Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn datgelu gwelliannau cyffrous er mwyn cyfoethogi profiad ymwelwyr i Dŷ Mawr Wybrnant, Conwy
- Cyhoeddwyd:
- 22 Mai 2025

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyflwyno newidiadau cyffrous yn Nhŷ Mawr Wybrnant gyda’r nod o wella’r profiad ar gyfer ymwelwyr i’r safle hanesyddol.
Ffermdy o’r 16eg ganrif yw Tŷ Mawr yn nyffryn Wybrnant ger pentref Penmachno, Conwy yng ngogledd Cymru, a dyma fan geni’r Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg gan ddefnyddio iaith gyfoethog, glir. Roedd cyhoeddi’r Beibl Cyssegr-lan yn 1588 yn un o ddigwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru ac mae’n parhau i ysbrydoli pobl, mudiadau, a chymunedau ledled Cymru – mae’n symbol pwerus o hunaniaeth Gymreig a goroesiad y Gymraeg, ar lafar, mewn print ac ar-lein.
Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar wella mynediad a dehongliad ar y safle, yn ogystal â gwella dealltwriaeth o gasgliad Beiblau Tŷ Mawr a chwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i fynd i’r afael â dŵr a oedd yn mynd i mewn i’r ffermdy.
Mae’r ystafell arddangos, a elwir ‘Y Llyfrgell’ bellach, yn sefyll gerllaw’r prif ffermdy ac yn cynnig profiad ymdrochol i ymwelwyr. Yno, mae ‘pod cerdded i mewn’ hardd, a ysbrydolwyd gan y paentiad o Sant Sierôm (cyfieithydd Beibl y Fwlgat Lladin) yn ei Astudfa, wedi cael ei greu er mwyn dathlu cyfieithiad William Morgan o’r Beibl. Mae’r gofod unigryw hwn, sy’n ystafell o fewn ystafell, yn fframio’r weithred o ddarllen a bydd yn gartref i gasgliad o Feiblau mewn gwahanol ieithoedd gan gynnwys rhai y gall ymwelwyr ymdrin â nhw mewn ffyrdd rhyngweithiol.
Mae dehongliad cyfoes o’r llythrennau Gothig a geir ym Meibl Cymraeg 1588 a grëwyd yn arbennig i roi darlun bywiog o adnodau dethol, wedi cael eu hysgythru ar ddodrefn a gwrthrychau o fewn Y Llyfrgell. Ategir at y rhain gan fanylion llawn cymeriad eraill megis yr addurniadau gwydr, marciau silff caligraffig, canllawiau rhwymo canoloesol modern, a deunyddiau panel sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Cymru.
Yn y gofod hwn, mae dehongliad newydd wedi'i greu gyda mewnbwn gan arbenigwyr er mwyn galluogi ymwelwyr i ddysgu am stori Tŷ Mawr a William Morgan a’r cyd-destun hanesyddol ehangach cyn iddynt archwilio gweddill yr eiddo.
Y tu mewn i’r ffermdy ei hun, mae’n fraint i ni groesawu un o gopïau gwreiddiol Beibl Cymraeg 1588 yn ôl i Dŷ Mawr Wybrnant. Mae’r Beibl wedi’i arddangos mewn cas pwrpasol newydd sbon ar y llawr gwaelod, gan roi’r cyfle i bawb weld yr eitem hanesyddol hon.
Mae'r llawr cyntaf yn gartref i gasys arddangos o ansawdd amgueddfa, a fydd yn dangos detholiad o Feiblau eraill o’r casgliad. Arddangosir y detholiadau ochr-yn-ochr â thestunau llawn dychymyg, gan ddiolch i weithdai ymchwil creadigol gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, dan arweiniad yr Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor. Dewisodd pob disgybl Feibl, gan ymateb iddo gyda’u pum synnwyr i ddiffinio ei gymeriad unigryw cyn dychmygu’r daith y bu’r Beibl arni i gyrraedd Tŷ Mawr, yn ogystal â phwy wnaeth roi’r Beibl a pham.
Mae’r grisiau serth a oedd yn arwain at y llawr cyntaf, a ychwanegwyd yn ystod ailddehongliad 1988, wedi cael ei ddisodli gan risiau mwy confensiynol gyda rheilen ar gyfer llywio'r safle yn ddiogel. Mae ychwanegiad modern arall, sef y darn o bren ar drothwy’r drws i'r brif ystafell, hefyd wedi cael ei dynnu i wella hygyrchedd yn yr adeilad.
Mae ymchwil i arwyddocâd casgliad Beiblau Tŷ Mawr, a wnaed gan yr awdur a’r ymchwilydd Hedd ap Emlyn a’r myfyriwr PhD Prifysgol Caergrawnt Ryan Comins, wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’r modd y mae’r casgliad, yn ogystal â gwaith William Morgan, yn ymgysylltu gyda’r ffenomenon ehangach o gyfieithiadau Beiblaidd. Mae'r ymchwil wedi helpu i roi cyd-destun i'r straeon y tu ôl i'r rhoddion ac wedi bod o gymorth wrth nodi lle mae bylchau yn y casgliad Beiblau.
