Skip to content

Ein cyfamodau

Llwybr ar Watlington Hill, Swydd Buckingham
Llwybr ar Watlington Hill, Swydd Buckingham | © National Trust Images/Hugh Mothersole

Yn ogystal â’r cannoedd o fannau hanesyddol yn ein gofal, mae gennym hefyd gyfamodau cyfyngol dros ardaloedd mawr o dir ac adeiladau nad ydym yn berchen arnynt. Dysgwch fwy am gyfamodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sut i wneud cais am gydsyniad cyfamod.

Am gyfamodau

Ym 1937, cawsom bŵer arbennig gan y senedd i gynnal cyfamodau dros dir. Mae cyfamodau yn gytundebau cyfreithiol preifat rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thirfeddianwyr, a wneir i ddiogelu tir neu adeiladau a helpu sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Maent yn nodi’r mathau o newidiadau i adeiladau neu dir y bydd angen ein caniatâd ni arnynt.

Mae gwneud cais am ganiatâd o dan ein cyfamodau yn wahanol i wneud cais am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig gan yr awdurdod lleol. Mae'r prosesau yn neilltuol a dim ond rheolaethau cynllunio awdurdodau lleol sy'n destun polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.

Rydym wedi ymrwymo i reoli ein cyfamodau yn deg ac yn broffesiynol. Pan fydd perchennog tir eisiau gwneud newidiadau i’w eiddo, byddwn yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion lle bo modd. Rydym yn ceisio rhoi caniatâd os ydym yn hyderus y bydd y newidiadau arfaethedig yn diogelu pwrpas a bwriad y cyfamod gwreiddiol ac yn cyflawni ein diben elusennol o warchod y natur, harddwch a hanes i bawb am byth.

Mae ein pŵer statudol yn rhoi’r hawl i ni elwa o gyfamodau hyd yn oed pan nad ydym yn berchen ar unrhyw dir sy’n elwa.

Gwneud cais am gydsyniad cyfamod

Mae gennym broses dau gam ar gyfer gwneud cais o dan ein cyfamodau. Y cam cyntaf yw cael cyngor anffurfiol ar gynnig, ac yna efallai y cewch eich gwahodd i gyflwyno cais ffurfiol.

Cam un: Ffurflen asesiad cychwynnol

Os ydych yn berchen ar eiddo sy’n destun cyfamod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yr hoffech gael cyngor ar ddatblygiad arfaethedig neu newid defnydd, cysylltwch â’ch swyddog cyfamod lleol gan ddefnyddio’r ffurflen gais am gyngor cychwynnol.

Bydd y swyddog cyfamodau yn gwerthuso effaith y cynnig yn erbyn amcanion y cyfamod i nodi pa waith sy'n debygol o gael ei ganiatáu, unrhyw gyfyngiadau dylunio a darparu arweiniad anffurfiol yn seiliedig ar y cynnig amlinellol a gyflwynwyd. Efallai y bydd angen ymweliad safle i asesu’r cynnig. Ni fydd y cyngor hwn yn benderfyniad rhwymol, ond ei nod yw arwain yr ymgeisydd tuag at gynnig sy’n debygol o gael caniatâd ffurfiol yn yr ail gam.

Efallai y byddant yn eich gwahodd i wneud cais ffurfiol neu'n awgrymu eich bod yn archwilio dyluniadau pellach i fynd i'r afael â materion penodol. Byddant yn rhoi gwybod i chi os ydynt yn meddwl ei bod yn annhebygol y byddwch yn cael caniatâd ffurfiol. Ein nod yw darparu'r asesiad hwn o fewn 28 diwrnod o dderbyn ymholiad digon manwl.

Cam dau: Ffurflen gais am ganiatâd cyfamod cyfyngol

Unwaith y byddwch wedi derbyn cyngor anffurfiol am eich cynigion gan ddefnyddio’r ffurflen asesiad cychwynnol, efallai y bydd eich swyddog cyfamod yn eich gwahodd i gyflwyno cais ffurfiol gan ddefnyddio ein ffurflen gais am gydsyniad cyfamod cyfyngol. Bydd y cais yn cael ei asesu gan uwch reolwr yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r Bwrdd Cyfamodau (lle bo’n berthnasol), a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ei gynnydd drwy gydol y broses.

Fel amod o roi caniatâd, efallai y byddwn yn gofyn i ymgeisydd lofnodi gweithred gyfamod newydd neu ddogfennaeth gyfreithiol arall. Os felly, bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am ffioedd cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth yn ogystal â’u ffioedd eu hunain wrth baratoi a chytuno ar y ddogfennaeth newydd.

Cysylltiadau

Darperir ein cyngor cyfamodau yn rhanbarthol. Gweler ein rhestr o siroedd i sicrhau eich bod yn cyfeirio eich ymholiad at y swyddog rhanbarthol mwyaf priodol.

  • Llundain a De Ddwyrain Lloegr (Caint, Dwyrain Sussex, Gorllewin Sussex, Hampshire, Ynys Wyth, Surrey, Llundain, Berkshire, Swydd Buckingham, Swydd Rydychen): covenantLSE@nationaltrust.org.uk
  • De Orllewin (Cernyw, Dyfnaint, Dorset, Gwlad yr Haf, Wiltshire, Bryste, Caerfaddon a Swydd Gaerloyw): covenantSW@nationaltrust.org.uk
  • Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr (Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Essex, Swydd Henffordd, Middlesex, Norfolk, Suffolk, Rutland, Birmingham, Swydd Derby, Swydd Gaerlŷr, Swydd Lincoln, Swydd Northampton, Swydd Nottingham, Swydd Amwythig, Swydd Stafford, Swydd Warwick, Swydd Gaerwrangon): CovenantMEE@nationaltrust.org.uk
  • Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Gaernarfon, Meirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Sir Aberteifi, Sir Fynwy, Sir Frycheiniog, Morgannwg, Sir Benfro): CovenantWales@nationaltrust.org.uk
  • Gogledd Lloegr (Gogledd Swydd Efrog, Glannau Humber, De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog, Northumberland, Cumbria, Swydd Durham, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer): CovenantNorth@nationaltrust.org.uk
  • Gogledd Iwerddon: estates.NI@nationaltrust.org.uk

Cwestiynau cyffredin

Two conservators rehanging the Knight with the Arms of Jean de Daillon Tapestry in the Dining Room at Montacute House after four years of conservation work, with the full tapestry visible against the wood-panelled wall

Amdanom ni

Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)

You might also be interested in

Yr Olygfa o Olygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru
Erthygl
Erthygl

Discover the National Trust Land Map 

Find out about the National Trust Land Map, a mapping tool you can use to observe how the variety of places we protect has grown in number across England and Wales since 1895.

National Trust Council Chair, René Olivieri at the 2023 AGM
Erthygl
Erthygl

How we are run 

Discover how the National Trust is run, how our governance arrangements are underpinned by Acts of Parliament and how they are designed to support and challenge our staff.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

A row of stone gabled cottages known as Arlington Row in Bibury, Gloucestershire
Erthygl
Erthygl

Becoming a tenant 

We advertise all our houses on an external website, and you can find information on what we look for when interested in becoming a tenant.