Skip to content

Ein gwaith yn Nhreseisyllt

Blodau gwyllt yn blodeuo ar arfordir Sir Benfro
Clustog Fair a seren y gwanwyn yn blodeuo ar arfordir Sir Benfro | © National Trust Images / Gwen Potter

Yn swatio ar yr arfordir rhwng Penmaen Dewi a Phen Strwmbl fe welwch Dreseisyllt, clytwaith tlws o laswelltir, rhostir a chaeau âr arfordirol. Yn ymestyn dros 57 erw, mae’r dirwedd hon o bwys cenedlaethol, wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Safle Cadwraeth Arbennig. Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud i reoli’r tir.

Ffermio er budd natur

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Ian Gray a Nia Stephens, trwyddedeion yr ardal, i reoli’r tir yn sensitif drwy bori er lles cadwraeth gyda gwartheg a defaid.

‘Mae Treseisyllt yn lle arbennig iawn, gydag amrywiaeth o gynefinoedd ffermio pwysig, yn enwedig y glaswelltir a’r rhostir arfordirol sy’n gyfoeth o flodau. Dewiswyd Ian a Nia fel trwyddedeion yma oherwydd eu profiad o ffermio yn ogystal â’u hangerdd clir dros ffermio mewn ffordd sy’n gweithio gyda natur.’

James Roden, Ceidwad Ardal

I Ian a Nia, sydd o Dyddewi ac a dderbyniodd y cyfle hwn yn 2018, mae’n cyd-fynd yn wych â’u dull o ffermio sy’n fuddiol i natur.

Gyda’u cefndiroedd cyfunol mewn amaethyddiaeth a chadwraeth, roedden nhw’n awyddus i weithio mewn partneriaeth â ni a chefnogi nodau cadwraeth yr Ymddiriedolaeth.

Y diwrnod gwaith arferol

Gyda da byw a 57 hectar o dir i ofalu amdanynt, mae digon i’w cadw nhw’n brysur.

Mae eu gwaith yn cynnwys gwneud yn siŵr bod y ddau braidd o ddefaid mynydd Cymreig a Gwlad yr Iâ yn iawn a’u symud i’w cae nesaf. Mae’r preiddiau’n cael eu corlannu a’u symud gan ddefnyddio’u dau gi defaid, Siani a Betsi.

Mae’r gwartheg yn pori ar hyd 45 erw o arfordir, a rhaid dod o hyd iddynt a’u profi’n rheolaidd. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud ar droed, ac mae’n cynnwys lot o gerdded.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Llo bach morlo llwyd yn Sir Benfro, Cymru | © National Trust Images/John Miller

Monitro’r morloi

Tra bod Ian a Nia yn troedio’r arfordir, maen nhw’n monitro lloi bach y morloi yn yr hydref, sy’n cael eu geni ar gildraethau ar hyd yr arfordir.

Maen nhw yn aml yn gweld y cudyll coch yn hela a’r frân goesgoch yn bwydo ar y glaswelltir arfordirol, ac yn mwynhau gweld y blodau gwyllt sy’n tyfu yma.

Gwelliannau i’r tir

Rydyn ni nawr sawl blwyddyn i mewn i’r bartneriaeth hirdymor hon yn Nhreseisyllt, ac mae’r dirwedd eisoes yn dangos ei gwerthfawrogiad.

Mae seilwaith ffensio newydd, diolch i gefnogaeth Loteri Cod Post y Bobl, wedi arwain at drefniant pori cadwraeth mwy sensitif a’n galluogi i reoli symudiadau’r da byw yn fwy effeithiol, gan sicrhau bod y gwahanol gynefinoedd yn cael eu pori yn y ffordd fwyaf priodol.

Yn eu blwyddyn gyntaf, gwnaethant arolygu’r amrywiaeth o gynefinoedd yn y glaswelltir, y fflora âr, adar ffermdir y gaeaf a phoblogaethau’r frân goesgoch.

Gwnaethant nodi amrywiaeth o fflora a ffawna gwahanol, gan gynnwys:

  • Blodau’r glaswelltir: effros, tegeirian brych, tamaid y cythraul a physen-y-ceirw.

  • Fflora âr prin: melyn yr ŷd, trwyn-y-llo lleiaf, briwlys y tir âr a throellig yr ŷd

  • Adar sy’n bridio: mae ehedyddion yn bridio yma, ac mae telor Dartford, y frân goesgoch, yr hebog a’r gigfran i gyd yn bridio yn yr ardal ac yn bwydo yn Nhreseisyllt

  • Adar ffermdir y gaeaf: mae heidiau mawr o ehedyddion, llinosiaid, gwenoliaid a nicos yn bwydo ar y caeau sofl yn y gaeaf, sy’n ffynhonnell bwysig o fwyd iddyn nhw

  • Adar môr: mae aderyn drycin y graig, y llurs a’r wylog ymysg yr adar môr sy’n bridio ar y clogwyni.

Blue tit in December near Bradworthy, Devon

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr olygfa o ben clogwyn yn edrych i lawr tua childraeth creigiog sydd bron yn amgylchynu’r Morlyn Glas yn Abereiddi, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel tu draw.
Erthygl
Erthygl

Darganfyddwch y Morlyn Glas yn Abereiddi 

Mae Abereiddi yn boblogaidd ar gyfer arfordira a chaiacio ym misoedd yr haf, ond gall cerddwyr fwynhau’r arfordir garw a’r golygfeydd godidog o ben y clogwyni hefyd. Darganfyddwch harddwch y rhan hon o Sir Benfro a’n gwaith i addasu i rymoedd natur.