r weledigaeth ar gyfer Fferm Lords Park hefyd yn golygu bod pobl o fewn y gymuned leol ac ymwelwyr yn elwa ohoni drwy gynyddu mynediad cyhoeddus.

Ychwanegodd Meg Anthony: “Fel elusen gadwraeth, rydym wedi ymrwymo i gynyddu mynediad at yr awyr agored. Rydym wedi cyflwyno 2km o lwybrau cerdded caniataol newydd ar draws y dirwedd yn Lords Park fel bod pobl yn gallu cael mynediad at y fferm a bod modd i gymaint o bobl â phosibl ei mwynhau.”

“Mae’r llwybrau newydd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, a allai gynnig cyfleoedd arallgyfeirio posibl hefyd i denant yn y dyfodol oherwydd y miloedd o bobl sy’n cerdded y llwybr 870 milltir bob blwyddyn.”

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod ymweld ar 17 Mai. Rhaid gwneud apwyntiad drwy e-bostio wa.tenantenquiries@nationaltrust.org.uk. Mae manylion llawn am y gosod a fideo hyrwyddo ar gael yma: www.rightmove.co.uk/properties/133939904

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Farmer Dan Jones walking with his dog, herding sheep, with the coast in the background
Erthygl
Erthygl

Farms to let 

Find out about our current farm lets for tenant farmers. We update the details as and when farms become available, so check back regularly.