Mae rhan o'r buddsoddiad hefyd wedi canolbwyntio ar atal difrod hirdymor gan ddŵr i dalcen deheuol y ffermdy. Mae hyn wedi bod yn bryder ers tro yn yr eiddo, gydag ymchwil yn awgrymu nad wal allanol oedd hon i fod, gyda delwedd o'r 1880au yn dangos darn croes yn amddiffyn y talcen rhag yr elfennau. Mae arolygon hefyd wedi datgelu nifer o graciau main yn y gwaith carreg a diffygion o ran y pwyntio.
Mae cysgodfa sgaffald wedi'i chodi dros dro er mwyn amddiffyn y talcen, gan ganiatáu iddo sychu cyn rhoi cymysgedd o agregau calch, a fydd yn ffurfio sylfaen ar gyfer y cotiau gwyngalch dilynol. Disgwylir y bydd hyn yn lleihau’n sylweddol faint o ddŵr sy’n mynd i mewn i’r talcen ac yn helpu i amddiffyn y lintel derw uwch y pentan ar ochr honno’r tŷ, mae’r lintel yn ganrifoedd oed ac yn nodweddiadol o’r cyfnod. Bwriedir cwblhau'r gwaith hwn yn fuan. Mae'r waliau mewnol eisoes wedi'u gwyngalchu'n ffres.
Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae’r gwelliannau yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn wirioneddol drawsnewidiol, gan wella profiad ymwelwyr a dod â hanes campwaith William Morgan yn fyw mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
“Mae’r prosiect yn nodi pennod newydd yn hanes Tŷ Mawr Wybrnant, gan sicrhau bod ei waddol hanesyddol yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Wolfson, Elusen Vronhaul Llandinam ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones am ein cynorthwyo i ariannu’r prosiect gwych hwn ac am wneud y gwelliannau cyffrous hyn yn bosibl.
“Hoffem hefyd ddiolch i benseiri vPPR, RM Jones Joinery, Glasshaus Displays, Twelve, Dewis Architecture a’r holl gontractwyr lleol a fu’n ymwneud â chyflawni gwahanol agweddau o’r prosiect.
“Yn olaf, rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith caled y mae staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn wir pawb sydd wedi bod ynghlwm a’r prosiect hwn, wedi gwneud i wireddu hyn.”
Dywedodd Tatiana von Preussen o benseiri vPPR: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein comisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddylunio cyfres o wrthrychau derw ar gyfer yr arddangosfa a fydd yn galluogi pobl i drin y casgliad Beiblau arbennig hwn.
“Cawsom ein hysbrydoli gan lun enwog Antonello da Messina o Sant Sierôm yn ei Astudfa, lle cafodd ei ddarlunio yn cyfieithu’r Beibl i Ladin. Yna aethom â’r syniad hwn i Dŷ Mawr Wybrnant er mwyn dathlu cyfieithiad yr Esgob Willam Morgan o’r Beibl i’r Gymraeg.
“Rydym wedi ail-greu’r llun enwog ar ffurf astudfa seliedig sy’n ddiogel rhag lleithder, lle gellir ymdrin â’r casgliad o Feiblau ac yn troi i fod yn arddangosfa pan fydd yr astudfa ar gau. Mae'r geometreg fwaog syml y derw plaen hefyd yn perthyn i'r gwrthrychau eraill: cadair gyfforddus, sydd hefyd wedi'i hail-greu o'r paentiad, bwrdd derw hir a meinciau yn y llyfrgell y tu allan i'r pod a set o gasys arddangos o ansawdd amgueddfa yn y ffermdy.
“Darparodd y dylunwyr graffeg, Twelve, adnodau o Feibl 1588 yn yr un ffurfdeip gothig printiedig, sydd wedi'u hysgythru ar y pod a'r dodrefn. Creodd saer coed o Gymru, R.M Jones, y pod a’r dodrefn yn ofalus iawn, ac fe wnaeth Glasshaus greu’r gwydrinau o ansawdd amgueddfa gyda stondinau derw cyfatebol."
Dywedodd Meredydd Jones o gwmni R.M Jones Joinery: “Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at y gwaith o ailddatblygu gwahanol elfennau o'r prosiect yn Nhŷ Mawr Wybrnant. Mae hyn yn cynnwys creu llyfrgell newydd, cynhyrchu dodrefn pwrpasol, gwaith addasu amrywiol a gosod grisiau newydd yn y ffermdy.”
Bu’r prosiect yn bosibl diolch i fuddsoddiad sylweddol o £294,500, a oedd yn cynnwys grant o bron i £150,000 gan Sefydliad Wolfson, cyfraniadau gan ymddiriedolaethau elusennol o Gymru sef Elusen Vronhaul Llandinam ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, a chyllid sylweddol gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Daeth yr eiddo i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951. Yn ystod y 1980au, cafodd y ffermdy ei adnewyddu'n fanwl i adlewyrchu'r arddull Duduraidd wreiddiol o gyfnod William Morgan ac fe'i hailagorwyd yn swyddogol i ymwelwyr yn 1988 i nodi 400 mlynedd ers y cyfieithiad. Mae'r buddsoddiad diweddar hwn yn gychwyn ar bennod newydd yn hanes cyfoethog Tŷ Mawr.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor ar gyfer tymor 2025 o 10am – 4pm bob dydd Sul, dydd Llun a dydd Mercher tan ddiwedd mis Medi. Cynhelir digwyddiadau arbennig ar ddydd Sul cyntaf pob mis yn ystod y cyfnod hwn.
Am ragor o wybodaeth am Tŷ Mawr Wybrnant, ewch i www.nationaltrust.org.uk/tymawrwybrnant