Skip to content

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim
Ymwelwyr yn Sarn y Cawr, Swydd Antrim | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Yn fwy na dim, rydym am i chi fwynhau eich amser yn ein llefydd arbennig. Ond byddwch yn ofalus, a dilynwch y canllawiau hyn i’ch cadw chi a’ch teulu mor ddiogel â phosibl.

Pwyll piau hi 

Er ein bod yn ymrwymedig i ofalu am dirweddau er mwynhad pawb, am byth, mae hefyd yn bwysig iawn fod pobl yn cadw’n ddiogel drwy gydol eu hymweliadau, dan do ac yn yr awyr iach.

Rydyn ni’n codi arwyddion diogelwch lle gallwn ni, ond gan ein bod yn gofalu am gannoedd o filoedd o erwau o dir a 775 milltir o arfordir yn y DU, allwn ni ddim codi arwyddion ym mhobman. Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau y gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd naturiol heb ormod o ymyrryd. 

Felly... 

Byddwch yn wyliadwrus 

Dyma pam y teimlwn mai gofyn i ymwelwyr fod yn ymwybodol a gwyliadwrus o risgiau posibl ar yr arfordir ac yn nghefn gwlad yw un o’r ffyrdd gorau o’u helpu i ofalu am eu hunain. 
Rydym yn annog pawb i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw beryglon cudd, amseroedd penllanw a thrai, a rhagolygon tywydd lleol. 

Visitor walking on Jack Scout's clifftop with sea views at Arnside and Silverdale, Lancashire
Ymwelwyr yn cerdded ar ben clogwyn Jack Scout yn Arnside a Silverdale, Swydd Gaerhirfryn | © National Trust Images/John Millar

Cadarnhewch amodau lleol 

Wrth ymweld â lleoliadau arfordirol, er enghraifft, gall amodau’r môr newid yn gyflym. Gallai fod cerrynt cryf, hyd yn oed ar y diwrnodau tawelaf, yn arbennig lle mae afon gerllaw. 

Nid yw rhai traethau’n ddiogel ar gyfer nofio. Dylech ddilyn y cyngor a roddir ar draethau ac mewn ardaloedd arfordirol bob amser. 

Hoffem hefyd ailadrodd neges sefydliadau diogelwch eraill, fel yr RNLI, ei bod hi bob amser yn well mynd i’r môr ar draethau lle mae achubwyr bywyd. 

Defnyddiwch synnwyr cyffredin 

Mae nifer o ffyrdd eraill i’ch helpu i gadw’n ddiogel: 

  • Cadwch lygad ar blant ac anifeiliaid anwes bob amser. 
  • Dilynwch lwybrau. Osgowch ymylon clogwyni neu gerdded ar dir sy’n gwneud i chi deimlo’n ansicr. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r amodau lleol cyn cynllunio unrhyw deithiau awyr agored – yn enwedig os nad ydych yn nabod yr ardal yn dda iawn. 
  • Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried a gwrando ar unrhyw gyngor diogelwch gan sefydliadau eraill, fel Timau Achub Mynydd, yn ogystal â’n cyngor ni. 

Diolch yn fawr

Yn y bôn, rydym am i bawb fwynhau’r arfordir a’r cefn gwlad rydym yn gofalu amdanynt, ond rydym hefyd am eich cadw chi mor ddiogel â phosibl. 

Diolch i chi am eich cefnogaeth ac am ein helpu ni i’ch helpu chi.

A family playing on the lawn in summer at Felbrigg Hall, Norfolk

Ble fydd eich ymweliad nesaf?

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitor in a wheelchair on a walk with children in the garden at Tyntesfield, Somerset
Erthygl
Erthygl

Llwybrau hygyrch gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae rhai llwybrau hygyrch gwych yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. (Saesneg yn unig)

Visitors kayaking on the sea past the Old Harry Rocks, Purbeck Countryside, Dorset
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel tra’n canŵio 

Er bod canŵio a chaiacio yn ffyrdd gwych o brofi byd natur a chadw’n heini, gallant fod yn beryglus os na ddilynwch y canllawiau. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel gyda’n cyngor a’n canllawiau. (Saesneg yn unig)

Walkers stopping for a photograph above Hollow Stones on Scafell Pike in Wasdale, Cumbria
Gweithgaredd
Gweithgaredd

Dringo Scafell Pike 

Dysgwch fwy am sut i baratoi ar gyfer dringo Scafell Pike, copa uchaf Lloegr, a dilynwch weithdrefnau diogelwch. (Saesneg yn unig)

Child with bow and arrow during the Summer of Sport programme at Souter Lighthouse and The Leas, Tyne & Wear
Erthygl
Erthygl

Gwybodaeth ddiogelwch y gweithgareddau ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’ 

I sicrhau y gallwch gwblhau eich gweithgareddau ’50 peth’ yn ddiogel, dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i gwblhau eich gweithgareddau gyda diogelwch mewn golwg.