Skip to content
Prosiect

Y prosiect i ail ddehongli Tŷ Aberconwy

Y tu allan i Dŷ Aberconwy, Cymru
Y tu allan i Dŷ Aberconwy, Cymru | © National Trust Images/Matthew Antrobus

Dysgwch sut yr ydym yn ail ddehongli’r tŷ masnachwr olaf i oroesi er mwyn gallu rhannu hanes y lle arbennig hwn gyda’r holl ymwelwyr. Mae’r tŷ yn rhan bwysig o’r gymuned leol ac rydym yn cynnwys gwahanol randdeiliaid i helpu i ddatblygu’r cynlluniau. Dysgwch ragor am y newidiadau wrth i’r prosiect ddatblygu.

Pam bod angen y prosiect?

Gwelodd Tŷ Aberconwy lawer o newidiadau o ran arddangosfa neu’r ffordd y mae’n cael ei ddehongli ers canol yr 1990au. Mae’r ffordd y mae ymwelwyr yn mwynhau amgueddfeydd ac adeiladau treftadaeth hefyd wedi newid. Rydym yn gweld mwy o ymweliadau gan deuluoedd ac fe fyddem yn hoffi defnyddio dull gwahanol o rannu hanes difyr y lle arbennig hwn. Rydym hefyd eisiau gweithredu fel lle i’r gymuned leol ei ddefnyddio.

Pam bod Tŷ Aberconwy mor arbennig?

Tirnod yng Nghonwy

Adeiladwyd Tŷ Aberconwy yn yr 14eg ganrif, a dyma’r unig dŷ masnachwr sydd wedi goroesi yng Nghonwy. Mae’n cynnwys dau lawr isaf o garreg sy’n cynnal llawr arall ffrâm bren sy’n ymwthio allan dros y stryd.

Ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar y tŷ ond daeth dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1934. Roedd wedi ei brynu cyn hynny gan Alexander Campbell Blair oedd wedi ei achub rhag cael ei bacio a’i gludo i’r Unol Daleithiau.

Manylyn pensaernïol yn Nhŷ Aberconwy
Manylyn pensaernïol yn Nhŷ Aberconwy | © National Trust Images/Matthew Antrobus

Sut fyddwn ni’n cyflawni’r gwaith?

Persbectif newydd

Mae Tŷ Aberconwy wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau ar hyd y blynyddoedd fel man cymdeithasol yng nghanol prysurdeb tref Conwy. Rydym yn gweithio gyda’r gymuned, partneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu defnydd y lle arbennig hwn at y dyfodol. Mae Tŷ Aberconwy yn adeilad pwysig i’r gymuned leol a bydd gwasanaethu’r gymuned honno yn ganolog i’n cynlluniau wrth symud ymlaen. Dewch yn ôl i gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiad Tŷ Aberconwy.

Y newyddion diweddaraf

Awst 2021

Glanhau’r gwanwyn

Tra’r oedd y tŷ ar gau i ymwelwyr, ni wnaeth y gwaith cadwraeth stopio. Roedd y tîm o staff a gwirfoddolwyr yn brysur yn gofalu am y lle arbennig hwn. Roedd y gwaith yn cynnwys glanhau’r ffenestri, golchi’r drysau, ysgubo’r grisiau. Daethpwyd â phlanhigion i’r tŷ i roi dipyn o fywyd iddo. Mae’r gwaith yn helpu i sicrhau bod y tŷ arbennig yma’n parhau i synnu ymwelwyr yn Stryd y Castell, Conwy. 

Peacock butterfly in the garden at Quarry Bank Mill, Cheshire

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cadwyni gwynion Pont Grog Conwy gyda’r tyrrau yn y cefndir
Lle
Lle

Pont Grog Conwy 

Elegant suspension bridge

Conwy

Yn hollol agored heddiw
Asaleas a rhododendrons yn eu blodau ym mis Mai yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Gardd Bodnant 

A world-famous garden home to National Collections and Champion Trees | Gardd fyd enwog yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus

near Colwyn Bay, Conwy

Yn hollol agored heddiw