Skip to content

Hanes Comin Abergwesyn

Using a trowel during a costumed recreation of the 1930s archaeological dig by Basil Brown at Sutton Hoo, Suffolk
Darganfyddwch gyfoeth o weddillion archeolegol yng Nghomin Abergwesyn | © National Trust Images/John Millar

Wedi’u dylanwadu a’u siapio gan wahanol hinsoddau a gweithgarwch dynol, mae Tiroedd Comin Abergwesyn ym Mhowys yn dirwedd hynod newidiol. Heddiw mae’n lle eang a gwyllt, ond am filoedd o flynyddoedd roedd pobl yn byw ar yr ucheldiroedd ac mae Abergwesyn wedi bod yn gartref i ffermydd, eglwysi a safleoedd defodol drwy’r oesoedd.

Atgof o’r gorffennol

Gallwch weld tystiolaeth o dri chyfnod gwahanol iawn yn Abergwesyn:

  • Yr Oes Efydd gyda safleoedd defodol yn dyddio’n ôl 4,500 o flynyddoedd
  • Aneddleoedd canoloesol cynnar o rhwng 700–900 o flynyddoedd yn ôl
  • Cytiau bugeiliaid a chorlannau defaid o’r oes fodern, hyd at 250 mlwydd oed

Cadwraeth ar waith

Mae pobl wedi bod yn byw a gweithio ar y tir uchel am o leiaf 9,000 mlynedd ac, yn wahanol i safleoedd iseldir, nid yw’r ucheldiroedd erioed wedi’u haredig ac nid ydynt wedi’u heffeithio gan weithgarwch diweddar.

Cerddwch i’r copa

Golyga hyn fod Tiroedd Comin Abergwesyn yn brolio cyfoeth o weddillion archeolegol, gan gynnwys tua 14 o garneddau o’r Oes Efydd, oherwydd roedd ardaloedd ucheldir yn cael eu defnyddio at ddibenion defodol. Mae’r mwyaf trawiadol o’r rhain yn Nrygarn Fawr, ar gopa Abergwesyn, ac mae’n werth ei weld.

Adfeddiannwyd gan fyd natur

Daeth ein hinsawdd yn fwynach yn y 12fed a’r 13eg ganrif, gan wneud yr ucheldiroedd yn fwy addas i’w cyfanheddu, ac mae digonedd o dystiolaeth o weithgarwch canoloesol yn Abergwesyn. Mae yna tua 95 o safleoedd canoloesol, gan gynnwys adfeilion cytiau hirion ac olion bryncynnau clostir.

Dirywiad yn y boblogaeth

Ond daeth y pla yn y 1340au, a gostyngodd y boblogaeth mewn rhai pentrefi hyd at 50 y cant. Newidiodd yr hinsawdd er gwaeth hefyd. Yn sgil y newidiadau hyn cafodd llawer o bentrefi eu gadael, ac yn araf deg cawsant eu hadfeddiannu gan fyd natur.

Safleoedd ôl-ganoloesol

Mae gan Abergwesyn tua 459 o safleoedd sydd wedi’u dosbarthu fel rhai ôl-ganoloesol. Mae yna lochesi, chwareli, llwybrau a thomenni hel cerrig.

Diolch i’w lleoliad anghysbell, mae Abergwesyn wedi dal ei gafael ar atgofion ffisegol o’i rôl hir ac amrywiol mewn hanes dynol a naturiol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Ben y Fan tuag at Gorn Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru.
Erthygl
Erthygl

Darganfyddwch diroedd Comin Abergwesyn 

Darganfyddwch leoliad o dirweddau digyffwrdd a dramatig, lle mae dyffrynnoedd serth yn ildio i diroedd comin trawiadol sy’n cynnig golygfeydd gwych cyn belled â Bannau Brycheiniog.

Prosiect
Prosiect

Prosiect Mawndiroedd Cymru’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy 

Dysgwch am bwysigrwydd mawndiroedd a gwaith partneriaeth Gymreig ym Mhowys. O godi ymwybyddiaeth i reoli cynaliadwy, dysgwch am ein prosiect mawndiroedd.