Skip to content

Darganfyddwch diroedd Comin Abergwesyn

Golygfa o Ben y Fan tuag at Gorn Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru.
Mwynhewch olygfeydd o Fannau Brycheiniog o Gomin Abergwesyn | © National Trust Images/Paul Harris

Mae Tiroedd Comin Abergwesyn ym Mhowys yn wylltir eang lle mae llwybrau cerdded godidog ac adfeilion hynafol rhyfeddol yn cynnig hafan heddychlon ar draws saith o diroedd comin sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt.

Dyffrynnoedd a golygfaoedd

Mae Abergwesyn yn fan o dirweddau digyffwrdd a dramatig, lle mae dyffrynnoedd serth yn ildio i diroedd comin trawiadol sy’n cynnig golygfeydd gwych cyn belled â Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Pen-y-Fan a Chorn Du.

Cwm Irfon

Mae Cwm Irfon yn hollti Abergwesyn yn ddwy, gan gynnig golygfeydd godidog o’r cefn gwlad cyfagos. Mae’r ceunant yma yn hyfryd ar ddiwrnod braf, ac yn lle perffaith i eistedd ac ymlacio am ysbaid.

Cwm Gwesyn

Ar ôl dringfa serth, mae Cwm Gwesyn yn wledd i’r llygaid ar ddiwrnod cynnes, gyda rhaeadrau a phlymbyllau prydferth pan fo’r afon yn ei llif. Trochwch eich traed yn nŵr croyw’r mynydd – perffaith ar ôl dringo a chwysu.

To Cymru

Mae’r tiroedd comin yn ymestyn 12 milltir o’r dwyrain i’r gorllewin, a’r pwynt uchaf yw Drygarn Fawr.

Mae’r garnedd enfawr hon o’r Oes Efydd, ar gopa Abergwesyn, yn atgof trawiadol o hen hanes angof.

Close-up of red kite in fight over Watlington Hill
AWAIT TRANSLATION (ADDED TO EXTRAS DOC) | © National Trust Images / Hugh Mothersole

Bywyd gwyllt bendigedig

Mae canolbarth Cymru’n enwog am ei barcutiaid, ac mae’r ucheldiroedd yn gynefin perffaith i’r ehedydd, corhedydd y waun, y gigfran a’r cochiad.

Valuable habitat AWAIT TRANSLATION

Mae’r rhostir yn fôr o borffor dros y dirwedd, tra bod yr orgors, yr ydym yn gweithio i’w hadfer, yn gartref gwerthfawr i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn storfa garbon bwysig.

Gyda chymaint o wylltir, bywyd gwyllt a golygfeydd, mae ymweliad ag Abergwesyn yn ddihangfa yng ngwir ystyr y gair.

A sheep and a lamb grazing on Bignor Hill, Slindon Estate, West Sussex

Discover more at Abergwesyn Commons

Find out how to get to the Abergwesyn Commons, where to park, the things to see and do and more.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Using a trowel during a costumed recreation of the 1930s archaeological dig by Basil Brown at Sutton Hoo, Suffolk
Erthygl
Erthygl

Hanes Comin Abergwesyn 

Darganfyddwch gyfoeth o adfeilion archeolegol, gan gynnwys 14 o garneddau o’r Oes Efydd, sydd wedi parhau’n ddigyffwrdd am filoedd o flynyddoedd yn y dirwedd eang, wyllt hon yng Nghomin Abergwesyn, Powys.

Prosiect
Prosiect

Prosiect Mawndiroedd Cymru’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy 

Dysgwch am bwysigrwydd mawndiroedd a gwaith partneriaeth Gymreig ym Mhowys. O godi ymwybyddiaeth i reoli cynaliadwy, dysgwch am ein prosiect mawndiroedd.